Skip to main content

Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi bron I £3.1m o arian cyfalaf newydd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi bron I £3.1m o arian cyfalaf newydd

Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi y bydd £3.1m mewn cyllid cyfalaf newydd o fudd i nifer o brosiectau cyffrous mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae cyfanswm o 30 o brosiectau wedi derbyn cyllid i alluogi mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau chwaraeon, gan gynnwys BMX, bocsio, pêl rwyd a ffensio. Mae buddsoddi yn yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf yn rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â darparu mwy o gyfleoedd chwaraeon, bydd y cyllid hefyd yn helpu i ddiogelu dyfodol hirdymor cyfleusterau hamdden drwy eu gwneud yn fwy ynni effeithlon a chynaliadwy.

Canolfan Hamdden Plascrug Aberystwyth i gael gwelliannau

Mae miloedd o bobl ar fin dod yn fwy actif yn Aberystwyth nawr bod grant o £470,261 wedi ei gytuno i adnewyddu Canolfan Hamdden Plascrug yn Aberystwyth. Dywed Cyngor Sir Ceredigion y disgwylir i'r cyfleuster newydd sicrhau mwy na 70,000 o gyfranogwyr y flwyddyn. 

Bydd ardal segur yn cael ei hadfywio fel cyfleuster pob tywydd gyda llifoleuadau gydag arwyneb Gen2 newydd sy'n addas ar gyfer hoci 5 bob ochr, pêl droed 5 bob ochr a phêl rwyd. Bydd yr ailwampio yn darparu cyfleoedd i ysgolion a'r gymuned leol.

Bocsio Cymru yn gweithio gyda chymunedau difreintiedig yn gymdeithasol

Mae Bocsio Cymru yn paratoi i annog y genhedlaeth nesaf i gymryd rhan yn y gamp ac yn targedu pobl ifanc o gymunedau difreintiedig. Gyda grant o £40,000, gall fuddsoddi nawr mewn wyth cylch bocsio newydd, a bydd pedwar ohonynt yn gylchoedd dros dro i’w defnyddio mewn digwyddiadau ac mewn cymunedau ledled Cymru.

Ar hyn o bryd, mae Bocsio Cymru yn cael ei orfodi i logi cylchoedd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau rhanbarthol gan gynnwys sioeau bocsio cymunedol. Dywed Bocsio Cymru y bydd yr offer newydd yn helpu i gynyddu cyfranogiad ledled Cymru, datblygu bocswyr clwb o bob cornel o Gymru a bydd hefyd yn gwella addysg hyfforddwyr.

Cyflwyno pobl ifanc yng Nghymru i Saethu Targedau

Mae Ffederasiwn Saethu Targedau Cymru ar fin cyflwyno pobl ifanc ledled Cymru i'w camp, diolch i grant o £37,399. Bydd y cyllid yn cael ei fuddsoddi mewn uwchraddio ei faes saethu symudol sy’n cael ei ddefnyddio i gyflwyno sesiynau blasu ledled Cymru.

Bydd y grant gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn helpu pobl o bob oedran i roi cynnig ar y gamp a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd hwyliog a dan reolaeth.

Dywed Ffederasiwn Saethu Targedau Cymru y bydd y grant yn ei helpu i gyflawni ei nod o gyflwyno 2500 o bobl ifanc i'r gamp yn ystod 2023 a 2024.

Helpu Blaenau Gwent i fod yn fwy cynaliadwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi cael £261,558 i wneud ei gyfleusterau hamdden yn fwy ynni-effeithlon a chost-effeithiol.

Bydd y grant yn helpu i ddiogelu dyfodol Canolfannau Chwaraeon Tredegar ac Abertileri, diolch i osod paneli solar yn eu lle. Nid yn unig y bydd y paneli solar newydd yn lleihau ôl troed carbon y canolfannau, byddant hefyd yn arbed £51,000 y flwyddyn i’r awdurdod lleol. Dros 20 mlynedd, bydd yr arbedion hynny yn dod i gyfanswm enfawr o £1.6 miliwn! 

Gyda biliau ynni yn uwch nag erioed ac yn dringo'n uwch, bydd y grant yn helpu'r canolfannau hamdden i barhau i annog pobl i gadw'n heini a dysgu nofio, sy’n sgil achub bywyd.

 

Cyfleuster ymarfer newydd yng Nghlwb Golff y Pîl a Chynffig

Bydd cyfleuster ymarfer newydd yn cael ei ddatblygu yng Nghlwb Golff y Pîl a Chynffig, diolch i grant cyfalaf o £85,000 i helpu i feithrin golffwyr dawnus ac i gael mwy o bobl ar y lawntiau.

Mewn partneriaeth rhwng Golff Cymru a’r clwb, bydd y cyfleuster newydd yn cynnig lleoliad hyfforddi perfformiad uchel ar gyfer golffwyr dawnus y genedl. Bydd hefyd yn sicrhau manteision cymunedol, gan gynnig cyfleoedd cynhwysol a chyfleoedd dechreuwyr i golffwyr o bob oedran a gallu.

Bydd y cyfleuster yn cael ei ddylunio fel ei fod yn gallu darparu ar gyfer grwpiau fel Cymdeithas Strôc Pen-y-bont ar Ogwr a Chanolfan Awtistiaeth Tomms Care.

Helpu i ostwng biliau ynni yng Nghanolfan Hamdden Wrecsam

Bydd paneli solar newydd yn cael eu gosod yn eu lle yng Nghanolfan Hamdden Gwyn Evans yn Wrecsam a fydd, yn y pen draw, yn helpu pobl leol i fod yn actif. Dyfarnwyd £230,817 i Freedom Leisure a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam i helpu i wneud y cyfleuster yn fwy cynaliadwy ac yn fwy cost-effeithiol.

Bydd y grant yn lleihau biliau ynni’r ganolfan hamdden fel ei bod yn gallu parhau i fod yn fforddiadwy i bobl yn yr ardal leol – gan eu helpu i fod yn actif a chael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.

 

Goleuadau ynni effeithlon newydd yn Ystrad Mynach

Bydd cyllid gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn helpu i oleuo’r ffordd i’r rhai sydd eisiau bod yn actif yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn Ystrad Mynach. Bydd £97,500 yn cael ei fuddsoddi mewn goleuadau ynni-effeithlon cwbl fodern ar ei chaeau pêl droed a rygbi.

Bydd y cyllid yn sicrhau bod y caeau yn fodern, yn addas i bwrpas ac yn effeithlon o ran ynni fel eu bod yn gallu gwasanaethu cymunedau lleol yn well, gan gynnwys Bedwas, Trethomas a Machen.

Cefnogi Ffensio Cadair Olwyn yng Nghymru

Eisiau bod yn ffensiwr cadair olwyn? Bydd grant o £18,000 yn cael ei fuddsoddi mewn offer ffensio cadair olwyn hynod arbenigol fel bod y gamp yn gynhwysol ac ar gael i bawb yng Nghymru.

Bydd y grant yn trawsnewid cyfleoedd ar gyfer ffensio cadair olwyn gan fod yr offer yn aml yn rhy ddrud i unigolion neu glybiau ei brynu.

Dywed Ffensio Cymru y bydd y grant yn ei helpu i ddenu pobl newydd i'r gamp a'i fod bellach yn paratoi i hyfforddi hyfforddwyr a chyflwyno sesiynau cymunedol.

Helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae cyrtiau pêl rwyd a llifoleuadau newydd ar eu ffordd i Ben-y-bont ar Ogwr a byddant yn cefnogi pobl ifanc ag anghenion ychwanegol.

Mae grant o £99,436 wedi'i gytuno yn amodol ar ganiatâd cynllunio er budd pobl ifanc yn Ysgol Bryn Castell a Darpariaeth Amgen Y Bont, sy’n uned cyfeirio disgyblion. Mae’n cyflwyno darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Yn brosiect hynod bwysig, bydd y cyllid yn sicrhau bod y disgyblion yn cael mynediad at weithgarwch corfforol mewn gofod sydd wedi’i ddylunio gan y cyngor ysgol. Bydd y cyfleuster hefyd yn cefnogi rhaglenni merched a genethod cymunedol, gan gynnwys Cynghrair Pêl Rwyd Iau Pen-y-bont ar Ogwr lle mae 384 o ferched yn cystadlu.

Canolfan Hamdden Amlwch i gael ei thrawsnewid

Bydd Canolfan Hamdden Amlwch yn cael ei hailwampio fel bod pobl leol yn gallu parhau i fwynhau amrywiaeth o chwaraeon. Bydd grant o £90,000 gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn talu am newid lloriau prif neuadd y cyfleuster o’r 1970au.

Dywed Cyngor Sir Ynys Môn y bydd y prosiect yma’n helpu i foderneiddio'r lleoliad sydd eisoes yn cael cefnogaeth dda gan y gymuned leol.

Yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion lleol yn ystod y dydd a chan y gymuned leol gyda'r nos ac ar benwythnosau, bydd cymryd rhan mewn chwaraeon a chadw'n heini yn fwy deniadol fyth yn Amlwch cyn bo hir.

Gwelliannau i lethr sgïo yr Urdd yn Llangrannog

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi derbyn £75,000 i wneud gwaith sylweddol ar ei lethr sgïo yn Llangrannog, sy'n cael ei fwynhau gan 25,000 o bobl ifanc ledled Cymru bob blwyddyn.

Bydd y ganolfan sgïo yng Ngheredigion yn cael ei hadnewyddu yn awr gyda matiau newydd, llwybrau sgïo newydd a gwell ffensys i sicrhau bod miloedd o bobl ifanc yn gallu parhau i roi cynnig ar chwaraeon y gaeaf.

Trac pwmpio newydd yn Llandeilo

Mae trac pwmpio newydd sbon a chynhwysol ar ei ffordd i Landeilo yn dilyn y newyddion bod Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn dyfarnu grant o £37,000 i Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llandeilo.

Bydd yn cael ei adeiladu ym Mharc Le Conquet yn y dref a disgwylir iddo gynyddu nifer y bobl sy’n neidio ar eu beiciau ac yn hogi eu sgiliau. Bydd y trac yn cael ei ddylunio i fod yn gynhwysol a bydd beiciau a threiciau wedi'u haddasu ar gyfer pobl ag anableddau ar gael. Bydd cyfleuster gwefru e-feiciau ar gael hefyd.

Bydd monitro digidol yn asesu nifer yr ymwelwyr a bydd sgriniau digidol yn hyrwyddo atyniadau lleol i ymwelwyr. Mae'r cynghorau'n ffyddiog bod digon o alw ar ôl iddyn nhw ddarparu trac pwmpio symudol yn 2021 i gyd-fynd â Llandeilo yn cynnal cam tri y Tour of Britain.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i BMXwyr brwd deithio i Ben-bre neu Gaerfyrddin i fwynhau eu camp.

 

Yn ogystal â’r cyhoeddiad hwn am grantiau cyfalaf, mae Chwaraeon Cymru – mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru – yn darparu buddsoddiad i brosiectau chwaraeon drwy Gronfa Cymru Actif sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol, a Chronfa Lle i Chwaraeon sy’n rhoi arian cyfatebol ar gyfer Cyllid Torfol. Mae'r ddwy raglen grant yn agored o hyd i geisiadau.