Skip to main content

Hwb ariannol ar gyfer ‘chwaraeon i bawb’

Bydd hwb ariannol i chwaraeon yng Nghymru ar draws pob grŵp oedran yn “hwb positif i’r Weledigaeth i gefnogi mwynhad oes o chwaraeon i bawb yng Nghymru” yn ôl Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies. 

Bydd plant hyd at bobl dros 60 oed yng Nghymru yn elwa o’r cyhoeddiad am gyllid heddiw (Dydd Iau 6 Chwefror) ar gyfer iechyd y genedl, fel rhan o gynlluniau Pwysau Iach, Cymru Iach.             

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £4.5 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf ar draws tri phrosiect chwaraeon, mewn ymgais i hybu ffyrdd o fyw iachach a mwy egnïol. 

 

Bydd y prosiectau cyllido’n cael eu cydlynu gan Chwaraeon Cymru a dyma eu manylion:

  • Cynllun Hamdden Egnïol 60 + i annog mwy o bobl 60 oed a hŷn yng Nghymru i fwynhau’r ddarpariaeth hamdden leol, gyda chyfnod cychwynnol am ddim, ac wedyn darpariaeth gyda chymorth ariannol i’w helpu i ddatblygu arferion iach newydd.   
  • Bydd plant a theuluoedd yn darged i Gyrff Rheoli Cenedlaethol yng Nghymru i dreialu prosiectau chwaraeon cydweithredol sy’n helpu i ehangu’r cyfleoedd i gael mwy o bobl yn fwy egnïol, yn amlach. Bydd y prosiectau’n cael hwb cychwynnol o £200k.
  • Bydd £3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn parhau â’r gwaith llwyddiannus sydd wedi’i wneud fel rhan o’r gronfa Lle i Chwaraeon sydd eisoes wedi buddsoddi £5 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys 118 o glybiau a sefydliadau yng Nghymru y llynedd. Mae’r arian yma eisoes wedi galluogi i brosiectau cyffrous sefydlu, fel ‘Overhang’ yn Sir Gaerfyrddin lle mae gwaith wedi dechrau ar droi hen eglwys yn ganolfan ddringo dan do, yn yr un flwyddyn â chynnwys dringo yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf.

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru: “Mae gan chwaraeon rôl bwysig iawn i’w chwarae mewn cyflawni’r weledigaeth hirdymor sydd wedi’i hamlinellu yn strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach am bobl yng Nghymru’n byw bywydau hirach, gwell a hapusach. Rydyn ni’n falch iawn o gael y cyfle i weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid yn ystod y ddwy flynedd nesaf er mwyn annog pobl o bob oedran i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.” 

“Dim ond y cam cyntaf ar gyfer y prosiectau yw’r cyhoeddiad heddiw. Byddant yn creu cydweithredu ac arloesi cyffrous i helpu pawb yng Nghymru i fod yn fwy egnïol.”

“Aeth y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon ati i nodi pwysigrwydd annog mwynhad oes o chwaraeon a nawr byddwn yn dechrau gweithio gyda phartneriaid ar y manylion i alluogi i’r arian hwn helpu pobl mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ledled y wlad i elwa o fanteision iechyd a lles chwaraeon.’           

Bydd rhagor o fanylion am bob elfen ariannol yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [javascript protected email address]