Skip to main content

Mamau newydd, ymarfer a Babi Actif

Wedi’i leoli yn Eryri, mae prosiect Babi Actif yn manteisio i’r eithaf ar y mynyddoedd, yr afonydd a’r llynnoedd yn yr ardal i annog merched beichiog, rhieni newydd a phlant ifanc i ymarfer.               

 

Boed law neu hindda, mae ei sesiynau Bygi Actif, ei deithiau Natur Actif (sy’n cynnwys adnabod bywyd gwyllt) neu ei sesiynau chwarae llanestog yn yr awyr agored yn profi’n boblogaidd gyda’r rhai sydd eisiau symud mwy a mwynhau’r awyr agored. 

Er hynny, mae’r cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol wedi gorfodi’r rhai tu ôl i’r prosiect i addasu – ac addasu’n gyflym. 

Jeanette Wooden sy’n cydlynu’r prosiect ac meddai: “Mae wir yn bwysig bod mamau beichiog a rhieni newydd yn gallu dal ati i ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud. Rydyn ni’n ffrydio sesiynau ffitrwydd ôl-eni a Pilates ar-lein yn awr bedair gwaith yr wythnos, yn fyw ar ein tudalen ni ar Facebook. Ac os yw pobl eisiau gwneud hynny yn yr ardd neu ar garreg y drws, gwell fyth!”

O dan arweiniad arbenigwyr ffitrwydd ôl-eni, mae’r ymarferion yn canolbwyntio ar ystum, llawr y pelfis, symudiadau craidd a chyflymu curiad y galon. Mae addasiadau’n cael eu gwneud i ystyried ble mae merched ar eu siwrnai cyn neu ôl-eni.             

“Rydyn ni wedi gweld bod rhai rhieni’n meddwl nad ydyn nhw’n gallu dal ati i wneud y pethau oedden nhw’n arfer eu gwneud ar ôl cael babi,” meddai Jeanette wedyn. “Neu mae pobl yn dod aton ni sydd heb fod yn actif iawn yn y gorffennol efallai ond sy’n gweld cael babi fel dechrau newydd. Mae cael plant yn esgus perffaith a dweud y gwir i ni gael hwyl yn gwneud pethau na fydden ni’n eu gwneud fel arfer – fel rhwbio rhisgl neu fynd yn ôl ar gefn ein beic.” 

Mae’r tîm yn credu’n gryf bod gweithgarwch a gwerthfawrogi’r byd o’n cwmpas ni’n mynd law yn llaw: “Drwy gerdded drwy gae neu barc, fe allwch chi fwynhau awyr iach a’r golygfeydd. Ond wrth ddechrau adnabod byd natur a bywyd gwyllt, mae hynny’n dod â phethau’n fyw. A does dim rhaid i chi fod yng nghalon Eryri i wneud hynny – mae gan ein dinasoedd mawr ni ofod gwyrdd hardd hefyd.”

Mae Jeanette hefyd yn credu bod y cyfyngiadau symud yn cynnig cyfleoedd cwbl newydd i ni: “Mae llai o geir ar y ffordd felly rydyn ni’n gallu clywed cân yr adar yn ein trefi a’n dinasoedd ni unwaith eto. Rydyn ni wedi cael ein gorfodi i stopio brysio hyd y lle ac mae hynny wedi rhoi amser i ni edrych a gwrando. Gyda mwy o bobl yn cerdded neu’n beicio, rydyn ni’n ailgysylltu â chynefinoedd naturiol. Mae’n rhoi lle i ni anadlu ac rydyn ni’n gallu dod oddi ar ein ffonau symudol a phlygio ein hunain yn ôl i beth sy’n bwysig.”

 

Fel prosiect sy’n annog gwerthfawrogiad o’n gwrychoedd ni, yr arfordir a choetiroedd, mae Babi Actif yn rhoi’r gorau i’w sesiynau chwarae llanestog yn ystod y cyfyngiadau symud ac yn creu cynnwys rheolaidd ar-lein: 

“Rydyn ni’n brysur yn rhoi gweithgareddau Ysgol y Goedwig syml ar-lein i ddiddanu plant gartref ac rydyn ni’n annog pobl i fynd ar deithiau natur. Bob wythnos, rydyn ni’n adnabod blodau gwyllt neu ddail rydyn ni’n eu gweld.”

Nod y prosiect yw annog arfer oes o fod yn actif o’r dechrau un ac mae gan  Jeanette brofiad uniongyrchol o bŵer ymarfer i drawsnewid bywydau: 

“Ryw ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth fy meddyg teulu i awgrymu ’mod i’n dechrau rhedeg er lles fy iechyd corfforol a meddyliol ac mae wedi newid fy agwedd i at fywyd yn llwyr. Dydi rhedeg ddim i bawb, ond yr hyn sy’n allweddol er mwyn creu arfer llwyddiannus gyda gweithgarwch corfforol yw dod o hyd i rywbeth rydych chi wir yn ei fwynhau. 

“Gobaith Babi Actif yw cynnig nifer o wahanol weithgareddau fel bod rhieni a gofalwyr yn gallu profi gwahanol fathau o ymarfer. Mae gwneud hynny gyda’u babis a’u plant bach yn golygu eu bod nhw nid yn unig yn dod yn iachach ac yn fwy heini eu hunain, ond hefyd mae’n helpu i greu arfer oes ar gyfer eu plant.”

Mae Babi Actif yn brosiect gan Eryri-Bywiol a’i nod yw creu diwylliant o deuluoedd actif drwy gyflwyno gweithgareddau am ddim i rieni (a theidiau a neiniau a gofalwyr) a phlant i fod yn actif yn ystod 1000 diwrnod cyntaf y babi. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar [javascript protected email address]