Skip to main content

Bocsio Cymru’n ymladd i fod yng nghornel mwy o bobl

Mae gan Gymdeithas Focsio Amatur Cymru (WABA) uchelgais i fod yn un o'r cyrff rheoli chwaraeon mwyaf rhagweithiol, datblygedig a llwyddiannus, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob cwr o'r byd.

Roedd y bwrdd yn y newyddion yn gynharach yr haf yma pan alwodd y bocsiwr sy'n Sikh, Aaron Singh, am ddiddymu'r rheol sy'n gorfodi bocswyr amatur yng Nghymru i ymladd wedi eillio'n llwyr.

Hawliodd Singh ym mis Mehefin bod y rheol - a gafodd ei mabwysiadu gan bob un ond ychydig o wledydd ym mhob cwr o'r byd - yn ei atal rhag cystadlu gan fod eillio ei farf yn erbyn ei grefydd.

Ond roedd bocsio yng Nghymru wedi cymryd camau eisoes i fod yng nghornel Singh. Erbyn hynny roedd y gymdeithas hanner ffordd drwy'r broses o gael y genedl i ddiddymu'r rheol a orfodwyd yn fyd-eang gan y Gymdeithas Focsio Amatur Ryngwladol (AIBA).

Mae cadeirydd bocsio yng Nghymru, Derek McAndrew, yn teimlo bod y ffaith bod y gymdeithas wedi cael y blaen ar y rhan fwyaf o wledydd yn y frwydr yn erbyn y rheol ddadleuol yn arwydd o'i huchelgais blaengar.

Dywedodd McAndrew bod WABA wedi bod yn anghyfforddus gyda'r rheol ers peth amser ac wedi gofyn i AIBA am esboniad. Roedd eisiau ymuno â dim ond tair gwlad arall yn y byd oedd wedi diddymu'r rheol ar gyfer eu cystadlaethau domestig.

"Roedden ni wedi bod yn edrych ar hyn ers peth amser," meddai Derek McAndrew. "Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd i focsio yng Nghymru, yn syml oherwydd bod y rheol yn rheol gan AIBA ac mae gofyn i ni fel corff rheoli cenedlaethol gadw at reolau'r sefydliad rydyn ni'n aelod ohono.

"Wedi dweud hynny, roeddwn i bob amser yn anghyfforddus â'r rheol fel cadeirydd Bocsio Cymru am nad oeddwn i'n credu ei bod yn gynhwysol.

"Byddai rhywun, yn hwyr neu'n hwyrach, yn digio, er enghraifft, y gymuned Sikh, a gallai hynny arwain at bob math o broblemau.

"Felly fe wnes i gysylltu â Mike Loosemore, sef swyddog meddygol AIBA. Fe wnes i ysgrifennu at Mike a gofyn 'dweud wrtha' i beth yw'r problemau meddygol gyda'r rheol yma?', ac fe atebodd e gan ddweud, 'does dim'.

"O feddwl am y peth, mae bocswyr proffesiynol yn bocsio gyda barf ac mae gan bawb bron yn y byd rygbi farf.

"Mae'n debyg, pan gafodd y rheol yma ei chyflwyno i ddechrau, mai'r pryder oedd bod problemau'n bosib, yn enwedig gyda mân flewiach, pe baech chi'n torri'r croen. Ond mae hynny'r un mor debygol mewn rygbi â bocsio."

Penderfynodd WABA anfon llythyr swyddogol at brif weithredwr AIBA.

Meddai Derek McAndrew: "Fe wnaethon ni ysgrifennu atyn nhw gan ddweud 'rydyn ni'n anghyfforddus gyda'r rheol yma', a'n bod yn poeni y byddai rhywun yn ein herlyn ni'n hwyr neu'n hwyrach. Beth fyddai sefyllfa AIBA pe baen ni'n cael gwared ar y rheol?

"Yr ateb gawson ni oedd eu bod nhw'n ein cefnogi ni ac eisiau i focsio yng Nghymru a ffederasiynau cenedlaethol eraill fod yn gwario eu harian ar ddatblygu'r gamp yn hytrach nag yn amddiffyn achosion llys posib.

"Felly, roedd hwn yn arwydd clir i ni na fydden nhw'n ein cosbi ni mewn unrhyw ffordd pe baen ni'n newid y rheol. Fe gymerodd hyn i gyd lawer o amser, fel y gallwch werthfawrogi rwy'n siŵr."

Gyda'r wybodaeth roedd wedi'i chasglu, trafododd bwrdd WABA y cynnig am y tro cyntaf ym mis Mai eleni.

Erbyn mis Gorffennaf, roedd WABA wedi cael gwared ar y rheol eillio. Daeth y rheoliad newydd i rym ar Awst 1 yn barod ar gyfer dechrau'r tymor bocsio domestig newydd ym mis Medi.

Ychwanegodd McAndrew: "Yn y diwedd, fe gawson ni'r wybodaeth yma. Rydw i'n meddwl bod y bwrdd wedi cyfarfod tua chanol mis Gorffennaf a gwneud penderfyniad mai'r unig ffordd ymlaen oedd cael gwared ar y rheol eillio.

"Fe fyddai hwn yn gynnydd da i ni o ran cynhwysiant, sy'n bwysig iawn i ni."

Mae Singh - myfyriwr 20 oed ym Mhrifysgol Caerdydd - wedi croesawu'r safiad newydd.

Meddai: "Rydw i'n ddiolchgar ac yn falch eu bod nhw wedi rhoi amser i ddod i benderfyniad ac wedi gwneud y penderfyniad iawn.

"Bydd Sikhiaid ifanc sy'n tyfu i fyny yn gallu dechrau bocsio nawr, a chael gyrfa yn y gamp hyd yn oed o bosib. Bydd mwy o amrywiaeth yn y gamp yn siŵr o helpu bocsio yng Nghymru."

Mae Jasveer Singh o'r Sikh Press Association wedi adleisio'r farn yma ac meddai: "Rhaid i ni ganmol Bocsio Cymru am wneud y newid yma.

"Mae gan focsio yng Nghymru hanes gwych o greu rhai o oreuon y gamp; o Jimmy Wilde i Joe Calzaghe, ac mae llawer o ymladdwyr enwog yn rhan o hanes y Sikhiaid.

"Mae'n fuddiol i'r ddwy gymuned sicrhau bod cyfle i Sikhiaid gymryd rhan mewn cystadlaethau bocsio yng Nghymru."

Er bod Cymru a'r gwledydd eraill sy'n caniatáu ymladd â barf ymhlith y lleiafrif ym mhob cwr o'r byd, mae cymdeithas Cymru'n teimlo ei bod ar ochr gywir y ddadl nawr wrth iddi fynd ati i ddatblygu'r gamp ym mhob cymuned.

"Nid ni yw'r unig wlad sydd wedi cael gwared ar y rheol eillio," meddai Derek McAndrew.

"Mae ein cydweithwyr ni yn Lloegr, Canada a Seland Newydd wedi ymuno yn yr un broses.

"Rydyn ni'n credu ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad iawn. Mae'n briodol i'n camp ni. Mae pobl yn y gamp yn anghytuno efallai, ac rydyn ni'n parchu hynny.

"Mae pobl sydd wedi bod yn rhan o'r gamp ers amser maith yn credu na ddylai newid, ond weithiau mae'n rhaid newid. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib allu cystadlu yn y gamp."

Mae'r cadeirydd yn dweud bod y gymdeithas, a'r clybiau sy'n aelodau ohoni, wedi cymryd camau mawr ymlaen ym mhob cymuned ledled Cymru, gan wneud y gamp mor hygyrch, amrywiol a chynhwysol â phosib.

"Mae bocsio'n gamp sy'n gallu gwneud hynny. Po fwyaf o gynulleidfa fyddwn ni'n ei denu, y mwyaf o effaith gawn ni ar bob cymuned," meddai McAndrew.

Ar hyn o bryd mae bocsio yng Nghymru'n mynd drwy gyfnod da, yn y cylch a'r tu allan iddo, ac mae Derek McAndrew yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant presennol.

"Ein neges ni i bawb yw dewch i ymuno â bocsio yng Nghymru," meddai. "Rydyn ni'n mwynhau'r cyfnod mwyaf llwyddiannus erioed i focsio yng Nghymru, ac rydw i hyd yn oed yn sôn am fynd yn ôl i'r 1920au a'r 1930au.

"Yng Ngemau'r Gymanwlad y llynedd, fe gawson ni fwy o fedalau nag erioed, mwy o fedalau aur nag erioed, ac fe gawson ni ein cydnabod gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru fel y prif gyfrannwr at yr ymdrech yng Ngemau'r Gymanwlad.

"O fynd yn ôl ryw bedair neu bum mlynedd, doedd hynny ddim yn wir. Cafodd bocsio amatur yng Nghymru ei disgrifio fel camp anaddas i bwrpas yn 2012.

"Mae'r bwrdd wedi newid hynny'n wych a nawr rydyn ni'n cael ein cydnabod fel camp gadarn yn ariannol sy'n cael ei llywodraethu'n wych. Mae gennym ni bobl arbennig iawn yn gwneud gwaith arbennig iawn.

"Ac mae mwy i ddod. Rydyn ni'n gwybod bod gwaith i'w wneud eto, ac rydyn ni newydd gynnal ymarfer i lunio cynllun strategol. Y nod yw bod y corff rheoli mwyaf llwyddiannus ar unrhyw gamp, nid dim ond yng Nghymru, ond yn y byd.

"Mae gennym ni uchelgais mawr. Rydyn ni'n deall yn iawn faint o waith sydd gennym ni i'w wneud, ond rydyn ni'n symud i'r cyfeiriad iawn ac yn gwneud cynnydd.

"Mae'r dyddiau o ganolbwyntio ar ddim ond yr hyn sy'n digwydd yn y cylch bocsio wedi hen fynd. Mae hynny'n bwysig wrth gwrs, ond mae'r llywodraethu, y proffesiynoldeb a'r integriti cysylltiedig â hynny'n bwysig i ni hefyd."