Skip to main content

Beth yw digwyddiad chwaraeon gorau Cymru yn ystod y degawd diwethaf?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Beth yw digwyddiad chwaraeon gorau Cymru yn ystod y degawd diwethaf?

Gyda'r chwiban olaf bron â chael ei chwythu ar y degawd presennol, rydyn ni eisiau dathlu'r digwyddiadau mwyaf nodedig yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf.

Yn ystod mis Rhagfyr fe fyddwn ni'n gosod yr eiliadau gorau - o geisiau munud olaf a medalau aur i Y tro enwog hwnnw yn erbyn Gwlad Belg - yn erbyn ei gilydd mewn cystadleuaeth fydd yn cael ei phenderfynu gan eich pleidleisiau chi ar gyfryngau cymdeithasol.

Ond i ddechrau, rydyn ni eisiau i chi roi gwybod i ni pa ddigwyddiadau ddylai gael eu hystyried.

Nodwch eich tri digwyddiad chwaraeon gorau rhwng 2010 a 2019 ar twitter neu Instagram gan ddefnyddio'r hashnod #DegawdChwaraeonCymru.