Skip to main content
  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Helpu ein plant i ffynnu mewn chwaraeon – sesiwn i rieni

Helpu ein plant i ffynnu mewn chwaraeon – sesiwn i rieni

Rydyn ni i gyd wedi gweld rhieni’n gweiddi anogaeth a chyngor o’r llinell ochr wrth i’w rhai bach redeg ar gae mwdlyd ar fore Sul.

Efallai nad yw’r cyngor bob amser yn un doeth, ond mae’r anogaeth yn llawn bwriadau da fel rheol, hyd yn oed os yw’n orfrwdfrydig ar adegau.

Ond beth sy’n digwydd pan mae ein plant yn dechrau dangos gwir botensial yn y gamp o’u dewis ac yn dechrau cystadlu ar lefel uwch?

Sut mae rhieni’n sicrhau bod y gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi’n cynnig y cyfle gorau am wireddu’r potensial hwnnw?

Wel, mae help wrth law gan Chwaraeon Cymru a’r tad i dri sy’n cael ei adnabod oddi wrth yr enw “The Non-Perfect Dad”.

Bydd Richard Shorter, sydd â chyfoeth o brofiad yn gweithio gyda phobl fel Rygbi Lloegr, Manceinion Unedig a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, yn cynnal nifer o sesiynau yng Nghymru er mwyn helpu rhieni i gefnogi eu plant ar hyd eu llwybr chwaraeon newydd. Bydd un yn cael ei gynnal cyn y Nadolig a mwy yn y Flwyddyn Newydd.

Mae’r digwyddiadau am ddim, y mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw, wedi cael eu trefnu ar y cyd â chyrff rheoli criced, hoci, gymnasteg ac athletau Cymru, ond mae croeso i rieni sydd â phlant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon eraill.

Meddai Shorter: “Rydyn ni’n anelu’n benodol at y rhieni hynny y mae eu plant ar lwybr, y plant hynny sy’n dangos potensial i ddatblygu fel athletwyr ifanc yn eu campau ac y mae eu siwrnai ychydig yn brysurach erbyn hyn, gydag ychydig mwy o bwysau.

“Wrth i blant ddod yn rhan o’r llwybr datblygu talent yma, mae pwysau unigryw ar rieni. Mae’r dyddiadur yn llenwi, mae problemau gyda phlant yn cael eu dewis, felly beth all y cartref ei wneud i ffurfio partneriaeth gyda hyfforddwyr sy’n ceisio helpu?

“Bydd rhaid i rieni weithio gyda hyfforddwr, neu hyfforddwyr, eu plentyn. Sut mae jyglo gwaith ysgol yng nghanol hyn i gyd? Sut mae jyglo gobeithion a dyheadau ein plentyn?

“Mae plant yn dda am freuddwydio a dydyn ni ddim eisiau chwalu’r breuddwydion hynny. Ond ar yr un pryd, rhaid i ni eu helpu nhw i ganolbwyntio ar y breuddwydion yma mewn ffyrdd sydd o help.

“Sut mae rhieni’n cael sgyrsiau gyda’u plant heb ofyn ‘wnes di ennill? gefais di orau personol?’ yn unig, ond helpu plant i ddatblygu’r sgiliau meddwl hynny fel rhan o’r broses.”

Mae Shorter, sydd ag 20 mlynedd o brofiad yn y maes, yn awyddus i bwysleisio nad dosbarthiadau magu plant yw’r sesiynau, er eu bod yn canolbwyntio ar y rôl mae rhieni yn ei chwarae.

“Rydyn ni’n gwybod oddi wrth athletwyr bod rhieni’n eithriadol bwysig iddyn nhw hyd at y pwynt pan maen nhw’n ymddeol fel cyfranogwyr hŷn. Felly, sut mae rhieni’n jyglo’r siwrnai honno?

“Nid magu plant sy’n bwysig yn y fan yma, ond helpu ein plant i ffynnu mewn camp. ’Dyw rhieni ddim eisiau dod i sesiynau i ddysgu sut i fagu plant.

“Mae pob bod dynol yn gwybod mai’r rhieni yw’r bobl fwyaf dylanwadol yn eu datblygiad pan maen nhw’n iau.

“Mae’r un peth yn wir am athletwyr ifanc, rydyn ni eisiau gweld y plant yma’n cael y cyfle gorau i groesawu a datblygu eu potensial.

“Yr hyn mae’r pedwar sefydliad sy’n dod at ei gilydd gyda Chwaraeon Cymru ac eraill yn ei ddweud yw ‘sut mae helpu rhieni yn y rôl anhygoel yma?’ Does dim llawlyfr, ’dyw e ddim yn hawdd.

“Mae’n ymwneud â helpu rhieni i gynllunio atebion ar gyfer eu cyd-destun eu hunain. Nid ‘cynllun pum cam Richard ar gyfer rhyddhau potensial eich plant’ yw hwn.

“Rydyn ni’n cydnabod bod pob camp yn wahanol, pob grŵp oedran yn wahanol, pob rhyw yn wahanol, pob teulu yn wahanol. Nid un ateb addas i bawb yw hyn.

“Rydw i’n gwybod gyda phob un o fy mhlant i, pe bawn i’n gweithio yn yr un ffordd gyda phob un ohonyn nhw, fe fyddwn i’n methu, yn drychinebus. Rydw i’n addasu fy sgwrs am fod yn rhiant i gyd-fynd â chyd-destun y berthynas honno.

“Gobeithio y cawn ni lawer o hwyl gyda’n gilydd yn y sesiynau. Os bydd pobl yn dweud nad ydyn nhw wedi cael hwyl, fe fydda’ i’n siomedig iawn.”

Bydd y cyn weithiwr ieuenctid yn canolbwyntio ar y pwysau mwyaf mae athletwyr ifanc a’u teuluoedd yn ei wynebu.

“Pan rydw i’n gofyn i blant dan 13 oed i dan 18 oed ‘beth yw’r pwysau mwyaf arnoch chi?’ yr ateb bob amser bron yw jyglo’r cyfan... beth sydd ar frig y rhestr? Does gen i ddim ffon hud ar gyfer hynny.

“Ond beth mae hynny’n ei olygu yw pan rydyn ni’n jyglo’r cyfan, rydyn ni i gyd o dan ychydig mwy o bwysau, sy’n golygu bod y sgyrsiau gyda hyfforddwyr ac athletwyr yn gallu bod ychydig bach yn fwy anodd.

“Felly rydyn ni’n mynd i siarad am sut mae rheoli’r perthnasoedd hynny’n dda iawn. Sut mae cael sgyrsiau sy’n tanio potensial yn hytrach na’i leihau.

“Mae cwestiynau y gallwn ni eu gofyn neu sylwadau y gallwn ni eu gwneud. Er enghraifft, efallai bod person ifanc wedi colli ac y bydd yn dweud ‘bai y dyfarnwr oedd hynny heddiw’ neu ‘yr hyfforddwr oedd ar fai’.

“Efallai y bydd yn meddwl am lond gwlad o esgusion a’r rhiant yn eu cadarnhau yn llwyr - ‘ie, ti’n iawn, doedd yr hyfforddwr ddim yn gwybod beth oedd e’n wneud’, neu ‘dydw i ddim yn gallu credu bod y chwaraewyr eraill heb basio i ti’.

“Mae’r sgyrsiau yma’n lleihau potensial. Drwy feddwl am yr esgusion yma, rydych chi’n lleihau’r cyfle i bobl ifanc dyfu.

“Ond pan mae eich plentyn yn anhapus ar ôl colli, neu beidio cael ei ddewis, mae’n anodd. Mae eich plentyn yn drist, rydych chi’n drist, felly rhaid i ni strwythuro sgyrsiau iach gyda’n plant.”

Bydd pob digwyddiad yn canolbwyntio ar faes penodol, meddai Shorter.

“Mae’r sesiwn cyntaf yn edrych ar osod nodau a sut beth yw potensial. Rydyn ni’n cyfeirio ati fel siwrnai heb fod yn syth – ’dyw hi ddim yn siwrnai hawdd fel arfer. Sut mae ymdopi â’r anesmwythyd.

“Bydd y sesiwn canlynol yn edrych ar sut rydych chi’n dod ymlaen â hyfforddwyr eich plentyn. Beth yw manteision posib y berthynas honno? Beth yw’r heriau a sut mae eu goresgyn nhw?

“Mae llawer iawn o hyfforddwyr ym mhob camp yn sôn am ddewis athletwyr fel rhywbeth poenus iawn i rieni. Dyma pryd maen nhw’n cael llawer o gyswllt â rhieni, sydd weithiau o help ond weithiau’n broblemus iawn. Sut mae cyfathrebu pan nad yw pethau’n mynd yn dda gyda hyfforddwyr?

“Mae’r sesiwn olaf yn rhoi sylw i’r holl boenau gyda’n plant. Sut mae cael y sgyrsiau hynny? Sut mae jyglo’r cyfan? Sut ydyn ni’n dal ati pan nad ydyn nhw’n teimlo fel gwneud hynny, a sut maen nhw’n dal ati pan nad ydyn ni’n teimlo fel gwneud hynny? Sut mae rheoli disgwyliadau plentyn, sut mae rheoli eich disgwyliadau chi?

“Fy ngobaith i yw y bydd hwn yn galonogol iawn i rieni, oherwydd fe fyddan’ nhw’n gweld ein bod ni’n gwneud llawer o’r stwff yma eisoes.

“Gobeithio y bydd yn helpu rhieni i feddwl am eu rhyngweithio gyda phlant a hyfforddwyr ac yn addasu rhywfaint ar eu hymddygiad.”

Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ac ar gael gan gyrff rheoli i rieni sy’n methu bod yn bresennol yn yr holl ddigwyddiadau.

Bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ar Ragfyr 17 yng Nghlwb Criced Ynystawe ger Abertawe am 6.15pm.

Sesiwn 1:

Clwb Criced Ynystawe   https://www.eventbrite.co.uk/e/essential-information-parent-engagement-sessions-tickets-73972388405

Met Caerdydd  https://www.eventbrite.co.uk/e/essential-information-parent-engagement-sessions-tickets-77116426307

Sesiwn 2:

Eirias Park  https://www.eventbrite.co.uk/e/essential-information-parent-engagement-sessions-tickets-77118119371

Chwaraeon Cymru  https://www.eventbrite.co.uk/e/essential-information-parent-engagement-sessions-tickets-77119816447

Sesiwn 3:

Haverfordwest  https://www.eventbrite.co.uk/e/essential-information-parent-engagement-sessions-tickets-77120664985

Met Caerdydd  https://www.eventbrite.co.uk/e/essential-information-parent-engagement-sessions-tickets-77121822447

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon yn y Gymuned

Y fitamin golau’r haul!

Mae’r Hydref wedi cyrraedd! Ac i athletwyr sy’n hyfforddi yng Nghymru a ledled y DU, mae hyn yn golygu…

Darllen Mwy

Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

Mae Cymru'n dod yn lle gwell ar gyfer chwaraeon eira diolch i arian grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru…

Darllen Mwy

Dynion a Merched gyda’i gilydd – rhai o’r tueddiadau mewn chwaraeon cymysg

Yn y  1970au gwelwyd Brwydr y Rhywiau rhwng seren y byd tennis i ferched  Billie Jean King…

Darllen Mwy