Skip to main content

Adroddiad – Stadiwm Principality yn helpu chwaraeon i gael effaith economaidd enfawr ar Gymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Adroddiad – Stadiwm Principality yn helpu chwaraeon i gael effaith economaidd enfawr ar Gymru

Mae astudiaeth gan Chwaraeon Cymru ar effaith chwaraeon ar fywyd yng Nghymru wedi canfod bod gan Staidwm Principality werth blynyddol o oddeutu £32miliwn i'r economi.

Mae'r adroddiad Pwysigrwydd Economaidd Chwaraeon yng Nghymru 2016/17, a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru, yn dangos bod y diwydiant chwaraeon wedi tyfu i £1,142m (cynnydd o 10% ers 2010). Canfu hefyd fod y sector chwaraeon yn gwneud yn well na'r diwydiannau fferyllol, teithio, llety a thecstilau yng Nghymru.

Dangosodd asesiad o effaith economaidd Stadiwm Principality fod ei werth amcangyfrifedig i economi Cymru yn £32.3m mewn gweithgarwch/allbwn economaidd ychwanegol yng Nghymru, a bod £11m o hyn yn werth ychwanegol gros. Mae calendr digwyddiadau'r stadiwm yn cefnogi bron 400 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn safle'r stadiwm ac mewn mannau eraill yng Nghymru trwy ei gadwyn gyflenwi.

Ac mae torf a fydd yn llenwi'r lle yn dod i Gaerdydd ar gyfer gêm ragbaratõol Cwpan Rygbi'r Byd gyda Lloegr.

Canfu'r adroddiad gan Chwaraeon Cymru fod yr economi chwaraeon yn cyfrannu £1,182m mewn gwariant defnyddwyr, a chynhyrchwyd 29,700 o swyddi cysylltiedig â chwaraeon yn yr un flwyddyn.

Dywedodd Owen Hathway, Pennaeth Mewnwelediadau a Pholisi Chwaraeon Cymru: "Mae'r ffigurau hyn yn dangos yr effaith drawiadol y mae chwaraeon yn ei chael ar ein heconomi yng Nghymru. Beth sy'n sefyll allan yw, hyd yn oed yn ystod cyfnodau economaidd heriol, bod chwaraeon, fel cerbyd economaidd, wedi bod yn tyfu o ran pwysigrwydd. Ers 2010, mae cynnydd o 14% wedi bod mewn cyflogaeth sy'n gysylltiedig â chwaraeon, cynnydd o 14% mewn gwariant defnyddwyr ar chwaraeon, a chynnydd o 10% mewn gwerth ychwanegol gros cysylltiedig â chwaraeon."

Darllenwch fwy yma: http://sport.wales/news--events/news--events/our-news/latest-news/it%E2%80%99s-official,-sport-is-one-of-the-top-industries-for-making-wales-money.aspx