Skip to main content

Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn parhau i gefnogi chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn parhau i gefnogi chwaraeon yng Nghymru

Mae Brian Davies, y Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru, wedi canmol cyfraniad arian y Loteri Genedlaethol fel arian sy'n “newid bywydau” yn ystod y pandemig presennol.

Mae cyfanswm o £4.75m o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i fuddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru i gefnogi clybiau a sefydliadau ers i'r cyfyngiadau gael eu gorfodi yn gynharach eleni.

Drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru – sydd hefyd yn defnyddio arian Llywodraeth Cymru – defnyddiwyd arian y loteri i helpu mwy na 450 o glybiau ar lawr gwlad hyd yma. 

Mae rhai clybiau wedi bod angen arian i gadw eu pen uwch ben y dŵr ac mae eraill wedi cael cymorth i dalu costau addasu i ganllawiau diogelwch Covid. Mae mwy nag £830,000 o grantiau wedi'u dyfarnu ers i Gronfa Cymru Actif agor ym mis Gorffennaf, ac ehangwyd y gronfa'n ddiweddar i gefnogi clybiau sy'n barod i feddwl am wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol.

 

Felly, bob tro y byddwch yn prynu tocyn Lotto neu Thunderball, rydych chi’n gwneud eich rhan i helpu cymunedau i ddal ati i fod yn actif, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn ystod y pandemig. Ac rydych chi hefyd yn cefnogi athletwyr elitaidd Cymru, gan gefnogi eu breuddwydion o gyflawni eu perfformiadau gorau yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd y flwyddyn nesaf.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae arian y loteri wedi parhau i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod prif athletwyr y wlad ar eu gorau. Mae arian y Loteri wedi parhau i fod yn gymorth cyson, drwy dalu am hyfforddiant ar-lein neu ddarparu offer campfa gartref gan fod athletwyr wedi gorfod addasu eu hamserlenni hyfforddi.

Dim ond cyfran fechan iawn o'r £1.75 biliwn y mae'r Loteri Genedlaethol wedi'i fuddsoddi mewn achosion da amrywiol yng Nghymru yn ystod y 25 mlynedd diwethaf yw'r arian hwnnw – achosion sydd wedi cynnwys stadia a chyfleusterau nodedig yn ogystal â'r cymorth sydd ei angen ar athletwyr elitaidd Cymru.

Mae Brian Davies o’r farn bod arian y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hanfodol ar bob lefel mewn chwaraeon yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf a dywedodd: "Mae'n newid bywydau – ar lefel gymunedol ac elitaidd.

"Dyna'n union beth yw ei nod. Nid gwneud ychydig o bobl yn filiwnyddion oedd y bwriad. Mae'r loteri wedi bod yn chwarae rhan bwysig iawn i holl chwaraeon Cymru.

"Pe bai'n mynd, byddai penderfyniadau anodd iawn yn gorfod cael eu gwneud. Rydyn ni’n cael swm penodol o arian gan Lywodraeth Cymru sy'n wych ac i'w groesawu, ond byddai colli arian y Loteri Genedlaethol yn gadael twll enfawr ac yn gorfodi rhai penderfyniadau anodd.

"Nid yw'n hawdd cyflawni'r budd cymdeithasol y mae arian y loteri yn ei greu drwy wariant arferol y llywodraeth. Mae'r loteri'n rhoi hyblygrwydd i chi, yn enwedig o ran sut rydych yn gwario'r arian."

Mae darparu'r gallu hwnnw i edrych tua'r dyfodol wedi bod yn elfen bwysig bob amser o effaith y Loteri Genedlaethol a'i gwaddol.

 

O adeiladu Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd i Bwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe a'r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, mae'r Loteri Genedlaethol wedi helpu i adeiladu'r seilwaith ar gyfer chwaraeon modern Cymru yn ystod y chwarter canrif diwethaf.

Yn fwy diweddar, helpodd i dalu am adeiladu Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd.

Cafodd Thomas ei hun gymorth y Loteri Genedlaethol yn ei ddyddiau cynnar, gan ei osod ar y llwybr at fod yn bencampwr Gemau'r Gymanwlad dros Gymru, cyn mynd ymlaen i ennill y Tour de France.

Wedi'u hysbrydoli gan ei lwyddiant, gall pencampwyr beicio yfory – yn ogystal â'r rhai sy'n hoffi beicio am hwyl ac i ymarfer – ddefnyddio'r felodrom sydd wedi’i enwi ar ei ôl.  

O ran cyllido athletwyr elitaidd Cymru, dywed Davies mai dim ond oherwydd y Loteri Genedlaethol y mae unigolion fel Natalie Powell – cyn bencampwraig jiwdo’r Gymanwlad dros Gymru sydd â’i llygad ar Gemau Olympaidd Tokyo y flwyddyn nesaf – wedi cael cefnogaeth y tu ôl iddynt i lwyddo.

"Gyda Natalie, yr hyn rydyn ni wedi llwyddo i'w wneud gyda chyllid y loteri yw denu hyfforddwr o safon byd, Darren Warner," ychwanega Davies.

"Mae Natalie’n gwerthfawrogi'r lefel honno o hyfforddiant ond roedd hi eisiau aros yng Nghymru.

"Gyda'r gefnogaeth honno, a gwyddoniaeth chwaraeon, meddygaeth chwaraeon a'r cyfleusterau yn y Ganolfan Chwaraeon Genedlaethol, lle mae gennym ni dojo, gall Natalie barhau i gyflawni yn y gamp.

"Mae'r cyllid wedi caniatáu i athletwr o Gymru fel Natalie gystadlu ar y lefel uchaf un."

Mewn chwaraeon Paralympaidd, efallai bod effaith y Loteri Genedlaethol wedi bod yn fwy allweddol  fyth.

Mae Cymru wedi mynd o fod yn wlad lle nad oedd athletwyr anabl yn cael llawer o gymorth ariannol o gwbl i wlad lle maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.

"Fe wnaeth yr arloeswyr – pobl fel Tanni Grey-Thompson, Chris Hallam a John Harris – baratoi'r ffordd," meddai Davies.

"Ond mae buddsoddiad dilynol y Loteri Genedlaethol wedi adeiladu ar eu gwaddol ac wedi ceisio sicrhau nad oes raid i unrhyw athletwr Paralympaidd arall geisio llwyddo heb gymorth ariannol cyhoeddus bellach."

Ar lawr gwlad ac ar lefel elitaidd, wrth i Gymru addasu i'r heriau newydd a gyflwynir gan effaith y coronfeirws, mae pwysigrwydd cyllid y Loteri Genedlaethol yn debygol o gynyddu.

Bydd yn sicrhau y gall y fyddin o wirfoddolwyr barhau i gadw'r genedl yn iach ac yn actif a hefyd bydd yn darparu ystol i'r rhai sy'n anelu am y brig.

 

Mae £1.75 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i fuddsoddi yng Nghymru ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau bron i 25 mlynedd yn ôl.

  • Cyfrannodd Arian y Loteri Genedlaethol at ddatblygu ac adeiladu Stadiwm eiconig y Principality yng Nghaerdydd - cartref tîm rygbi cenedlaethol Cymru sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau chwaraeon o safon byd eraill fel pêl-droed, chwaraeon modur a bocsio, ynghyd â chyngherddau a chynadleddau 
  • Buddsoddiad unigol mwyaf erioed Chwaraeon Cymru gan y Loteri Genedlaethol oedd £8 miliwn ar gyfer y Pwll Cenedlaethol yn Abertawe.
  • Mae cyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer chwaraeon elitaidd drwy Chwaraeon Cymru ac UK Sport wedi dod â mwy nag erioed o fedalau mewn Gemau Olympaidd a Chymanwlad.
  • Yn 2018/19, cafodd Chwaraeon Cymru £14miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i'w roi i chwaraeon yng Nghymru.
  • Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da, gyda llawer ohonynt yn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymunedau ledled y DU yn ystod argyfwng Coronafeirws.