Pan mae chwaraeon ac elusennau’n mynd law yn llaw
Mae digwyddiadau her codi arian drwy chwaraeon yn cynnig ffyrdd hwyliog iawn o gael cefnogwyr i symud, codi arian, cadw’n heini a chael llawer o bleser wrth wneud rhywbeth da.
Hanner Marathon Caerdydd, er enghraifft, yw’r digwyddiad codi arian unigol mwyaf yng Nghymru ac mae ymhlith 10 Uchaf y digwyddiadau codi arian drwy chwaraeon yn y DU.
Ers ei sefydlu, fwy na 15 mlynedd yn ôl, mae’n cyfuno elfennau gorau ras elitaidd gyda digwyddiad cyfranogiad torfol, gan ddenu’r athletwyr cryfaf o bob cwr o’r byd sy’n rhedeg ochr yn ochr â rhedwyr hamdden a’r rhai sy’n mynd ati i gymryd rhan yn eu hanner marathon cystadleuol cyntaf. Y ‘rhedeg yn ôl troed pencampwyr’ sy’n creu awyrgylch unigryw mewn digwyddiad her llwyddiannus ac mae wir yn ysbrydoli’r ymdrech godi arian yn Hanner Marathon Caerdydd.
Hanner Marathon Caerdydd wedi codi mwy na £3m i elusennau y llynedd.
Mae mwy na 25% o’n rhedwyr ni’n manteisio ar y cyfle i nodi eu cyflawniad drwy godi arian ar gyfer achos da. Mae hyn yn golygu bod gennym ni bartneriaethau gyda mwy na 90 o elusennau ar gyfer y digwyddiad unigol yma: yn amrywio o’r rhai sydd yn y 10 uchaf yn y DU fel yr NSPCC, i elusen ganser leol, fel Felindre.
A dweud y gwir, mae 95% o’r holl dudalennau sy’n cael eu sefydlu ar blatfformau codi arian penodol – fel Just Giving a Virgin Money Giving – yn gysylltiedig â digwyddiadau chwaraeon – cerdded, beicio, nofio a hyd yn oed deifio awyr! Digwyddiadau her rhedeg yw’r rhai mwyaf poblogaidd gan elwa o gyfartaledd o £400 am bob rhedwr.
Yr atyniad arall i elusennau yw’r gallu cyson i gael dweud eu straeon mewn digwyddiadau chwaraeon, gan gyrraedd cynulleidfaoedd na fyddai’n gwybod am eu hachos fel arall efallai. Mae partneriaid elusennol yn gwerthfawrogi cael cyfle unigryw i ddathlu wyneb yn wyneb gyda’u cefnogwyr mewn digwyddiadau her hefyd.
Gyda miloedd o ddigwyddiadau her codi arian ledled y DU yn cael eu canslo oherwydd Covid-19, mae’n cael effaith ddifrifol iawn ar allu elusennau i sefydlu’r perthnasoedd yma a chreu incwm codi arian i gefnogi eu gweithrediadau. Heb allu cadw arian wrth gefn hefyd, mae hyn yn golygu bod llawer o elusennau’n wynebu gorfod cau.
Mae’r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Sefydliadau Gwirfoddol yn amcangyfrif y bydd sector elusennol y DU yn colli £4 biliwn o incwm yn y pen draw o ganlyniad i’r pandemig yma.
A dyma pam mae Run4Wales, ochr yn ochr â threfnwyr y digwyddiadau chwaraeon cyfranogiad torfol mwyaf ledled y wlad, wedi dod at ei gilydd i greu’r ymgyrch 2.6 er mwyn codi arian hanfodol i helpu i gau’r bwlch cyllido ac i helpu i achub elusennau’r DU. Mae’n gyfuniad perffaith i gadw’n actif (neu herio eich hun mewn unrhyw ffordd) a gwneud rhywbeth i helpu eraill.