Skip to main content

Cadw plant yn actif - cymorth gan chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cadw plant yn actif - cymorth gan chwaraeon yng Nghymru

Mae'r ysgolion yn parhau i fod ar gau, clybiau a chanolfannau hamdden dan glo, y tywydd wedi bod yn ddifrifol, ac mae hyd yn oed y bywiog Joe Wicks yn dechrau colli stêm.

Ionawr a Chwefror yw'r misoedd anoddaf yn aml, ond mae fersiwn 2021 yn teimlo fel pe bai wedi bod yma am fwy na sydd raid eisoes, heb lawer o groeso.

Gall cadw plant yn actif ac wedi'u hysgogi fod yn anodd ar y gorau, gyda phartneriaid, teuluoedd, swyddi, astudiaethau a chartrefi i ofalu amdanynt.

Yng nghanol y cyfyngiadau symud presennol yma, i lawer sydd â chyfrifoldebau am bobl ifanc, gall deimlo’n amhosibl ei reoli bron – yn enwedig os yw llefydd diogel yn yr awyr agored yn anodd dod o hyd iddyn nhw gerllaw.

Plant yn neidio dros glwyd
Sporting Wales

 

Ond gyda rhywfaint o help, syniadau syml, ychydig o amser a rhywfaint o ddychymyg, gall rhieni, gofalwyr ac athrawon ysbrydoli plant i gadw eu cyrff i symud a bod mewn hwyliau da.

Peidiwch â phoeni. Nid yw hon yn un o'r erthyglau hynny fydd yn mynnu eich bod chi’n dod yn hyfforddwr chwaraeon o'r safon uchaf i ychwanegu at yr holl ddyletswyddau eraill rydych chi’n eu jyglo wrth addysgu gartref.

Rydyn ni newydd gasglu ychydig o awgrymiadau gan wahanol chwaraeon a sefydliadau yng Nghymru sy'n ffyrdd syml o gael plant i ddefnyddio rhywfaint o egni, mireinio eu sgiliau corfforol, a chadw mor hapus â phosibl.

Ac rydyn ni wedi eu rhoi mewn un lle, lle maen nhw'n hawdd dod o hyd iddyn nhw.

Lansiwyd ymgyrch #CymruActif yn ystod y gwanwyn y llynedd pan wnaeth argyfwng Covid-19 orfodi’r cyfyngiadau symud cyntaf ac rydyn ni wedi parhau i ddiweddaru’r adnoddau hynny a cheisio cadw pobl ifanc yn iach.           

Mae'r rhain yn weithgareddau y gall plant eu gwneud dan do ac yn yr awyr agored i gyd-fynd â'u haddysgu gartref, neu pan fyddant yn ôl adref os ydynt yn dal i fynychu'r ysgol.

Ar gyfer sgiliau pêl syml i blant ifanc, beth am roi cynnig ar y gemau a'r ymarferion sydd wedi’u rhoi at ei gilydd gan sefydliad Criced Cymru? Mae ganddyn nhw weithgareddau hwyliog i blant pump i wyth oed drwy eu rhaglen "All-Stars" a gweithgareddau i blant hŷn drwy "Chance to Shine".

Ewch i https://cricketwales.org.uk/keeping-active-in-lockdown

Mewn partneriaeth â Morgannwg, mae heriau Gemau Criced Rhithwir i blant eu cwblhau hefyd, gyda chwech o sgiliau i roi cynnig arnyn nhw. 

Gallwch ddod o hyd iddyn nhw yn https://www.glamorgancricket.com/documents/kids/cricket-comp-13781.pdf.

Hefyd mae feriswn Cymraeg ar gael yn https://cricketwales.org.uk/documents/cricket-comp-welsh-1053.pdf

Dywedodd rheolwr datblygu Criced Cymru, Mark Frost: "Rydyn ni wedi llunio cyfres o gemau, gweithgareddau a sgiliau y gall plant eu gwneud yn ystod y cyfyngiadau symud. 

"Mae'r pethau yma’n llawer o hwyl ac maen nhw i gyd yn cadw plant yn actif yn y byd criced gyda sgiliau sylfaenol dal, taflu, batio a bowlio."

Os yw eich plentyn chi’n ffansïo bod y Gareth Bale neu’r Jess Fishlock nesaf, mae digon o weithgareddau pêl droed ar gael.

Un ohonyn nhw yw'r bartneriaeth newydd rhwng Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru a Girlguiding Cymru, sydd â'r nod o roi cyfle i ferched ddysgu am bêl droed a datblygu sgiliau newydd.

Gallwch lawrlwytho pecyn her pêl droed am ddim, gydag wyth adran i ferched ifanc eu cwblhau ac annog gweithgarwch pêl droed a gwybodaeth. I'r rhai sy'n gorffen yr heriau, mae Bathodyn Pecyn Her Pêl Droed #GirlsCAN ar gael.

I gael mwy o wybodaeth ac i lawrlwytho'r pecyn, ewch i:

https://www.fawtrust.cymru/grassroots/girlguiding/

Hefyd gall athletwyr addawol fod yn actif drwy redeg, neidio a datblygu eu cydbwysedd a'u cydsymudiad drwy gyfres o fideos sydd wedi’u creu gan Athletau Cymru drwy gyfrwng eu rhaglen Starting Blocs.

Mae'r fideos yn cynnwys Charlotte Arter, rhedwraig dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad, yn ogystal â dyn cyflymaf Cymru – Sam Gordon – yn dangos ei sgiliau ŵy ar lwy trawiadol.                 

Mae’r fideos Starting Blocs i’w gweld yn: https://www.facebook.com/pg/StartingBlocs/videos/

Mae llawer o bobl yn colli pêl rwyd ar hyn o bryd, yn gemau neu sesiynau hyfforddi rheolaidd, ond mae newyddion da i’r chwaraewyr ifanc sydd eisiau cadw'n heini a chadw mewn cysylltiad â'r gamp.

Bob nos Fawrth, mae Pêl Rwyd Cymru yn cynnal sesiynau "Nettyflix". Mae'r rhain yn cael eu cynnal rhwng 7.00pm ac 8.00pm ar Zoom ac maent yn cynnwys cyfweliadau byw a chyfleoedd Holi ac Ateb gyda sêr pêl rwyd, fel y Gymraes enwog Suzy Drane ac eraill o'r byd chwaraeon.

Ewch i: http://tiny.cc/netty-flix

Bob nos Iau, rhwng 7.00pm ac 8.00pm, mae cyn seren ryngwladol Cymru a'r Dreigiau Celtaidd Kyra Jones yn cynnal sesiwn Hyfforddiant Seibiant Dwysedd Uchel (HIIT) y gallwch gymryd rhan ynddo gartref ar Zoom.

Ewch i: http://tiny.cc/kyra-workout

Erbyn hyn mae sesiwn dwysedd isel ar gael hefyd.

Yn ogystal â’r rhai byw, mae posib gweld recordiadau o sesiynau Kyra ar-lein hefyd.

Ewch i: https://vimeo.com/503405140 neu edrychwch ar gyfrif Twitter Pêl Rwyd Cymru - @WelshNetball a dilyn y dolenni.

Mae arolygon diweddar wedi dangos bod lefel y gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc wedi gostwng yn sylweddol yn ystod 2020 wrth i’r pandemig gyfyngu ar y mathau o weithgareddau sydd ar gael.

Mae hynny'n her i iechyd corfforol a lles meddyliol plant yn ogystal â'r ffordd maen nhw’n edrych ar chwaraeon a gweithgarwch yn y tymor hwy.

Ond er gwaethaf y cyfyngiadau presennol, mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i helpu pawb sy'n gyfrifol am blant i ddod o hyd i ffyrdd hwyliog o gadw'n iach.

Bydd ymgyrch #CymruActif yn parhau i roi cymorth i bawb yng Nghymru i sicrhau bod plant yn actif.