Skip to main content

Ashton Hewitt yn ysgrifennu llythyr agored at eraill sydd wedi'u heffeithio gan hiliaeth

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Ashton Hewitt yn ysgrifennu llythyr agored at eraill sydd wedi'u heffeithio gan hiliaeth

Mae seren rygbi'r Dreigiau Ashton Hewitt wedi ysgrifennu llythyr agored yn gwahodd eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan hiliaeth mewn chwaraeon i rannu eu profiadau fel rhan o ymgyrch #RhannwchEichStori. 

Mae'r asgellwr – a dargedwyd gan y diweddaraf mewn cyfres o negeseuon hiliol ffiaidd ar twitter ar ôl i’w dîm golli yn erbyn y Sgarlets ddechrau’r flwyddyn – eisiau i eraill ymuno ag ef i gyfrannu eu barn at y prosiect arloesol sy'n ceisio creu newid ystyrlon a dileu anghydraddoldeb hiliol unwaith ac am byth. 

Yn ystod y deufis diwethaf, mae ymgyrch #RhannwchEichStori wedi bod yn cynnig lle diogel i bobl rannu eu profiadau byw o anghydraddoldeb hiliol a hiliaeth mewn chwaraeon, boed fel cyfranogwyr, athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, cyflogeion neu rieni.

Cynhaliwyd cyfres o fforymau a chyfweliadau ar-lein, ac mae'r wefan www.storiesmatter.co.uk yn cael ei defnyddio i uwchlwytho straeon ysgrifenedig neu fidoes fel bod posib deall yn well y rhwystrau sy’n atal cymryd rhan mewn chwaraeon, yn ogystal â’r rhwystau sy’n atal cynnydd gyrfaol ar gyfer y rhai sydd eisiau gweithio yn y byd chwaraeon.

Bydd y wefan yn cau ddiwedd mis Ionawr ac mae Hewitt yn annog eraill i beidio â cholli'r cyfle i dynnu sylw at eu profiadau. 

Comisiynwyd yr ymchwil gan Chwaraeon Cymru a chynghorau chwaraeon y gwledydd cartref eraill gan obeithio y bydd yn darparu lefel o wybodaeth sydd heb fod ar gael erioed o'r blaen, gan roi cyfle am ymdrech fwy gwybodus a chynaliadwy i fynd i'r afael yn uniongyrchol â hiliaeth. 

 

 

Llythyr agored Ashton Hewitt yn llawn:

At bawb y mae hiliaeth wedi effeithio arnynt, 

Fel rydych yn gwybod efallai, rydw i'n chwaraewr rygbi proffesiynol ac yn ddiweddar rydw i wedi bod yn siarad am fy mhrofiadau o hiliaeth yn y byd chwaraeon a’r tu allan iddo er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r broblem. Fy rhesymau dros siarad a chefnogi'r gwaith mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud nawr yw er mwyn annog pobl i rannu eu profiadau a dod yn rhan o gasgliad o bobl sy'n creu llais cryfach i bwyso am y newid hollbwysig hwn. 



Fel rhywun sydd wedi profi hiliaeth drwy gydol fy mywyd, yn y gamp rydw i wedi'i chwarae erioed, rydw i eisiau gwneud yr hyn a allaf i sicrhau nad oes rhaid i bobl iau sy'n cymryd rhan ym mha gamp bynnag brofi rhai o'r pethau rydw i wedi eu profi, a theimlo fel rydw i wedi teimlo. Doeddwn i ddim yn ddigon hyderus bob amser i siarad am faterion yn ymwneud â hiliaeth rhag "troi’r drol" a chodi mater na fyddai unrhyw un arall o'm cwmpas i’n ei ddeall. Roedd hyn yn caniatáu i hiliaeth barhau heb ei gwestiynu. Roeddwn i hefyd yn sylweddoli nad oedd digon o fodelau rôl i edrych i fyny atyn nhw yn fy nghamp i ac wrth i mi fynd yn hŷn ac edrych heibio'r tîm, mae diffyg modelau rôl ar draws sefydliadau cyfan. 

Mae hyn yn rhywbeth sy’n gorfod newid yn fy marn i. I'r rheini ohonom ni sy'n chwarae am hwyl neu fel gyrfa, ni ddylai hiliaeth fod yn rhan o'r siwrnai honno fyth ac mae'n hanfodol ein bod ni’n deall, yn cydnabod ac yn addysgu ar fater hiliaeth. Mae chwaraeon yn rhan enfawr o'n bywydau ni ac ochr yn ochr â hynny, dylai amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weladwy ar draws yr holl chwaraeon a'u sefydliadau, o’r cyfranogwyr ar y lefelau is i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar y brig. Os ydyn ni’n bod yn onest, mae'r rhain yn bethau nad yw sefydliadau wedi bod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â hwy, ond mae Chwaraeon Cymru yn addo eu bod wedi ymrwymo i roi sylw i hyn. Mae’n dechrau drwy sicrhau dealltwriaeth o brofiadau pobl a'r rhwystrau maent wedi'u hwynebu. Felly, rydw i’n annog unrhyw un sy'n teimlo’n ddigon cyfforddus i wneud hynny i rannu eu profiadau a chymryd rhan yn y fenter #RhannwchEichStori fel bod eu llais yn cael ei glywed wrth bwyso am y newid hwn.

Diolch i chi am ddarllen,
Ashton Hewitt