Skip to main content

Chwaraewyr Hyn yn Ffocws Cae Newydd

Mae darn anniben o dir a oedd unwaith yn gartref i ambell gar wedi’i losgi’n achlysurol yn cael ei drawsnewid yn gae pêl droed a fydd yn gwasanaethu aelodau hŷn cymuned yn Abertawe.

Ddeunaw mis yn ôl, roedd gan Glwb Pêl Droed Waunarlwydd weledigaeth i helpu pobl hŷn lleol i gadw'n actif, ond nid oedd ganddynt unrhyw le iddynt chwarae. Er bod y clwb wedi arwyddo prydles hirdymor ar gyfer gofod pedair erw yn y pentref, dim ond ei hanner oedd yn addas ar gyfer pêl droed. 

"Roedd hanner arall y gofod yn amhosibl ei ddefnyddio," esbonia Cadeirydd y Clwb Dean Thomas-Welch. "Roedd yn safle lle oedd rhaid i chi ochr gamu heibio’r baw ci i fod yn onest. Ond roedden ni’n teimlo pe gallen ni atgyweirio'r draenio a'i dacluso, gallen ni greu ail gae newydd a byddai'n berffaith i'r chwaraewyr hŷn."

Mae help wedi dod ar ffurf grant o bron i £4,000 gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru tuag at y prosiect. Roedd y clwb yn llwyddiannus gyda'i gais am gyllid oherwydd nodau clir y prosiect o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran cymryd rhan mewn chwaraeon a sut bydd yn helpu Clwb Pêl Droed Waunarlwydd i fod yn fwy cynaliadwy.

"Rydyn ni wedi cymryd cyfleuster ac rydyn ni’n ei droi'n rhywbeth positif iawn i'r gymuned," meddai Dean. "Ddeunaw mis yn ôl, fe benderfynon ni ein bod ni'n mynd i sefydlu tim i chwaraewyr hŷn. Mae gennym ni ddynion sydd wrth eu bodd yn chwarae, wrth eu bodd yn ymarfer, wrth eu bodd yn bod yn gymdeithasol ond sydd ddim mor heini efallai â'n chwaraewyr hŷn ni. Ac er bod digonedd o gyfleoedd ar gael i chwaraewyr iau, does dim cymaint i bobl hŷn.

"Mae gennym ni chwaraewyr yn eu deugeiniau, eu pumdegau, eu chwedegau a'u saithdegau. Mae rhai’n colli eu golwg ac mae gan eraill boenau a phroblemau gyda’u cymalau – yr holl bethau arferol sy'n tueddu i ddod gydag oedran - ond mae'r adran i chwaraewyr hŷn yn gynhwysol iawn. Mae'n golygu, hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo ychydig yn arafach nag oedden ni ar un adeg efallai, ein bod ni’n gallu dal ati i fod yn actif, dal i chwarae pêl droed a mwynhau'r brawdgarwch ddaw yn sgil y gêm.

"Bydd y cae newydd yn golygu bod ein chwaraewyr hŷn ni’n gallu hyfforddi a chwarae gemau ar unrhyw ddiwrnod penodol ac ni fydd raid i ni ofyn iddyn nhw dyrchu i’w pocedi am yr arian ychwanegol i dalu am logi cyfleuster. Gall cost fod yn broblem fawr gan fod llawer ohonyn nhw’n dibynnu ar fudd-daliadau fel eu hunig ffynhonnell o incwm. Mae llawer o'r chwaraewyr hŷn wedi cael eu heffeithio’n ariannol yn ystod cyfyngiadau symud Covid felly mae arian yn brin ar gyfer gweithgareddau fel pêl droed, sydd ddim yn hanfodol. 

 

"Mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn galed ar bawb, ond mae llawer o'n chwaraewyr hŷn ni wedi gorfod gwarchod eu hunain. Mae pêl droed yn ffordd wych o fynd i'r afael ag ynysu ac rydyn ni’n edrych ymlaen at amser pan allwn ni fynd yn ôl allan a chwarae."

Roedd y clwb eisoes wedi buddsoddi mewn uwchraddio ei gae presennol a datblygu ei ystafelloedd newid. 

Daeth y grant a ddyfarnwyd i Glwb Pêl Droed Waunarlwydd o elfen 'Cynnydd' Cronfa Cymru Actif sy'n darparu grantiau o rhwng £300 a £50,000 i gefnogi clybiau a sefydliadau chwaraeon gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd gwell fyth i'r genedl fod yn actif y tu hwnt i argyfwng Covid-19.