Skip to main content

Gwreiddiau Cymreig morwr y Byd

Gall hwylio yng Nghymru hawlio rhan o Louis Burton, a ddaeth yn agos at ennill ras hwylio rownd y byd fawreddog y Vendee Globe, a orffennodd yn nyddiau olaf mis Ionawr.

Wedi'i eni ym Mharis, Ffrancwr yw Burton, ond mae'n dweud mai ei dad Michael, sy’n Gymro, sy’n gyfrifol am ei gariad at y gamp. Dysgodd Michael ei ddau fab i hwylio ar wyliau teuluol i arfordir Llydaw.

Mae'n rhaid bod y gwersi hynny wedi rhoi cychwyn cadarn iddo ac wedi gosod y sylfeini ar gyfer sicrhau’r trydydd safle i Burton yn y ras, sy'n brawf eithaf ar hwylio unigol, di-stop.

Roedd Burton yn ail dros y llinell derfyn mewn gwirionedd, ond mae’r ras eleni - sy'n cael ei chynnal bob pedair blynedd - wedi cael ei labelu'n glasur, a’r Vendee Globe orau erioed hyd yn oed.

Yr enillydd oedd Yannick Bestaven, Ffrancwr arall, a orffennodd yn drydydd y tu ôl i Burton a Charlie Dalin. Ond cafodd Bestaven ei ddatgan yn enillydd ar ôl cael bonws amser o fwy na 10 awr am y rhan a chwaraeodd yn achub cyd-gystadleuydd.

Roedd yr amser a roddwyd yn ôl iddo’n wobr am oriau a dreuliwyd yn chwilio am Kevin Escoffier ac yn ei achub. Roedd cwch Escoffier wedi torri’n ddarnau ac wedi suddo ar Dachwedd 30, 800 milltir i'r de orllewin o'r Cape of Good Hope.

Rhoddodd hynny'r fuddugoliaeth i Bestaven, gyda Dalin yn ail a Burton yn drydydd – gan ddilyn yn llwybr hwylio cyd-gystadleuydd Vendee, y morwr o Gymru Alex Thomson a ddaeth yn ail yn y ras bedair blynedd yn ôl.

Efallai bod y mawredd byd-eang yma mewn cychod technolegol gwerth mwy na £5m yn ymddangos yn bell iawn o fyd llanc ifanc yn dysgu hwylio mewn dingi Optimist fechan o amgylch arfordir neu lynnoedd Cymru.

 

Ond mae Sarah McGovern, rheolwr perfformiad RYA Cymru, y corff rheoli cenedlaethol ar gyfer hwylio yng Nghymru, yn gwybod bod modelau rôl yn bwysig.

Mae gan hwylio Cymru ambell un mewn amrywiaeth o fformatau – o’r enillydd medal aur Olympaidd, Hannah Mills, yn y dosbarth 470, i Bleddyn Môn, a fydd yn rhan o Dîm gwerth miliynau o bunnoedd Ineos UK wrth iddo geisio ennill Cwpan America.

"Rydw i'n credu ei bod yn bwysig i bob camp gael modelau rôl y gall pobl ifanc eu gweld ac uniaethu â nhw," meddai Sarah.

"Rydyn ni'n gwneud llawer o osod nodau gyda morwyr ifanc i geisio darganfod beth yw eu dyheadau nhw yn y tymor hir. Os oes gennym ni forwyr o Gymru sy'n cyflawni'r nodau hynny, yna mae'n dangos eu bod nhw’n gyraeddadwy.

"Ar y llaw arall, rydw i wedi cael sgyrsiau gyda phobl ifanc 13 a 14 oed ac wedi gofyn iddyn nhw, 'wyt ti'n gwybod pwy ydi Bleddyn Môn? A dydyn nhw ddim. Maen nhw'n gwybod pwy ydi Hannah Mills ond ’fydden nhw ddim yn gwybod llawer amdani.

"Rydw i'n meddwl mai'r rheswm am hynny ydi am eu bod nhw eisiau bod yn bencampwyr byd yn y dosbarth Optimist, oherwydd dyna'r math o hwylio maen nhw'n gyfarwydd ag o.

"Mae pethau ychydig yn wahanol mewn hwylio ieuenctid ac efallai eu bod nhw eisiau bod fel Bleddyn a Hannah, ond i'r rhai iau efallai nad ydyn ni wedi bod yn dda iawn fel camp am hyrwyddo'r unigolion yma.

"Efallai pe bydden nhw'n gallu cwrdd â rhai o'r modelau rôl yma y bydden nhw’n cael eu hysbrydoli. Does dim bai ar yr athletwyr eu hunain – maen nhw'n bobl hynod brysur, maen nhw'n byw ar arfordir de Lloegr yn aml ac yn hyfforddi dramor am ran helaeth o'r flwyddyn."

Dylai Môn a Mills gael cyfle i godi eu proffil yn ystod y misoedd nesaf gyda brwydr Cwpan America i gael ei chynnal ym mis Mawrth – ar yr amod bod Tîm y DU yn dod drwy'r Gyfres Her yn erbyn yr Eidal ac UDA – ac wedyn bydd Mills yn amddiffyn ei medal yng Ngemau Tokyo yr haf yma.

Am nawr, mae digon o amser i forwyr ifanc Cymru astudio deunydd wedi’i recordio a chael awgrymiadau wrth i'r cyfyngiadau symud fygwth ymestyn eu seibiant arferol dros y gaeaf.

Mae’r rhai sy’n gobeithio am le yn sgwad Cymru yn gallu canolbwyntio ar eu rhaglenni hyfforddiant corfforol unigol ar hyn o bryd, ond yr agosaf maen nhw'n ei gael at brofiad rasio yw rhaglen ar-lein o'r enw Virtual Regatta.

"O ran cadw eu hymennydd yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau, mae'n adnodd gwych," ychwanegodd Sarah.

"Rydyn ni’n cael sesiynau Zoom sy'n gysylltiedig â'r gêm ar-lein yn aml, er mwyn cael sgwrs am rasio wrth i ni chwarae, sy'n eithaf da mewn gwirionedd gan nad ydi hynny'n rhywbeth sy'n hawdd ei wneud pan mae pawb ar y dŵr yn eu cwch unigol."

Y gobaith, serch hynny, ydi y bydd y byd rhithwir yn ildio’i le i'r byd go iawn yn fuan iawn a bod morwyr ifanc Cymru yn gallu dychwelyd i'r dŵr.

"Yr haf ydi'r amser recriwtio gorau ar gyfer y gamp, beth bynnag, ac rydyn ni’n croesi ein bysedd, erbyn i’r gwanwyn neu'r haf gyrraedd, y gallwn ni ddechrau gweithredu eto ar y dŵr drwy ein holl glybiau."