Skip to main content

CICIO DAN Y LLIFOLEUADAU AR HEOL CLARBESTON

Mae Clwb Pêl Droed Amatur Heol Clarbeston yn Sir Benfro yn cynllunio ar gyfer dyfodol mwy disglair drwy ddefnyddio grant Cronfa Cymru Actif gan Chwaraeon Cymru i brynu llifoleuadau symudol.

Bydd y llifoleuadau’n galluogi'r clwb i gael mwy o hyblygrwydd o ran amseroedd, lleoliad ac amlder y sesiynau hyfforddi. 

Mae Steve Brown, Cadeirydd y Clwb, yn amlinellu meddylfryd y clwb: "Ffocws Heol Clarbeston yw darparu gwasanaeth gwirioneddol gymunedol, gan roi mynediad i bawb at bêl droed. 

"Unwaith y bydd pêl droed yn cael y golau gwyrdd i ailddechrau, bydd y llifoleuadau symudol yn ein rhyddhau ni i gynnal mwy o sesiynau hyfforddi a sesiynau hwyliog, gyda grwpiau llai o chwaraewyr gan gadw pellter cymdeithasol. Dydyn ni ddim eisiau i Covid wneud i aelodau droi eu cefn ar eu ffyrdd o fyw actif.

"Fe fyddwn ni hefyd yn defnyddio'r llifoleuadau symudol i gynnal sesiynau ar ein caeau ein hunain – os yw'r tir a'r tywydd yn caniatáu – yn hytrach na chael ein cyfyngu i ddefnyddio caeau pob tywydd yr awdurdod lleol sydd â llifoleuadau. Felly, rydyn ni hefyd yn bwriadu arbed arian ar logi caeau."

 

Mae gan y clwb dîm anabledd oedolion actif - y Clarby Warriors - gyda llawer o'r chwaraewyr wedi bod gyda nhw er pan oedden nhw’n ifanc. Maen nhw'n betrus ynghylch dychwelyd i chwarae yn ystod Covid ond, diolch i'r offer newydd, bydd Heol Clarbeston mewn sefyllfa i gynnig sesiynau penodol iddyn nhw, heb fod angen rhannu cyfleusterau gydag eraill. 

"Fe fydd gennym ni’r hyblygrwydd i weithio gyda grwpiau llai, boed hynny'n dîm anabledd neu’r chwaraewyr hŷn sy'n awyddus i drefnu rhai sesiynau ychwanegol," esbonia Steve. 

"Rydyn ni wedi cael adborth hyfryd gan rieni am eu plant eisiau dychwelyd at bêl droed cyn gynted â phosibl ac felly bydd gweithio mewn grwpiau llai yn un ffordd o hwyluso hyn."

Bydd y gymuned hefyd yn elwa gan y bydd yn gallu defnyddio'r llifoleuadau a chynnal digwyddiadau awyr agored gyda'r nos yn y clwb. Cafodd rali tractorau’r Nadolig y llynedd gyda'r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol ei chanslo oherwydd Covid ond mae’r clwb yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid yn y dyfodol.

Daeth y £4,663 o gyllid a ddyfarnwyd i Heol Clarbeston tuag at gost y llifoleuadau symudol o elfen 'Cynnydd' Cronfa Cymru Actif sy'n darparu grantiau o rhwng £300 a £50,000 i gefnogi clybiau a sefydliadau chwaraeon gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd gwell fyth i'r genedl fod yn actif y tu hwnt i argyfwng Covid-19. 

Mae Chwaraeon Cymru yn arbennig o awyddus i glywed gan glybiau sydd â chynlluniau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn chwaraeon, fel prosiectau sydd â'r nod o gynyddu cyfleoedd i grwpiau du a lleiafrifol, pobl ag anableddau, neu ferched a genethod. Mae gan Chwaraeon Cymru darged penodol hefyd o wella cyfleoedd i bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, gan fod ymchwil yn awgrymu bod y cymunedau difreintiedig hyn, gwaetha'r modd, yn cymryd llai fyth o ran yn ystod y pandemig.

Mae proses ymgeisio Cronfa Cymru Actif wedi'i symleiddio fel ei bod bellach yn haws i glybiau wneud cais am y cyllid sydd arnynt ei angen. Mae grantiau ar gael o hyd i ddiogelu clybiau sy’n wynebu colledion refeniw difrifol yn ystod y cyfyngiadau symud presennol, ac i helpu clybiau i baratoi i wneud eu gweithgareddau’n ddiogel o ran Covid unwaith y bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio. 

Ers dechrau'r pandemig, mae mwy nag 800 o glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru wedi elwa o gyfran o fwy nag £1.8m drwy Gronfa Cymru Actif, ac mae mwy ar gael o hyd i Chwaraeon Cymru ei ddosbarthu diolch i arian gan Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol.