Gall sêr Paralympaidd Cymru arwain y ffordd mewn ysbrydoli pobl anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd tymor hir i geisio cadw’n heini ac iach yn ystod y cyfyngiadau symud presennol.
Mae athletwyr fel Nathan Stephens a’r bencampwraig byd mewn croesfoduro cadair olwyn, Lily Rice, wedi rhoi fideos ar-lein eisoes yn dangos ffyrdd o ddal ati i fod yn actif.
Ond nawr mae gan brif weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) Fiona Reid nod o ehangu’r negeseuon hynny i gynnwys pawb yng Nghymru sydd ag anabledd – yn enwedig y rhai sydd â rhai risgiau penodol a all gyfyngu ar eu gallu i ymarfer yn yr awyr agored.
Hefyd dywedodd bod rhaid cyfeirio’r gefnogaeth ar gyfer pobl sy’n cael anawsterau efallai gyda chysylltu ar-lein.
Gyda chanolfannau hamdden ar gau, dosbarthiadau ymarfer wedi’u gohirio a chadw pellter cymdeithasol yn cyfyngu ar allu pawb i gadw’n heini mewn lleoliadau wyneb yn wyneb hwyliog, mae’r anawsterau ychwanegol mae pobl ag anableddau’n eu hwynebu wedi dod yn amlycach.
Gall mynd allan i’r awyr iach fod yn her fawr i rai, a dyma pam mae ymgyrchoedd llwyddiannus – fel Codi Allan, Bod yn Actif – wedi gorfod cael eu haddasu yn awr.