Skip to main content

Saethyddion Bae Colwyn yn Dal eu Tir ar ôl cael Cyllid Cymru Actif

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Saethyddion Bae Colwyn yn Dal eu Tir ar ôl cael Cyllid Cymru Actif

Mae Saethyddion Colwyn yn gwybod mwy na'r rhan fwyaf o bobl am effeithiau Covid-19, a dyma pam mae pob mesur posib yn cael eu rhoi ar waith i warchod eu hunain a dyfodol y clwb.

Wedi'i leoli ym Mae Colwyn, mae'r clwb saethyddiaeth wedi gweld effeithiau’r feirws yn uniongyrchol gyda Nick Kershaw, prif hyfforddwr y clwb, wedi cael ei ruthro'n ddiweddar i adran gofal dwys.

Diolch byth, mae Nick yn gwella erbyn hyn, ond mae'r clwb hefyd wedi brwydro i oroesi ei hun, gyda'i fodolaeth yn y fantol.

Ond erbyn hyn, ar ôl cael grant o Gronfa Cymru Actif, mae'r Saethyddion ar eu ffordd yn ôl.

Mae'r cyllid wedi bod yn bosib diolch i Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael pwrpas newydd gan y Loteri Genedlaethol, sy'n parhau i fod yn un o gefnogwyr mwyaf chwaraeon yng Nghymru.

Colwyn Bay bowmen shooting in their new outdoor set up

 

"Ychydig wythnosau'n ôl, fe gawsom ni neges destun gan Nick," meddai'r cadeirydd Rhys Evans.

"Roedd yn dweud, ‘ddrwg gen i bois, dydw i ddim yn rhy dda ar hyn o bryd ac efallai bydd y system tracio ac olrhain yn cysylltu â chi'. Fe gawsom ni wybod bod ganddo Covid ac felly fe fu'n rhaid i ni i gyd hunanynysu.

"Roedd e'n iawn am wythnos felly roedden ni'n meddwl ei fod yn gwella, ond wedyn, yn sydyn, aeth pethau’n waeth.

"Fe ffoniodd ei wraig y diwrnod wedyn i ddweud ei fod wedi cael ei ruthro i Ysbyty Bangor yn wael iawn a’i fod yn yr uned gofal dwys.

"Roedd honno’n neges glir bod y feirws wedi bod yn ein plith ni. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod popeth yn berffaith lân a fedrwn ni ddim cymryd unrhyw risgiau diangen."

Mae'r clwb yn parhau i weithredu, ond mae normal newydd yn bendant – a bu'n rhaid rhoi camau ar waith i sicrhau diogelwch yr aelodau a phawb arall sy’n dod i’r clwb i gymryd rhan.

Un newid mawr fu symud o fod dan do ym Mharc Eirias i'r awyr agored yng Nghlwb Rygbi Bae Colwyn.

Ym myd newydd saethyddiaeth, un darn o offer sy’n gwbl anhepgor yw canfyddwr metelau - dyfais maent wedi gallu ei fforddio diolch i Gronfa Cymru Actif.

"Pan rydych chi'n saethu, dydych chi ddim yn cael mynd i gasglu saethau pobl eraill ac mae'n rhaid i chi gadw pellter o ddau fetr bob amser," meddai Rhys. "Mae wedi newid y ffordd rydyn ni'n chwarae'r gamp."

 

Colwyn Bay Bowen's new outdoor set up

 

Yr hyn sydd hefyd wedi newid yw’r defnydd o ganfyddwr metelau i ddod o hyd i saethau sydd wedi mynd ar goll.

"Rydyn ni wedi prynu canfyddwr metelau ac mae'n amhrisiadwy," meddai.

"Rydyn ni'n cael rhai pobl yn saethu 40 metr yn yr awyr agored. Fe allwch chi ddychmygu, os byddwch chi’n colli'r targed, mae'n mynd i fynd i'r ddaear.

"Yr hyn sy'n digwydd fel arfer os byddwch chi’n methu'r targed yw ei fod yn mynd ar ongl ac yn claddu ei hun yn y glaswellt, felly mae'n llorweddol. Heb ganfyddwr metelau, ’fyddai gennym ni ddim gobaith dod o hyd i'r saeth.

"Fe allai hynny fod yn beryglus iawn pe bai chwaraewr rygbi'n llithro ac yn syrthio arno."

Heb y grant o £1,500 a ddyfarnwyd i'r clwb, ni fyddai canfyddwr metelau wedi bod yn bosib, nac unrhyw saethyddiaeth.

"Mae'r gronfa wedi achub y clwb," meddai Rhys.

"Ar un adeg pan oedden ni yn y ganolfan chwaraeon, roedd yn galluogi i ni uwchraddio'r clwb cyfan gan brynu targedau newydd, rhwydi diogelwch, diheintyddion dwylo a standiau. Ond nawr, ’allwn ni ddim saethu dan do.

"Felly, rydyn ni’n saethu yn yr awyr agored yng Nghlwb Rygbi Bae Colwyn, sy'n wych. Gyda'r grant, rydyn ni’n mynd i brynu cynhwysydd mawr er mwyn i ni allu rhoi ein stwff tu allan a'i gadw mewn lleoliad parhaol."

Mae'r cadeirydd yn benderfynol bod rhaid i'r clwb oroesi'r hinsawdd bresennol a pharhau i'r dyfodol.

"Mae saethyddiaeth yn boblogaidd iawn yng ngogledd Cymru. Cyn Covid roedd y clwb yn gwneud yn dda iawn ac roedd gennym ni 35 o aelodau ar ein llyfrau.

"Mae'n anodd gwybod faint fydd yn dod yn ôl oherwydd y cyfyngiadau newydd, ond rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu."

Diwedd

 

1. Saethyddion Bae Colwyn yn gweithio tuag at 'normal newydd', diolch i grant o gronfa #CymruActif.

Mae'r clwb yn dal i danio saethau... ond yn yr awyr agored nawr i helpu i sicrhau eu bod yn dilyn y cyfarwyddyd lleol.

2. Diolch i gronfa #CymruActif, gall Saethyddion Colwyn barhau i danio saethau, gan gadw at y cyfarwyddyd lleol.

3. Mae Saethyddion Colwyn yn gwybod mwy na'r rhan fwyaf o bobl am effeithiau Covid-19, a dyma pam mae pob mesur posib yn cael eu rhoi ar waith i warchod eu hunain a dyfodol y clwb.

#CymruActif