Skip to main content

Buddsoddiad o £125,000 yn nhrac Merthyr

Bydd rhedwyr, cerddwyr a beicwyr yn elwa o fuddsoddiad mewn cyfleuster mawr ym Merthyr.

Bydd uwchraddio'r trac yn Ysgol Uwchradd Afon Tâf yn Nhroedyrhiw hefyd yn golygu bod y disgyblion yn cael mynediad at chwaraeon ac ymarfer corff ar gyfer gweithgarwch cwricwlaidd ac allgyrsiol.

Gan ddechrau yn gynnar yn 2021, bydd y trac graean presennol yn cael ei newid am arwyneb tarmac modern gyda gwaith draenio cysylltiedig. Mae goleuadau cludadwy newydd hefyd yn golygu y gellir defnyddio'r trac drwy gydol misoedd y gaeaf.

Gosodwyd yr arwyneb presennol yn ei le yn 1967 ac er bod gwaith atgyweirio wedi'i wneud dros y blynyddoedd, mae'n hen ffasiwn ac mae angen ei uwchraddio.

Mae'r grant drwy Chwaraeon Cymru yn cael ei wneud yn bosib diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hefyd yn darparu cyllid sylweddol ar gyfer y prosiect.

Dywedodd Owen Hathway, cyfarwyddwr cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru:

“Er gwaetha’r arwyneb rydyn ni’n gwybod bod y trac wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth gan glybiau a grwpiau lleol ac mae'r galw am ddefnyddio'r cyfleuster wedi cynyddu.

“Mae'r bartneriaeth rhwng y cyngor, yr ysgol a'r clybiau, a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn yr hwb chwaraeon yma, yn glod gwirioneddol i'r gymuned.

“Mae mwy o bobl yn gallu mwynhau mwy o gyfleoedd o safon bellach gam yn nes.”

Wrth siarad am y cynlluniau, dywedodd Rheolwr Datblygu Chwaraeon Merthyr, Dan Bufton:

“Ffocws datblygiad y trac yw darparu man diogel i'r rhai sydd eisiau rhedeg, cerdded neu feicio, mewn cyfleuster y mae posib ei ddefnyddio ddydd neu nos, drwy gydol y flwyddyn.

“Rydyn ni’n gwybod o weithio gyda chlybiau a darparwyr lleol bod gwir angen am ddarparu cyfleuster i'r rhai sydd ddim yn hyderus i ddefnyddio'r ffyrdd a'r llwybrau, yn ogystal â'r gymuned ehangach. 

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cydweithio ag Afon Tâf ar y prosiect yma.”

Ychwanegodd Stephen Baber, Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Afon Taf:

“Rydyn ni’n hynod falch bod y cyllid wedi cael ei sicrhau ar gyfer ailosod y trac yn Afon Tâf.

“Bydd hyn yn sicr o wella’r profiadau dysgu i'n disgyblion ni fwy fyth ond rydyn ni yr un mor falch y bydd yn ein galluogi ni i gryfhau ein gwaith partneriaeth gyda chyrff allanol fel Clwb Triathlon Merthyr Tudful, a darparu adnodd gwych at ddefnydd y gymuned.   

“Mae hon yn fenter eithriadol gyffrous i #TîmTâf.”

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu'r Cyhoedd:

“Bydd gosod wyneb newydd ar y trac rhedeg yn gwella twf ein grwpiau cerdded, beicio a rhedeg ni yn y fwrdeistref ac yn rhoi lle diogel iddyn nhw gymryd rhan drwy gydol y flwyddyn ochr yn ochr â'n cefn gwlad hardd.

“Mae'r trac wedi'i leoli'n strategol yng nghanol y fwrdeistref a bydd yn dod yn ganolfan i ni ar gyfer cyfleoedd newydd wrth symud ymlaen.

“Ein cynlluniau yw gwella ansawdd cyfleusterau chwaraeon mewn ysgolion y mae posib i ddisgyblion eu defnyddio a hefyd cynnig defnydd cymunedol sy’n cael ei gydlynu.”