Skip to main content

Does unman yn debyg i gartref ar gyfer ymarfer!

Mae’r para sbrintiwr Rhys Jones yn cadw ei gorff a’i feddwl yn iach yn ystod y cyfyngiadau symud presennol – diolch i ddull hyblyg o weithredu a gofalu am eraill. 

Mae’r sbrintiwr rhyngwladol dros Brydain Fawr – Paralympiad yn Llundain 2012 a Rio de Janeiro 2016 – wedi bod yn styc yn ei gartref ym Mro Clydach am yr wythnosau diwethaf.         

Ond fel pob person anabl, mae wedi hen arfer datblygu natur ddyfeisgar sy’n gallu bod o ddefnydd i bawb yn ei farn ef – nid dim ond athletwyr elitaidd – i geisio ymdopi â’r heriau newydd ychwanegol yma.   

I Jones, mae hyn wedi golygu newidiadau i’w drefn hyfforddi a gwerthfawrogiad o’r newydd o bobl eraill yn cadw mewn cysylltiad. 

“Rydw i’n rhedeg ar y ffordd o hyd nawr, oherwydd does gennym ni ddim parc na glaswellt eang, felly mae wedi cymryd dipyn o amser i arfer â hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf," meddai.

Mae’r enillydd medal efydd yng Ngemau Cymanwlad 2014 yn awyddus i rannu cyngor am ei drefn hyfforddi er mwyn helpu eraill i gadw’n heini a’u cymell yn ystod yr argyfwng presennol. 

Arwyddair Jones yw "Dwi’n gallu ac fe wnaf i. Gwyliwch fi" ac mae wedi bod yn rhoi fideos ar YouTube yn dangos sut gall pobl ffitio yn eu hystafell fyw. Maen nhw ar ei gyfrif Twitter - @RhysJonesRuns.

Llun: @RhysJonesRuns


"Rydw i’n ceisio cymell pobl, oherwydd mae’n anodd i bawb. Rydw i’n barod iawn i ddweud ei fod yn straen ar y meddwl, ceisio cymell eich hun gartref, pan rydych chi wedi colli’ch patrwm arferol. 

"Ond mae’r fideos yn dangos nad oes raid i chi gael pwysau trwm na dim byd felly pan rydych chi yn y tŷ. Rydw i’n defyddio’r pethau sydd gen i yn fy ystafell fyw.         

"Mae unrhyw ffurf ar ymarfer yn bwysicach nag erioed nawr. Rydw i’n gallu gweld pam mae’r llywodraeth eisiau i bawb gadw’n actif, hyd yn oed cyn y feirws yma."

Ond nid dim ond edrych ar ôl ei gorff mae Jones wedi bod yn wneud. Mae ynysu oddi wrth eraill yn gallu bod yn anodd i bawb ac mae’n dweud bod galwad fer a sgwrs gyfeillgar gyda phobl yn gallu sicrhau nad ydynt yn teimlo’n unig.

Yn ogystal â’r gefnogaeth ymarferol mae wedi’i chael gan y cyrff rheoli chwaraeon yng Nghymru dros y blynyddoedd, maent wedi ei helpu hefyd i addasu i’w drefn hyfforddi newydd o dan y cyfyngiadau symud. 

"Rydyn ni’n cael cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru. Fedra i ddim diolch digon iddyn nhw am eu help i mi dros y blynyddoedd. 

"Maen nhw’n cysylltu â mi’n gyson yn ystod y pandemig yma felly rydych chi’n gwybod bod rhywun yn meddwl amdanoch chi ac mae hynny’n hwb meddyliol hefyd.” 

Fel pawb yng Nghymru, mae’r llanc 26 oed – sydd â pharlys yr ymennydd – yn gorfod addasu ei gynlluniau diwygiedig. 

Yn lle gorfodi ei hun i wneud ei ymarferion gartref yn y Rhondda, fe ddylai Rhys fod yn mireinio ei sgiliau sbrintio yn barod ar gyfer ei drydydd Gemau Paralympaidd yn Tokyo yr haf yma. 

Mae’r cynlluniau hynny wedi cael eu rhoi i’r naill ochr ers i’r Gemau gael eu gohirio tan 2021. Ond yn union fel mae wedi delio gyda’r parlys ar ochr chwith ei gorff a’r problemau gyda’i olwg, dim ond her arall i’w goresgyn yw’r tarfu yma. 

Llun: @RhysJonesRuns


"Rydw i’n dal i hyfforddi, felly mae gen i nod o hyd. Mae’n mynd i fod yn anodd oherwydd dim ond mis Ebrill yw hi a dim ond ychydig fisoedd o’r Gemau oedden ni. 

"Ar hyn o bryd mae pob cystadleuaeth chwaraeon wedi cael ei chanslo neu ei gohirio, felly nid dim ond fi sydd yn y sefyllfa yma. Rydyn ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd. Fe ddown ni allan ohono’n well. 

"Dim ond blwyddyn arall yw e. Tri chant chwe deg pump o ddyddiau. Wrth feddwl yn bositif am bethau, mae canlyniadau positif yn gallu digwydd.”

Yng Ngemau Llundain 2012, cystadlodd Rhys yn y 100m a’r 200m, gan gyrraedd y rownd derfynol dros bellter hir. Bedair blynedd yn ddiweddarach yn Rio, cystadlodd yn y T37 100m lle gorffennodd yn chweched yn y rownd derfynol. 

Yn y canol, cyrhaeddodd rownd derfynol y T37 100m a’r 200m ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yr IPC yn Lyon a rownd derfynol y T37 100m ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yr IPC yn 2015 yn Qatar.

Y flwyddyn ar ôl Rio, gorffennodd Jones yn bumed yn rownd derfynol y T37 100m ym Mhencampwriaethau Para Athletau’r Byd yn Llundain.       

Ar ôl blasu cymaint o lwyddiant yn fyd-eang, mae Jones eisiau mwy yn Tokyo yn 2021.

"Rydw i’n ceisio gweld y positif ym mhopeth. Does dim y fath beth â negatif a dweud y gwir, dim ond cyfle i ddysgu. Rydych chi naill ai’n dysgu oddi wrtho fe neu ddim. 

"Yn amlach na pheidio, 99 y cant o’r amser, fe fydda’ i’n dysgu oddi wrtho fe. Rydw i’n ceisio peidio â gwneud yr un camgymeriad ag o’r blaen ac wedyn bod yn berson gwell o ganlyniad i hynny."