Skip to main content

Chwe ffordd mae Clwb Pêl Rwyd Llewod Llambed yn gwneud gwahaniaeth yn ei gymuned

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwe ffordd mae Clwb Pêl Rwyd Llewod Llambed yn gwneud gwahaniaeth yn ei gymuned

Mae Clwb Pêl Rwyd Llewod Llambed yn glwb sy’n mynd yr ail filltir er mwyn ymgysylltu â’r gwahanol bobl yn ei gymuned.

Dyma pam ei fod wedi cael £1,807 o arian y Loteri Genedlaethol gan Gronfa Cymru Actif. Cafodd arian ar gyfer offer, cyrsiau hyfforddi a llogi lleoliad ar gyfer grŵp oedran newydd i'w alluogi i barhau â'r gwaith anhygoel mae’n ei wneud.

Dyma chwe ffordd mae’n gwneud gwahaniaeth a pham wnaethon ni gefnogi ei gais.

Hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg a sesiynau dwyieithog

Gyda mwy na 75% o’u haelodau’n siaradwyr Cymraeg gyda 10% arall yn dysgu, mae Llewod Llambed yn cynnig pêl rwyd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yr ardal yn gallu cael mynediad at bêl rwyd yn eu hiaith gyntaf, nod y clwb yw cynyddu nifer yr hyfforddwyr a’r dyfarnwyr sy’n siarad Cymraeg drwy gyrsiau hyfforddi sy’n cael eu cefnogi gan Gronfa Cymru Actif. Da iawn, y Llewod!

Defnyddiwch y Gymraeg yn eich clwb hefyd.

Ymgysylltu â ffoaduriaid 

Mae'r Llewod eisiau croesawu ffoaduriaid o Syria, Afghanistan ac Wcráin i'r gymuned drwy eu hannog i ymuno â phêl rwyd yn eu clwb.

Gan gysylltu â Swyddog Ailsefydlu Ffoaduriaid Cyngor Ceredigion, y gobaith yw darparu amgylchedd diogel i ferched a phlant sydd wedi ailsefydlu wneud ffrindiau newydd a theimlo'n gartrefol yn Llanbedr Pont Steffan, a hefyd mwynhau manteision pêl rwyd.

Dywedodd hyfforddwr y clwb, Alex Fox: “Mae chwaraeon yn adnodd pwerus iawn wrth integreiddio pobl i’r gymuned a goresgyn pob math o rwystrau, felly roedden ni’n teimlo bod hynny’n bwysig iawn.”

Ac rydyn ni’n cytuno!

Sesiynau blasu i blant ysgolion cynradd

Gyda dim ond dau dîm – iau a hŷn, derbyniodd Llewod Llambed arian y Loteri Genedlaethol gan Gronfa Cymru Actif i sefydlu tîm dan 11 oed a darparu lle i ferched ysgol gynradd chwarae pêl rwyd yn Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r clwb yn cynnig sesiynau ‘Cyrraedd a Chwarae’ i ddisgyblion cynradd yn y gobaith y bydd mwy o ferched lleol yn gwirioni ar bêl-rwyd, gan dyfu o genawon i Lewod a chwarae i’w 50au a thu hwnt, yn union fel nifer o’r chwaraewyr presennol.

Dydi hi ddim yn deg gadael i’r oedolion gael yr hwyl i gyd, nac ydi?             

Merch yn anelu at gôl mewn pêl-rwyd

Bod yn rhwydwaith cefnogi 

Nid yn unig mae merched a genethod Llanbedr Pont Steffan yn chwysu chwartiau ar y cwrt, ond maen nhw hefyd yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i ddal i fyny gyda’u ffrindiau oddi ar y cwrt (a hel dipyn o glecs hefyd, wrth gwrs!)

Daeth Ella Hewitt-Fisher yn aelod o’r Llewod yn 2018 pan fu farw ei mam. Yn ei geiriau hi, “mae’r clwb yn croesawu pawb”, ac roedd cael y gymuned groesawgar honno i siarad â hi yn help mawr yn ystod cyfnod anodd.

Mae bod yn rhan o dîm a chwarae pêl rwyd yn gallu rhoi hwb i’ch iechyd meddwl chi – mae Ella a Llewod Llambed yn enghraifft wych o hynny!

Gwneud pêl rwyd yn hygyrch mewn ardal wledig   

Byddai’n rhaid i ferched a genethod Llanbedr Pont Steffan a’r pentrefi cyfagos deithio i lefydd fel Aberystwyth, Caerfyrddin neu Aberteifi i chwarae pêl rwyd oni bai am Lewod Llambed.

Mae byw mewn ardal wledig yn golygu y gall trafnidiaeth fod yn rhwystr i gael mynediad i chwaraeon i rai. Felly, mae cael y Llewod yn Llambed yn rhoi pêl rwyd ar garreg y drws i nifer o ferched a fyddai fel arall ar eu colled pe bai’n rhaid iddynt deithio y tu allan i’r ardal.

Darparu cyfleoedd i ferched a genethod     

Yn gamp sy’n llawn merched yn draddodiadol, mae Llewod Llambed yn darparu cyfleoedd i ferched a genethod gael lle diogel ac amgylchedd cyfeillgar i gymryd rhan mewn chwaraeon. Fel clwb, maen nhw’n ymfalchïo mewn bod yn lle hapus i ferched o bob gallu, cefndir a lefel ffitrwydd chwarae pêl rwyd.

Gan eu bod nhw’n glwb cyfeillgar wrth galon y gymuned, mae’r drysau ar agor i bawb roi cynnig ar bêl rwyd, gan gynnwys yn unrhyw un o’u digwyddiadau cymdeithasol a’u twrnameintiau.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yr wythnos yn mynd at achosion da ledled y DU drwy fentrau fel Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Dysgwch mwy am sut gellid defnyddio Cronfa Cymru Actif i helpu i ddatblygu mwy o gyfleoedd chwaraeon i bob aelod o’ch cymuned leol.

Newyddion Diweddaraf

Athletau wedi rhoi cymaint mwy na medalau i James Ledger

Roedd James yn poeni efallai nad oedd chwaraeon yn addas iddo, ond mae nawr yn gobeithio gwisgo fest…

Darllen Mwy

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy