Skip to main content

Ben Davies – manteision dull aml-chwaraeon o weithredu

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Ben Davies – manteision dull aml-chwaraeon o weithredu

Mae Ben Davies yn rhan o garfan Cymru sydd ar drywydd gogoniant Cwpan y Byd allan yn Qatar, ond mae seren Tottenham Hotspur hefyd eisiau ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Mae Ben – sydd dal ond yn 29 oed, ond sydd eisoes yn un o chwaraewyr mwyaf profiadol y byd pêl droed yng Nghymru – yn eiriolwr enfawr dros bobl ifanc yn rhoi cynnig ar gymaint o wahanol chwaraeon â phosib.

Efallai ei fod yn awyddus i gymell eraill i ddilyn ôl ei droed, ond mae cyn amddiffynnwr Clwb Pêl Droed Abertawe yn credu mai sylfaen mewn amrywiaeth eang o weithgareddau gwahanol yw'r sylfaen orau i blant ysgol.

 

Yn gyn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera yng Nghwm Tawe, roedd Ben yn chwarae rygbi, criced, athletau, sboncen a thennis, yn ogystal â phêl droed, yn ystod ei ddyddiau ysgol, ac mae’n credu bod y cyfleoedd hynny’n amhrisiadwy. 

“Roedd fy ysgol i’n ysgol rygbi fawr iawn, felly fe wnes i chwarae llawer o rygbi yn fy nyddiau cynnar i yno,” meddai’r chwaraewr a chwaraeodd i Gymru yn rowndiau terfynol twrnameintiau Ewro 2016 a 2020.

“Mae’n debyg fy mod i wedi chwarae mwy o rygbi na phêl droed yn ôl yn y dyddiau hynny. A dweud y gwir, nid mae’n debyg, fe wnes i yn bendant chwarae mwy o rygbi!

“Ond fe wnes i chwarae rhywfaint o bêl droed yn ystod y blynyddoedd ysgol hynny ac roedd gennym ni dîm pêl droed ysgol da.

“Ond yn bennaf, mae Ystalyfera yn adnabyddus am ei rygbi, felly fe wnes i dreulio llawer o amser ar gae rygbi.”

Go brin bod yr oriau a dreuliodd ar y cae rygbi, yn mireinio ei sgiliau, yn syndod mewn ysgol sydd wedi cynhyrchu nifer o chwaraewyr rygbi rhyngwladol a rhanbarthol.

Ond mae Ben yn credu bod yr ymateb cyflym a’r gwaith troed hyblyg y mae bellach yn ei ddangos ar lwyfan mwyaf y byd pêl droed wedi’u datblygu hefyd gyda bat criced neu raced yn ei law.

“Rydw i’n teimlo ’mod i’n chwarae dipyn o bopeth, a dweud y gwir,” meddai’r cyn-ddisgybl, a fynychodd Ystalyfera rhwng 2004 a 2009.

“Fe wnes i chwarae cryn dipyn o griced yn ystod y cyfnod hwnnw, camp roeddwn i wrth fy modd â hi. Fe wnes i chwarae dipyn o sboncen a thennis hefyd.

“Y peth amlwg oedd ei fod e wedi fy helpu i oherwydd rydych chi'n dysgu llawer o wahanol sgiliau o chwarae gwahanol chwaraeon.

“Fe wnaeth e fy helpu i yn bendant gyda fy mhêl droed, gyda phethau fel cydsymud, cydbwysedd, ystwythder a ffitrwydd cyffredinol, ar ôl chwarae llawer o wahanol chwaraeon.”

Yn wir, fe wnaeth Davies gymaint o argraff yn ei glwb criced lleol - Clwb Criced Ynysygerwn, sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Criced De Cymru - fel ei fod bellach yn llywydd eu clwb.

Mae Ben yn credu bod dwy elfen yn hanfodol i bobl ifanc yn ei hen ysgol i ffynnu a mwynhau eu gweithgarwch corfforol.

Yn gyntaf, mae'n dweud bod gan yr ysgol hanes maith a threftadaeth o osod chwaraeon ysgol a gweithgareddau corfforol y tu allan i'r cwricwlwm yng nghanol bywyd yr ysgol.

Yn ail, roedd y cyfleoedd yn cael eu trefnu a’u goruchwylio gan staff brwdfrydig a medrus.

“Roedd gen i ddau athro chwaraeon gwych yn yr ysgol mewn ysgol gyfun fawr,” meddai.

“Mr Ioan Bebb a Mr Craig Evans oedden nhw.

“Roedden nhw’n athrawon chwaraeon brwdfrydig iawn ac felly roedd y ddau ohonyn nhw’n barod iawn i helpu ac yn fy annog i bob amser.                         

“Roedden nhw wastad yn fy nghefnogi i, yn enwedig pan wnes i ddechrau chwarae mwy o bêl droed lawr yn Abertawe. Felly, roedd yn wych cael y ddau athro hynny y tu ôl i mi.”

Mae Ben hefyd am barhau i ysbrydoli plant ledled Cymru i fod yn actif a defnyddio gweithgarwch corfforol fel pont tuag at ddysgu ehangach mewn meysydd eraill o hanes a diwylliant Cymru.

“Mae chwaraeon yn gallu bod yn bwerus iawn,” meddai.

“Mae’n deimlad gwych bod yn rhan o’r garfan yma a chael y cyfle i deithio o amgylch y byd a dangos y gorau o Gymru. Mae'n deimlad arbennig iawn.

“Rydyn ni’n ceisio dangos y gorau o Gymru a bydd pawb yn gwisgo’r crys gyda balchder.

“Mae’r gefnogaeth gan fy nheulu i a holl gefnogwyr Cymru wedi bod yn anhygoel. Rydw i’n siŵr y bydd yr un peth yn wir ar gyfer y Cwpan Byd yma i gyd, ac os gallwn ni ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn actif, mae hynny yn sicr yn beth da.”

Newyddion Diweddaraf

Sut perfformiodd athletwyr Cymru ym Mharis 2024?

Wel mae wedi bod yn haf gwych! Efallai bod Paris 2024 wedi dod i ben, ond bydd atgofion Olympiaid a…

Darllen Mwy

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy