Skip to main content

‘Citbag’ yn mynd yn fyw: Ysgolion i elwa o blatfform newydd ar-lein

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. ‘Citbag’ yn mynd yn fyw: Ysgolion i elwa o blatfform newydd ar-lein

Mae hwb ar-lein newydd yn cynnwys cannoedd o adnoddau i helpu i gael plant i fod yn actif wedi’i sefydlu i helpu athrawon, hyfforddwyr ac arweinwyr i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu Citbag, cartref ar gyfer adnoddau addysgu a hyfforddi sydd wedi’u creu gan arbenigwyr mewn datblygiad corfforol plant.

Mae Citbag yn cynnwys cynhyrchion enwog Campau'r Ddraig a Chwarae i Ddysgu sydd ar gyfer disgyblion oedran cynradd.

Mae’r platfform wedi cael ei gefnogi gan gyllid gan Lywodraeth Cymru.

citbag.sport.wales

citbag.chwaraeon.cymru

“Os byddwn ni’n rhoi’r sgiliau priodol, hyder a phrofiadau chwaraeon o ansawdd da i bobl ifanc, maen nhw’n fwy tebygol o fwynhau chwaraeon a bod yn actif am weddill eu hoes,” meddai Prif Weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies.

“Mae’r adnoddau hyn wedi bod yn cefnogi gwersi Addysg Gorfforol a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion ers peth amser, ac rydyn ni’n gwybod o siarad ag arbenigwyr yn y maes y bydd eu defnydd yn bwysig iawn ar gyfer y cwricwlwm newydd.

“Roedden ni eisiau eu gwneud nhw mor hawdd i athrawon gael gafael arnyn nhw â phosib a dyma’r tro cyntaf i ni gael un platfform pwrpasol yn gartref iddyn nhw i gyd.”

Mae’r adnoddau ar Citbag ar gyfer plant a phobl ifanc i gefnogi cymhelliant, hyder, cymhwysedd corfforol a gwybodaeth a dealltwriaeth, sy’n ganolog i lythrennedd corfforol.

O straeon i gael y rhai ieuengaf i symud ac i fod yn actif i gemau hwyliog i helpu ystwythder, cydbwysedd a chydsymudiad; dysgu chwaraeon-benodol drwy chwaraeon fel rygbi a chriced; a gymnasteg neu symud creadigol mwy arbenigol i blant hŷn.

Mae Jan English yn ymgynghorydd addysg yng Nghymru ac yn awdur llawer o'r adnoddau. Dywedodd: 

“Mae’r adnoddau wir yn addas o hyd a byddant yn siŵr o ffynnu yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd ffocws clir ar ddysgwyr yn ymgysylltu mwy ac yn fwy brwdfrydig, gan addasu gweithgareddau i ddiwallu eu hanghenion, eu galluoedd a'u diddordebau.

“Gyda chymaint o adnoddau wedi’u cynhyrchu dros bron i ddau ddegawd, mae athrawon yn gallu dewis a chymysgu’r hyn sy’n gweddu orau iddyn nhw a’u disgyblion.”

Mae defnyddwyr yn cofrestru i gael cyfrif am ddim i gael mynediad i Citbag gyda mwy o adnoddau'n cael eu hychwanegu ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi 2022.

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon mewn Ysgolion

Citbag ar ei newydd wedd yn llawn ysbrydoliaeth i athrawon sy'n cyflwyno iechyd corfforol a lles mewn ysgolion

Citbag ar ei newydd wedd yn llawn ysbrydoliaeth i athrawon sy'n cyflwyno iechyd corfforol a lles mewn…

Darllen Mwy

Sut gwnaeth chwaraeon ysgol helpu Bethan Lewis i gyrraedd Cwpan Rygbi’r Byd

Mae Bethan yn credu mai’r amrywiaeth o chwaraeon a brofodd fel merch ifanc a ddysgodd gymaint o wersi…

Darllen Mwy

Mae angen i chwaraeon newid gyda’r amserau i weddu i anghenion pobl ifanc

Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 wedi canfod nad yw dros draean o ddisgyblion yn gwneud unrhyw weithgarwch…

Darllen Mwy