Skip to main content

Hyfforddwr eithriadol, Sion, yn ennill gwobr gwaddol y Llysgenhadon Ifanc

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hyfforddwr eithriadol, Sion, yn ennill gwobr gwaddol y Llysgenhadon Ifanc

Allan o'r miloedd o bobl ifanc sydd wedi ffynnu diolch i gynllun y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf, mae un hyfforddwr chwaraeon eithriadol o Rydaman wedi cael ei ddewis ar gyfer gwobr arbennig.

Wrth hyfforddi pêl droed, rygbi, badminton, pêl rwyd, hoci neu athletau, neu helpu plant bach i reidio beiciau balans, mae Sion Thomas, sy'n un deg naw oed ac yn dod o Rydaman, bob amser yn ceisio sicrhau bod chwaraeon yn hwyl.

Gyda'i frwdfrydedd a'i agwedd bositif, does dim posib dychmygu unrhyw un yn gadael un o sesiynau Sion heb wên ar ei wyneb, felly mae ei effaith ar ei gymuned leol wedi ei wneud yn enillydd teilwng o wobr gwaddol newydd y Llysgenhadon Ifanc, sy'n cael ei chyflwyno gan Chwaraeon Cymru a'r elusen blant, yr Youth Sport Trust.

Dechreuodd Sion ymwneud â chynllun y Llysgenhadon Ifanc yn 2017 yn ei ysgol, Ysgol Dyffryn Aman. Llysgennad Arian oedd Sion i ddechrau, ond buan iawn y daeth yn Llysgennad Aur a Phlatinwm - y lefel uchaf.

Mewn corwynt o ddwy flynedd, mae Sion wedi ymgymryd â chyrsiau hyfforddi mewn bron i ddwsin o chwaraeon gwahanol, ac mae wedi sefydlu tîm pêl droed anabledd cyntaf un Sir Gaerfyrddin, Rangers Rhydaman.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae hefyd wedi ymwneud yn uniongyrchol â chefnogi mwy na 50 o bobl ifanc fel mentor, gan eu helpu ar eu siwrneiau eu hunain o Lysgenhadon Ifanc Efydd i Arian.

Dywedodd Sion, sy'n gweithio fel Arweinydd Actif yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin: "Mae cynllun y Llysgenhadon Ifanc wedi mowldio fy nyfodol i er gwell, gan roi'r strwythur a'r cyfeiriad oeddwn i eu hangen i mi. Rydw i wrth fy modd yn helpu pobl a'u gweld nhw'n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'r cynllun yn hollbwysig i mi a nawr rydw i'n teimlo bod posib i mi gyrraedd fy llawn botensial."

Cafodd Sion ei wobr yng nghynhadledd flynyddol y Llysgenhadon Ifanc, a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yr wythnos ddiwethaf.
 

Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell, a gyflwynodd y wobr: "I nodi degfed pen blwydd y cynllun, cafodd y wobr gwaddol newydd ei chreu i dynnu sylw at sut mae cyn Lysgenhadon Ifanc yn dal i gael effaith bositif yn eu cymunedau ar ôl symud ymlaen i benodau nesaf eu bywydau.

"Llongyfarchiadau enfawr i Sion ar ei wobr. Mae cymaint o gynaelodau'r Llysgenhadon Ifanc yn gwneud pethau rhagorol, felly roedd yn eithriadol anodd dewis un enillydd!"

Yn ogystal â Sion yn cipio'r wobr gwaddol, cyflwynwyd tair gwobr arall hefyd yn y gynhadledd. Roedd Tiffany Brannan yn enillydd teilwng iawn o'r Wobr Swyddog am ei hymdrechion i gynyddu cyfleoedd i Lysgenhadon Ifanc yng Nghonwy, ac enillodd yr hyfforddwr pêl fasged cadair olwyn, Nathan Jones o Geredigion, y Wobr Ysbrydoli.

Enillydd y wobr olaf oedd y Llysgennad Efydd Millie Arnott, sy'n cael effaith enfawr yn ei hysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin, Ysgol Drefach. Mae hi wir yn ysbrydoli disgyblion eraill ei dosbarth i fod yn fwy actif ac mae wedi rhoi cyflwyniadau i'r ysgol gyfan am gynllun y Llysgenhadon Ifanc.

Gyda chefnogaeth yr Youth Sport Trust, ac yn cael cyllid gan Chwaraeon Cymru, cyflwynwyd rhaglen y Llysgenhadon Ifanc i ddechrau yng Nghymru yn 2010 fel gwaddol i'r cais llwyddiannus am gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

Ers hynny, mae'r cynllun wedi grymuso amcangyfrif o 19,000 o Lysgenhadon Ifanc fel modelau rôl sy'n annog eraill i rannu eu hoffter o chwaraeon. Mae posib gweld y Llysgenhadon Ifanc bob wythnos yn arwain sesiynau chwaraeon, yn hyfforddi disgyblion iau, yn gwirfoddoli mewn digwyddiadau ac yn dyfarnu gemau mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a chymunedau ledled Cymru.