Skip to main content

Teimlo'r rhythm... mae'n amser sbrintio

Nod Lemarl Freckleton yw gwneud 2021 y flwyddyn pryd mae'n darganfod rhythm diguro.

Efallai bod y sbrintiwr o Gasnewydd yn gorfod delio â’r cyfyngiadau symud presennol, ond ni fydd hynny'n ei atal rhag ceisio cyflawni ei uchelgais tymor hir gyda’i ddau hoff beth, chwaraeon a cherddoriaeth.

Mae Freckleton eisiau rhedeg dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham ac mae wedi gosod ei olygon ar le yn y tîm cyfnewid 4x100m.

Ond yn rhedeg ochr yn ochr â'r nod hwnnw mae cynlluniau cerddoriaeth rap ar gyfer artist o'r enw           L E M F R E C K sydd eisoes wedi mwynhau sylw ar Radio 1 ac sydd wedi’i enwi gan BBC Music Introducing fel un o'u "rhai i'w gwylio" yn 2021.

Er gwaethaf ei lwyddiannau ar ac oddi ar y trac, nid yw popeth wedi mynd yn dda i Freckleton yn ystod y misoedd diwethaf.

 

Mae’r aelod o Harriers Abertawe, sy'n 28 oed, wedi dioddef ergyd ddwbl, sef dal Covid-19 a marwolaeth ei brif hyfforddwr yn Llundain, Lloyd Cowan, yn gynharach y mis hwn.

"Roedd yn sioc enfawr, fe ddaeth o unman. Dydw i ddim wedi prosesu’r peth mewn gwirionedd," meddai Freckleton am farwolaeth ei hyfforddwr.

Mae dal y feirws wedi ychwanegu at flwyddyn anodd hefyd, gan amharu ar hyfforddiant Freckleton.

"Y peth anoddaf, unwaith rydych chi wedi dod drosto, yw gallu dychwelyd yn ôl i hyfforddi oherwydd mae athletwyr wedi cael cymhlethdodau gyda’r galon a phethau os ydyn nhw wedi dod yn ôl yn rhy fuan ar ôl cael y feirws. 

"Felly, rydw i'n iawn ond alla’ i ddim hyfforddi fel rydw i eisiau hyfforddi oherwydd ’mod i'n ceisio bod yn ddiogel ac yn ofalus. Felly dyna lle rydw i ar hyn o bryd, jyst yn gwneud llawer o redeg mynydd."

Mae Freckleton yn ôl yng Nghasnewydd erbyn hyn ac mae wedi troi at ei gyn-hyfforddwr, Kevin Williams – sbrintiwr yng Ngemau'r Gymanwlad ei hun yn ei ddydd - er mwyn parhau i adfer a cheisio gwireddu ei freuddwyd o gystadlu yn Birmingham.

Yn ddigon talentog i redeg amrywiaeth o bellteroedd, clociodd Freckleton 10.66 gyda help y gwynt fis Awst diwethaf - ei amser 100m cyflymaf – ond mae'n gweld ei ddyfodol yn fest Cymru fel arbenigwr ar y 400 metr.

"Rydw i wedi bod yn agos at y Gymanwlad nawr ers Glasgow rwy’n credu, dyna'r tro cyntaf oedd gen i wir gyfle i fynd ac fe wnaethon ni fethu. Ac fe wnaethon ni fethu cyrraedd yr Arfordir Aur oherwydd rhywbeth fel 0.02 wrth geisio cymhwyso.

"Felly, rydw i wedi methu gormod o weithiau nawr. Pan gyhoeddwyd ei fod yn mynd i fod yn Birmingham, hwnnw oedd y nod cyntaf: 'Rydyn ni’n mynd i gael lle yn y tîm yna'! Ond sut a pha gystadleuaeth ydw i'n mynd i'w nodi? 

"Yn y diwedd, fe aethon ni am y pedwarawd (400m) oherwydd roeddwn i'n meddwl ei bod yn fwy tebygol y byddwn i'n rhedeg 46-47 (eiliad) na 10.2 (ar gyfer y 100m). 

"Ond ar ôl ailwerthuso a'r blynyddoedd rydyn ni wedi'u cael, rydw i wir yn credu mai'r tîm cyfnewid sydd gennym ni ar hyn o bryd ydi'r gorau rydyn ni wedi’i gael erioed. Rydw i'n credu os ydw i’n agos, yn y pedwar neu’r tîm, mae gennym ni gyfle yn bendant i fynd yno a gwneud rhywbeth gwych."

 

Yn y byd cerddoriaeth, mae L E M F R E C K wedi cael ei ddisgrifio fel croes rhwng y rapwyr Skepta, Kanye West a Childish Gambino.

Cafodd ei fagu mewn teulu cerddorol ac mae'n chwarae saith offeryn, ond eto nid yw'n gallu rhoi’r gorau i chwaraeon, ac mae'n dweud: "Rydw i'n dal i gredu bod gen i amser pedwar (400m) cyflym yno i. 

"Rydw i'n credu bod athletau a cherddoriaeth yn wahanol i mi, dyma lle maen nhw'n wahanol i’w gilydd. Gydag athletau, mae gen i nodau clir ac rydw i’n gweithio tuag at y nodau hynny. 

"Gyda cherddoriaeth, mae'n ymwneud mwy â'r teimlad, sut mae'n gwneud i mi deimlo, fel dyddiadur os leciwch chi. 

"Yr holl bethau positif sydd wedi dod allan ohono fe, ’fyddwn i byth, dim am eiliad, wedi meddwl 'hei, dwi'n mynd i gael fy chwarae ar Radio 1', neu 'mae pobl yn mynd i wrando ar fy ngherddoriaeth i', felly dwi jyst eisiau cadw'r un egni, yr un pwrpas hefo’r gerddoriaeth. 

"Rydw i jyst eisiau gwneud yn siŵr ei fod e’n fy ngwneud i'n hapus, dyna'r prif beth ac mae popeth arall yn fonws. Rydyn ni’n meddwl am wneud albwm naill ai eleni neu'r flwyddyn nesaf, mae gennym ni ddigon o gerddoriaeth yn barod. 

"Rydw i eisiau perfformio mwy a gwneud llawer mwy o berfformiadau byw oherwydd rydw i'n teimlo bod egni y byddai pobl yn ei fwynhau'n fyw yn fy nghaneuon i. Ac ie, Glastonbury, y prif lwyfan . . . na, dw i'n jocio, dwi'n jocio!

"Mae bywyd mor annisgwyl, dydyn ni ddim yn gwybod. Ond am nawr, rydw i’n falch ’mod i wedi cael y cyfleoedd rydw i wedi’u cael, ac mae'r un peth yn wir am athletau.”