Skip to main content

Elusen Marchogaeth Ceffylau yn Addasu i Covid

Mae Canolfan Farchogaeth Overleigh ger Wrecsam yn darparu gwersi marchogaeth, Clwb Merlod a chyfleoedd gwirfoddoli i blant, pobl ifanc ac oedolion. Ond ers i Joanne Spencer gymryd yr awenau yn yr iard gyfeillgar yn 1999, mae wedi bod yn darparu cymaint mwy na dim ond gwersi a charthu o dan y ceffylau.

O gael sgwrs gyflym gyda Jo, mae'n amlwg bod ganddi angerdd nid yn unig dros geffylau ond hefyd y manteision maen nhw’n eu cynnig i bobl:

"Mae ceffylau fel therapi," meddai. "Rydyn ni wedi cael grwpiau o bobl ifanc yn eu harddegau yma sydd wedi cael eu rhoi mewn gofal arbenigol. Roedden nhw wedi bod mewn helynt am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ond fe wnaethon nhw ddechrau dod i Overleigh ac fe wnaeth fyd o wahaniaeth iddyn nhw. 

"Roedd gennym ni un bachgen oedd yn gwrthod mynd i unman; gwrthod mynd i'r ysgol yn llwyr. Fe gyrhaeddodd yma ac roedd o wrth ei fodd. Fe ddechreuodd ddod yn rheolaidd ac yn fuan iawn roedd wedi dechrau dychwelyd i'r ysgol yn rheolaidd."

Ac mae enghreifftiau di-ri eraill. Ond, wrth gwrs, fe newidiodd Covid-19 bopeth.

Yn ffodus, llwyddodd yr elusen nid-er-elw i agor pan oedd y cyfyngiadau’n caniatáu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae llawer o gyfranogwyr rheolaidd Overleigh wedi colli llawer o gyfleoedd. Nid yw un fenyw yn ei deugeiniau sydd ag anawsterau dysgu wedi gallu mynychu'r ganolfan ers y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020. Cyn hynny, roedd hi'n teithio 20 milltir i gyrraedd yr iard unwaith yr wythnos. Yn ei galwadau wythnosol gyda Jo, mae'n amlwg ei bod yn awyddus iawn i ddychwelyd, yn union fel cymaint o’r cyfranogwyr rheolaidd eraill.

Maent i gyd yn gwerthfawrogi'r addasiadau mae Canolfan Farchogaeth Overleigh wedi gorfod eu gwneud er mwyn bod yn ddiogel rhag Covid. Yn ffodus, mae'r elusen wedi cael help ar hyd y ffordd gyda grantiau o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.

 

I ddechrau, roedd rhaid cael mwy o hetiau marchogaeth i ganiatáu ar gyfer cwarantin rhwng pob defnydd. Dywedodd Jo: "Mae hetiau marchogaeth tua £60 yr un ac yn yr hinsawdd economaidd yma, mae hynny'n llawer o arian i'w wario, yn enwedig pan rydych chi'n dechrau arni fel dechreuwr."

Felly, mae cefnogaeth Cronfa Cymru Actif wedi bod yn hwb enfawr, yn enwedig gan fod y ganolfan yn gwasanaethu cymunedau incwm isel cyfagos fel Plas Madog a Chefn.

"Rydyn ni eisiau i bawb gael y cyfle i ddod yma a mwynhau'r hyn sydd ar gael," meddai Jo.

Wedyn, roedd angen system un ffordd yn y ganolfan, drwy ei stablau, ar gyfer ffitio hetiau. Roedd hyn yn golygu bod angen rhywfaint o waith adeiladu bach i aildrefnu'r lle. 

Mae'r tîm ar yr iard wedi rhannu cyfarpar erioed ond daeth hwn yn faes pryder arall yn gyflym iawn. Mae'r grant wedi helpu tuag at gost eitemau fel berfâu, brwshys buarth a rhawiau ychwanegol.

Hefyd, rhaid i Jo a'r tîm loywi rhai cymwysterau felly byddant yn buddsoddi rhywfaint o'r cyllid mewn cyrsiau diogelu a Chymorth Cyntaf. Bydd caban gydag ochr agored yn cael ei adeiladu hefyd fel bod rhieni’n gallu gwylio eu plant yn cymryd rhan, wedi'u cysgodi rhag y tywydd ond mewn gofod sydd wedi'i awyru ac sy'n galluogi cadw pellter cymdeithasol.

Bydd y gefnogaeth gan Gronfa Cymru Actif nid yn unig yn caniatáu i’r ddarpariaeth ailddechrau ar yr iard yn Wrecsam pan fydd y cyfyngiadau diweddaraf yn cael eu llacio, ond hefyd mae’n golygu y gall Jo barhau â'i breuddwyd o helpu aelodau bregus y gymuned:

"Fe gefais i grant yn gynharach y llynedd gan Chwaraeon Cymru i'n helpu ni i dalu am yswiriant ac roedd hynny’n golygu ein bod yn gallu ailagor. Nawr mae'r grant diweddaraf yn golygu y gallwn ni roi systemau sy'n cydymffurfio â Covid ar waith, gan ein galluogi ni i roi mwy o gyfleoedd i fwy o bobl."