Skip to main content

Sut gwnaeth chwaraeon ysgol helpu Bethan Lewis i gyrraedd Cwpan Rygbi’r Byd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut gwnaeth chwaraeon ysgol helpu Bethan Lewis i gyrraedd Cwpan Rygbi’r Byd

Bydd Bethan Lewis yn taflu popeth at drechu Awstralia y penwythnos yma – gan gynnwys yr holl sgiliau a ddysgodd mewn clybiau chwaraeon ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae’r chwaraewraig rygbi dros Gymru yn Seland Newydd ar hyn o bryd, yn rhan o’r garfan fydd yn herio’r Aussies ddydd Sadwrn mewn ymgais i gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd.

Mae’r ferch 23 oed wedi dod yn rhan annatod o garfan Cymru, gan ennill mwy na 30 o gapiau dros ei gwlad, ond mae’n credu’n gryf mai’r amrywiaeth o chwaraeon a brofodd fel merch ifanc a ddysgodd gymaint o wersi bywyd gwerthfawr iddi.

Dyma pam ei bod yn annog merched i roi cynnig ar gymaint o wahanol weithgareddau â phosibl ac roedd yn bryderus o glywed bod llai o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'w gwersi AG o gymharu â phedair blynedd yn ôl.

“Mae’n siomedig iawn clywed bod yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yn dangos bod y lefelau gweithgarwch wedi gostwng,” meddai Bethan, sy’n chwarae i Gaerloyw, ond yn hanu o Abergwili yn Sir Gaerfyrddin.

“Roeddwn i’n ffodus iawn bod fy rhieni i wedi fy ngyrru o gwmpas i lefydd gwahanol i wneud gwahanol chwaraeon. Ond efallai nad yw’r opsiwn hwnnw yno i lawer o bobl ifanc ar hyn o bryd, felly mae’n bwysig bod chwaraeon yn fwy hygyrch nawr.

“Y cyfle sy’n hollbwysig.”

Aeth Bethan i Ysgol Gynradd Nantgaredig ac wedyn mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.

Chwaraeodd nifer o wahanol chwaraeon ac er mai rygbi yw ei phroffesiwn bellach fel chwaraewraig dan gontract gydag Undeb Rygbi Cymru, pan oedd yn iau, amrywiaeth oedd yn mynd â’i bryd.

“Fe wnes i chwarae llawer o wahanol chwaraeon wrth dyfu i fyny,” meddai’r gyn chwaraewraig gyda Quins Caerfyrddin, a gynrychiolodd Brydain Fawr ym mhencampwriaethau syrffio iau y byd hyd yn oed.

Bethan Lewis yn pasio pêl yn ystod sesiwn ymarfer
Chwaraeodd Bethan nifer o chwaraeon cyn iddi ddod yn chwaraewr rygbi proffesiynol
Fe wnes i drïo amrywiaeth o bethau sydd yn sicr wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i nawr. Os oes gennych chi ddealltwriaeth eang o wahanol chwaraeon, mae gennych chi gyfres ehangach o sgiliau ac mae hynny'n eich gwella chi mewn unrhyw gamp.
Bethan Lewis, Rheng ôl

Cafodd Bethan fudd o’r chwaraeon allgyrsiol yr oedd ei hysgol yn eu cynnig fel rhan o raglen 5x60 Chwaraeon Cymru, a oedd â’r nod o helpu plant i wneud 60 munud o ymarfer corff bum gwaith yr wythnos.

Esboniodd Bethan: “Roeddwn i’n chwarae pêl droed yn ystod amser cinio ac wedyn yn cymryd rhan mewn clybiau chwaraeon eraill ar ôl ysgol, gan gynnwys rygbi merched ac athletau. Wedyn, y tu allan i'r ysgol, roeddwn i’n ffodus bod fy rhieni i'n gefnogol iawn ac yn rhoi cyfle i mi roi cynnig ar wahanol chwaraeon.

“Felly, roeddwn i hefyd yn gallu rhoi cynnig ar athletau a thennis, a hefyd tennis bwrdd.

“Fe wnes i drïo amrywiaeth o bethau sydd yn sicr wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i nawr. Os oes gennych chi ddealltwriaeth eang o wahanol chwaraeon, mae gennych chi gyfres ehangach o sgiliau ac mae hynny'n eich gwella chi mewn unrhyw gamp.

“Roeddwn i’n taflu maen a disgen gyda Harriers Caerfyrddin, a hefyd yn chwarae pêl droed a rygbi.

“Fe wnes i weithio gyda gwahanol hyfforddwyr hefyd, felly rydych chi'n dysgu gwahanol ffyrdd o ddeall gwybodaeth. Rydych chi hefyd yn cael dysgu corfforol ehangach, felly rydw i'n edrych yn ôl ac yn sylweddoli fy mod i’n ffodus iawn."

Mae rhieni, athrawon, gwirfoddolwyr a hyfforddwyr i gyd wedi ysbrydoli a dylanwadu ar Bethan, gyda chefnogaeth un person yn benodol yn amlwg ar ei siwrnai i’r byd rygbi proffesiynol.

Pan ddaeth rygbi yn weithgaredd ar wahân yn ôl rhyw, roedd yn golygu nad oedd hi bellach yn hyfforddi gyda’r bechgyn - rhywbeth roedd hi'n teimlo oedd wedi ei galluogi i ddatblygu ei gêm ei hun.

Yn ddiweddarach yn ddyddiau ysgol Bethan, cafodd Aled Griffiths, y Swyddog Datblygu Rygbi, hi yn ôl i hyfforddiant gyda’r bechgyn – gan ddatblygu ei chryfder a’i chyflyru yn yr un sesiynau campfa â nhw.

“Yn ystod fy mlynyddoedd olaf i ym Mro Myrddin, fe wnaeth Aled Griffiths fy nghefnogi i’n fawr gyda sesiynau un i un ac fe adawodd i mi wneud y gwaith campfa gyda’r bechgyn. Doedd dim un athro arall wedi gadael i mi wneud hynny, felly fe wnaeth fy nghefnogi i yn fawr.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy