Skip to main content

Beth sydd raid i’r Timau Pêl Droed Cenedlaethol ei wneud?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Beth sydd raid i’r Timau Pêl Droed Cenedlaethol ei wneud?

Mae Ryan Giggs a Jayne Ludlow ill dau yn credu y gall eu timau cenedlaethol gyrraedd rowndiau terfynol eu Pencampwriaethau Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd, mae'r ddau reolwr yn ceisio cael llwyddiant yn y gemau cymhwyso sy'n weddill i'w timau ac mae'r ddau'n dweud bod ganddynt reswm i deimlo'n optimistig.

Os bydd carfan y dynion dan ofal Giggs yn sicrhau lle yn rowndiau terfynol y twrnamaint yn 2020, ac wedyn tîm merched Ludlow yn gwneud yr un peth ar gyfer eu pencampwriaeth flwyddyn yn ddiweddarach, byddai'n ddwbl unigryw i Gymru.

Dim ond unwaith ers 1958 mae tîm pêl droed ar lefel hŷn yng Nghymru wedi llwyddo i fynd drwy'r rowndiau cymhwyso a hawlio ei le yn rowndiau terfynol cystadleuaeth fawr - pan fu i ddynion Chris Coleman fynd yn eu blaen mor gofiadwy i rownd gynderfynol yr Ewros yn 2016.

Nid yw merched Cymru wedi mynd heibio'r cam cymhwyso erioed, ond Ludlow sydd wedi dod agosaf at hynny pan gafodd Cymru ei threchu gan ei gelyn Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd yr haf yma.

Dair blynedd ers dyddiau melys Bordeaux, Toulouse a Lille - a gôl wych Hal Robson-Kanu yn erbyn Gwlad Belg a'r atgofion am y "wal goch" wyrthiol - mae gan dîm Giggs gyfle gwych gyda dwy gêm ar ôl i'w chwarae yn eu grŵp cymhwyso.

Rhaid i Gymru ennill yn Azerbaijan ar Dachwedd 16 a gartref yn erbyn Hwngari dridiau yn ddiweddarach i gadw'r gobeithion yn fyw o gymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol y Pencampwriaethau Ewropeaidd yr haf nesaf.

Byddai ennill y ddwy gêm yn gwarantu safle ymhlith y ddau uchaf i Gymru, oni bai fod Slofacia - sy'n chwarae oddi cartref yn erbyn y tîm sydd ar frig Grŵp E, Croatia, ar Dachwedd 16 - yn cael chwe phwynt hefyd o'u dwy gêm derfynol.

Cafodd merched Ludlow gêm gyfartal, ddi-sgôr ym Melffast yn ddiweddar yn erbyn Gogledd Iwerddon, sy'n golygu bod ganddynt siawns o hyd o fynd o flaen y tîm sydd ar frig y grŵp a'r ffefrynnau mawr, Norwy.

Pe bai'r ddau'n cyrraedd y nod, byddai'r canlyniadau i bêl droed a chwaraeon yng Nghymru yn enfawr, gyda chynnydd yn y wobr ariannol, nawdd a refeniw teledu'n chwyddo coffrau Cymdeithas Bêl Droed Cymru - fel ei bod yn gallu buddsoddi ymhellach mewn datblygiadau ac yn y gêm ar lawr gwlad.

"Mae mwy o ddisgwyliadau wrth i ni fynd drwy'r ymgyrch," meddai Giggs.

"Mae mwy o ddisgwyliadau wrth i ni fynd drwy'r ymgyrch," meddai Giggs, a olynodd Coleman ond a fethodd fynd â Chymru i rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia.

"Ond rydyn ni wedi cael gêm gyfartal yn Azerbaijan yn y gorffennol, ac mae Croatia newydd gael gêm gyfartal yno hefyd. Felly does dim posib cymryd unrhyw beth yn ganiataol. Fedrwch chi ddim gwneud hynny yn y grŵp yma - o gwbl. Os gwnawn ni berfformio'n dda, rydw i'n meddwl y gwnawn ni ennill y ddwy gêm yma, ond rydw i'n canolbwyntio ar Azerbaijan ar hyn o bryd.

"Rhaid i chi droi fyny ar y noson ond rydyn ni'n chwarae'n dda. Mae gennym ni fomentwm a gyda pherfformiadau'r tair gêm ddiwethaf, rydw i'n meddwl, ar noson wahanol - yn enwedig yn erbyn Slofacia - y bydden ni wedi gallu cael y triphwynt.

"Mae'r tîm mewn cyflwr da ar hyn o bryd ac rydw i'n hyderus. Os gwnawn ni gymhwyso, byddai'n enfawr i bawb yn y byd pêl droed yng Nghymru. Mae'n trawsnewid popeth, fel gwelson ni dair blynedd yn ôl, ac mae'r sgil-effaith yn ymestyn ymhellach."

I ferched Cymru, mae'r gofynion yn edrych yn fwy heriol - yn enwedig gan mai dim ond y tîm ar frig y grŵp sy'n cymhwyso'n awtomatig - ond nid yw'n dasg amhosibl.

I gyrraedd rowndiau terfynol 2021 yn Lloegr, heb fynd drwy'r drws cefn, rhaid i Gymru gau'r bwlch o bedwar pwynt i ddal arweinwyr Grŵp C, Norwy, tîm oedd yn ddigon da i gyrraedd rowndiau gogynderfynol Cwpan y Byd y Merched yn Ffrainc y llynedd.

Mae'n dasg enfawr, ond gyda phedair gêm ar ôl - dwy yn erbyn y Norwyaid - mae gan garfan Ludlow gyfle i droi'r drol.

Efallai nad oedd y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon y canlyniad roeddent ei eisiau, ond mae Ludlow yn benderfynol bod ei thîm yn symud ymlaen i'r cyfeiriad iawn.

"Rydyn ni'n edrych ar y perfformiad ac yn dweud 'rydyn ni'n gwneud cynnydd'. Efallai nad yw'r canlyniad yn dweud hynny ar hyn o bryd, ond roedd lefel y perfformiad yn llawer gwell nag yn ystod y misoedd diwethaf," esboniodd.

"Fe wnaethon ni gystadlu'n dda, dyfalbarhau drwy'r amser a chwarae pêl droed arbennig iawn. Mae gennym ni ddwy gêm yn erbyn Norwy. Rydyn ni'n edrych ymlaen at yr her ym mis Ebrill ac ymhellach i'r Flwyddyn Newydd. Wnawn ni ddim ildio yn sicr.

"Pe bai'r tîm yma'n cymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol, fe fydden nhw'n haeddu rhywbeth gwych yn sicr. Nid o ran y cyflawniad ei hun yn unig, ond o ran o ble maen nhw wedi dod - ymhell ar ôl y timau eraill.

"Y peth positif ydi ein bod ni'n creu'r cyfleoedd. Rydw i mor falch ohonyn nhw ac mae wedi bod yn ymgyrch dda iawn hyd yma."

Os bydd y ddau dîm o Gymru'n llwyddiannus, byddai'n hatrig nodedig i gyfranogiad Cymru yn rowndiau terfynol twrnameintiau chwaraeon mawr dros gyfnod o dair blynedd.

Byddai Cwpan Rygbi'r Byd eleni yn cael ei dilyn gan Ewros pêl droed 2020 yng ngêm y dynion, a fersiwn y merched i ddod yn 2021 - gan sicrhau enw da pellach i Gymru fel gwlad sy'n gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl.

Geiriau gan Dai Sport.