Skip to main content

Citbag ar ei newydd wedd yn llawn ysbrydoliaeth i athrawon sy'n cyflwyno iechyd corfforol a lles mewn ysgolion

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Citbag ar ei newydd wedd yn llawn ysbrydoliaeth i athrawon sy'n cyflwyno iechyd corfforol a lles mewn ysgolion

Citbag ar ei newydd wedd yn llawn ysbrydoliaeth i athrawon sy'n cyflwyno iechyd corfforol a lles mewn ysgolion.

Mae plant ledled Cymru ar fin gweld gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn fwy hwyliog a phleserus fyth diolch i becyn o adnoddau ar-lein sydd wedi'u cynhyrchu ar gyfer athrawon gan Chwaraeon Cymru.

Mae platfform Citbag dwyieithog Chwaraeon Cymru yn llawn syniadau sydd wedi’u hanelu at helpu athrawon i gynllunio sesiynau creadigol fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru, a gall yr adnoddau gael eu defnyddio hefyd gan unrhyw un sy’n cynnig gweithgareddau corfforol a chwaraeon i blant a phobl ifanc, fel hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, arweinwyr ifanc, rhieni a gofalwyr.

Ar gyfer plant a phobl ifanc ar ddechrau eu siwrnai, mae Citbag yn cynnwys adnoddau Chwarae i Ddysgu sy'n annog datblygiad sgiliau symud corfforol sylfaenol fel cydbwysedd, taflu, rhedeg, dal a neidio. Wrth iddynt barhau â'u cynnydd, mae'r hwb yn cynnig Aml-sgiliau'r Ddraig a Champau'r Ddraig gan gefnogi athrawon i adeiladu ar y sylfeini hynny a helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd iach, actif.

Mae’r holl adnoddau’n disgrifio’r pwyntiau addysgu allweddol ac yn rhestru unrhyw offer sydd ei angen i gyflwyno’r gweithgareddau’n ddiogel.

Mae Citbag hefyd yn cynnwys traciwr asesu y mae posib ei ddefnyddio fel adnodd monitro ar gyfer cynnydd sgiliau corfforol. Mae’r adnoddau’n syml i’w dilyn, sy’n golygu eu bod yn ddelfrydol i blant hŷn eu defnyddio wrth arwain sesiynau, gan roi’r cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau arwain a’u hyder.

Dywedodd Melanie Davies, Swyddog Addysg ac Iechyd yn Chwaraeon Cymru: “Mae ein hymchwil a’n gwybodaeth yn dweud wrthym ni y byddai llawer o athrawon ysgolion cynradd yn croesawu adnoddau fedr eu cefnogi i gyflwyno sesiynau iechyd a lles corfforol.

“Mae rhoi profiad pleserus i bobl ifanc o oedran ifanc mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn bwysig iawn gan ei fod yn golygu eu bod yn fwy tebygol o fod yn actif am weddill eu hoes. Mae adnoddau Citbag yn datblygu sgiliau symud sylfaenol, gan osod y sylfeini i blant ddod yn unigolion iach a hyderus.

“Rydyn ni wedi ailgynllunio platfform Citbag fel ei fod yn cyd-fynd â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru. Mae Citbag bellach yn ei gwneud hi'n haws i athrawon ddod o hyd i weithgareddau addas ar gyfer eu disgyblion ac i helpu i fonitro datblygiad sgiliau. Rydyn ni wedi treialu defnyddioldeb yr adnoddau ac wedi gwrando ar adborth athrawon i wneud yr adnoddau mor hawdd eu defnyddio â phosibl.

“Bydd Citbag yn rhoi digon o ysbrydoliaeth i helpu plant i ddod yn gyfranogwyr iach a hyderus yn yr ysgol a thu hwnt.

Newyddion Diweddaraf - Ysgolion ac Athrawon

Helpu ein plant i ffynnu mewn chwaraeon – sesiwn i rieni

Rydyn ni i gyd wedi gweld rhieni’n gweiddi anogaeth a chyngor o’r llinell ochr wrth i’w rhai bach redeg…

Darllen Mwy

O’r Ystafell Ddosbarth i Tokyo – y jyglo diddiwedd i gyrraedd y Gemau Olympaidd

Mae Leah Wilkinson yn paratoi i fod yn athletwraig lawn amser er mwyn gwireddu ei breuddwyd Olympaidd.Mae…

Darllen Mwy

Hyfforddwr eithriadol, Sion, yn ennill gwobr gwaddol y Llysgenhadon Ifanc

Allan o'r miloedd o bobl ifanc sydd wedi ffynnu diolch i gynllun y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru yn…

Darllen Mwy