Main Content CTA Title

Sut mae chwaraeon yng Nghymru yn creu amgylcheddau gwell i ferched a genethod

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut mae chwaraeon yng Nghymru yn creu amgylcheddau gwell i ferched a genethod

Wrth i ni ddathlu'r haf mwyaf erioed i chwaraeon merched yng Nghymru, mae mwy o ferched a genethod nag erioed o'r blaen yn cymryd rhan, yn arwain ac yn rheoli chwaraeon.

Ond ni ddigwyddodd hyn dros nos. Ac er ein bod ni’n cydnabod bod mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod merched a genethod yn cael cae chwarae teg, rydyn ni wedi dod yn bell diolch i flynyddoedd o waith caled ac ymrwymiad gan sefydliadau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr.

Felly beth am i ni edrych ar rai ffyrdd y mae chwaraeon yng Nghymru yn creu amgylcheddau chwaraeon gwell i ferched a genethod.

Adeiladu cyfleusterau chwaraeon ar gyfer merched

Rydyn ni’n gwybod bod merched a genethod eisiau lleoliadau addas, wedi'u cynnal a'u cadw'n dda, fel ystafelloedd newid a thoiledau, sydd wedi'u hadeiladu ar eu cyfer nhw.

Mae ychydig dros hanner y merched yng Nghymru yn teimlo bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon yn eu hardal leol. 

Ond mae prosiectau fel Cronfa Gwaddol Golff Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â'r sefyllfa i wneud yn siŵr bod y llefydd yn ddigon da. Wrth i Gymru baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Agored y Merched AIG, bydd mwy na 70 o brosiectau’n trawsnewid y gêm i ferched a genethod a byddant yn cynnwys gwelliannau i doiledau ac ystafelloedd newid cyrsiau golff – gan sicrhau bod y gamp ar y cwrs cywir i ddenu mwy o ferched yn y dyfodol.

Ydych chi wedi meddwl am wneud cais i Lle i Chwaraeon - Crowdfunder i uwchraddio eich cyfleusterau chi?

Grŵp o fenywod yng Nghlwb Golff Hwlffordd gyda'u breichiau yn yr awyr
Derbyniodd Clwb Golff Hwlffordd gyllid i wella cyfleusterau gwarchodwyr gwyrdd menywod yn y clwb. Llun: James Eades, Golff Cymru

Gwella ddealltwriaeth o gylch y mislif

Beth am i ni fod yn onest, ychydig flynyddoedd yn ôl roedd siarad am y mislif, wel, yn dipyn o dabŵ. Yn ffodus, mae pethau wedi newid oherwydd mae 46% o ferched yn dweud bod eu mislif wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol (Traciwr Gweithgarwch Cymru Hydref 2024). Hefyd, dywedodd 8% o ferched y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon 'pe bawn i'n gallu rheoli fy mislif yn well' (Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022).

Dyma pam mae Chwaraeon Cymru wedi lansio cwrs Cylch y Mislif yn ogystal â chyngor i hyfforddwyr.  Mae'n helpu pobl fel yr hyfforddwr trampolinio Mark Samuels:

“Yn y gorffennol, rydw i wedi bod yn euog o beidio â bod mor wybodus ac ymwybodol o iechyd merched ag y dylwn i fod wedi bod. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnes i sylweddoli na ddylai'r pwnc yma gael ei esgeuluso oherwydd fy niffyg gwybodaeth a fy ansicrwydd i. Fe wnes i ddysgu llawer ar y cwrs ac mae wedi cael effaith ystyrlon iawn ar fy ymarfer hyfforddi i, fy amgylchedd a fy mherthynas i â fy athletwyr.”

Yn y gorffennol, rydw i wedi bod yn euog o beidio â bod mor wybodus ac ymwybodol o iechyd merched ag y dylwn i fod wedi bod. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnes i sylweddoli na ddylai'r pwnc yma gael ei esgeuluso oherwydd fy niffyg gwybodaeth a fy ansicrwydd i.
Mark Samuels

Newid citiau chwaraeon i ferched a genethod

Yn ôl ymchwil gan chwaraewr hoci blaenllaw, mae dillad yn ffactor mawr wrth i bobl ifanc roi'r gorau i chwaraeon. Y broblem? Cit chwaraeon gwahanol i’r rhywiau, fel sgertiau.

Fe wnaeth yr ymchwil ysgogi Hoci Cymru i wneud newidiadau mawr i'w cit. Nawr gall chwaraewyr ddewis gwisgo sgort neu siorts.

Mae lliw dillad chwaraeon yn allweddol hefyd. Yn 2024, arweiniodd rygbi merched Cymru y ffordd wrth fynd i'r afael â gorbryder am y mislif drwy newid o siorts gwyn i goch. Roedd hyn yn newid y gêm yn llwyr mewn ffordd syml iawn i ferched a genethod ledled Cymru.

Tîm rygbi menywod Cymru yn canu'r anthem genedlaethol
Tîm rygbi menywod Cymru yn gwisgo siorts coch.

Rhoi hwb i hunanhyder merched yng Nghymru

Rydyn ni’n gwybod y byddai 31% o ferched yn gwneud mwy o chwaraeon 'pe bawn i'n fwy hyderus' (Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022). Mae hynny o gymharu ag 17% o fechgyn. Rhowch hyder isel ochr yn ochr ag ardaloedd o amddifadedd a gall fod yn her wirioneddol i gael mwy o ferched i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Ond mae prosiectau fel Girls Takeover yn Newport Live yn mynd i'r afael â'r broblem yn uniongyrchol. I ferched 11 i 18 oed, mae'n gwella lefelau hyder fel eu bod nhw’n teimlo'n fwy cyfforddus yn mynd i'r gampfa neu ddosbarth ffitrwydd neu'n cymryd rhan mewn chwaraeon fel pêl droed, pêl rwyd a badminton.

Dywedodd Lauren Buttigieg o Newport Live, “Fe welson ni bod llawer o ferched wrth eu bodd gyda'r gampfa ond maen nhw’n gallu bod yn bryderus oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud. Dyna pam, ym mhob sesiwn, ein bod ni'n dod â'n hyfforddwyr campfa ni i mewn fel eu bod nhw'n dod i'w hadnabod nhw. Ers hynny, mae merched wedi ymuno â'r gampfa ac yn teimlo'n hapus i ofyn cwestiynau i'r staff oherwydd eu bod nhw eisoes yn eu hadnabod nhw.”

Fe welson ni bod llawer o ferched wrth eu bodd gyda'r gampfa ond maen nhw’n gallu bod yn bryderus oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud. Dyna pam, ym mhob sesiwn, ein bod ni'n dod â'n hyfforddwyr campfa ni i mewn fel eu bod nhw'n dod i'w hadnabod nhw. Ers hynny, mae merched wedi ymuno â'r gampfa ac yn teimlo'n hapus i ofyn cwestiynau i'r staff oherwydd eu bod nhw eisoes yn eu hadnabod nhw.
Lauren Buttigieg, Newport Live

Cefnogi merched beichiog mewn chwaraeon

“Ddim yn eich cyflwr chi”. Swnio'n gyfarwydd? Ac eto, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o athletwyr Cymru wedi arwain y ffordd i ddangos ei bod yn ddiogel, gyda'r arweiniad a'r gefnogaeth briodol, dal ati i ymarfer a chyflawni nodau chwaraeon hyd yn oed yn ystod beichiogrwydd. Hefyd, mae sefydliadau'n gwella sut maen nhw'n cefnogi athletwyr beichiog.

Fe enillodd Elinor Barker – sydd newydd gyhoeddi ei bod hi'n disgwyl ei hail blentyn – fedal arian yng Ngemau Olympaidd Tokyo pan oedd hi’n feichiog. Mae hi wedi siarad am y newidiadau cadarnhaol mewn polisïau mamolaeth yn y byd beicio proffesiynol a'r gefnogaeth well i'r rhai sy'n jyglo bod yn fam a gyrfa. Enillodd y saethydd Jodie Grinham fedal aur Paralympaidd hefyd tra'n feichiog.

Yng Nghymru, mae'r seren rygbi Alisha Joyce-Butchers yn disgwyl babi ar hyn o bryd gyda'i gwraig a'i chyd-chwaraewr, Jasmine. Nid yn unig y mae Undeb Rygbi Cymru yn edrych ymlaen at groesawu cefnogwr newydd i Gymru ond mae hefyd yn cefnogi Alisha gyda pholisi mamolaeth perfformiad.

Hefyd, mae tîm Athrofa Chwaraeon Cymru yn cael hyfforddiant mewn rheoli maeth yn ystod beichiogrwydd fel ein bod ni’n gallu cefnogi athletwyr beichiog yn well. Hefyd mae aelodau o dîm yr Athrofa wedi cwblhau Hyfforddiant Llysgenhadon This Mum Moves (TMM) yr Active Pregnancy Foundation i gynyddu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder i drafod gweithgarwch corfforol yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth. 

Elinor Barker yn dathlu gyda'i theulu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis
Rydym yn disgwyl ein hail fabi ym mis Rhagfyr. Hynod o lwcus unwaith eto i gael cefnogaeth lawn gan @unoxteam a @britishcycling a chael fy amgylchynu gan gymaint o arbenigwyr.
Elinor Barker ar cyfryngau cymdeithasol

Cefnogi modelau rôl benywaidd

Rhaid i chi ei weld i’w efelychu. Mae un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru yn dweud bod gwylio neu fynychu digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol i ferched yn ystod y tri mis diwethaf wedi eu hysbrydoli i fod yn fwy actif.

A dyma pam rydyn ni wrth ein bodd gyda'r haf gorlawn yma o chwaraeon merched… O Fishlock a'i chriw yn creu hanes pêl droed yn yr Ewros i Gwpan Rygbi'r Byd i Ferched ym mis Awst, yn ogystal â nofio, golff, criced a thennis o'r radd flaenaf, does dim rhaid i chi chwilio'n bell am ysbrydoliaeth.

Ond mae modelau rôl yn nes at adref yr un mor bwysig. Fel Sarah Murray. Fe ddaeth hi i hoffi beicio yn hwyrach ymlaen mewn bywyd a nawr - fel Pencampwr Breeze - mae hi'n annog merched o bob oed yng ngogledd Cymru i estyn am feic. Nid yn unig hynny, mae hi hefyd wedi hyfforddi mewn materion iechyd merched fel y menopos, y mislif, iechyd y cyfrwy a diffyg egni. Ac yn newid i gêr uwch fyth, gyda help Cronfa Cymru Actif a’r Loteri Genedlaethol, mae hi bellach yn datblygu cymuned o raswyr ffordd benywaidd.

Sarah Murray yn arwain sesiwn beicio i fenywod
Sarah Murray yn arwain sesiwn beicio i fenywod

Creu gofod diogel i ferched amrywiol

I rai merched, mae bod yn actif yn fwy o her am resymau crefyddol a diwylliannol. Ond yng Nghasnewydd, mae'r elusen leol, KidCare4U, yn cynnig sesiynau nofio i ferched yn unig gyda help llaw gan Gronfa Cymru Actif.

Mae croeso i bob menyw, ond merched Mwslimaidd sy'n dod yn bennaf, oherwydd y sicrwydd o le diogel gydag achubwyr bywyd benywaidd a heb farn i ferched sydd eisiau gorchuddio eu breichiau, eu coesau a'u pennau mewn burkini.

Jotsna yw Swyddog Ymgysylltu a Phartneriaethau KidCare4U. Mae hi'n egluro:

“Y rheswm pam mae'r merched yn mwynhau'r sesiwn ac yn dal i ddod yn ôl yw am ei bod hi'n llawn o bobl o'u cymuned nhw. Maen nhw'n gweld wynebau cyfarwydd a dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw'n cael eu barnu am fod eisiau gorchuddio eu corff yn y pwll. I ferched o gefndir ethnig, gall gymryd llawer o amser i feithrin ymddiriedaeth ac integreiddio.”

Mwy o wybodaeth am brosiect KidCare4U

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffiO ynysu i gynhwysiant: sut mae Clwb Badminton Dynamos Caerdydd yn helpu merched i oresgyn rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol

Grwp o menywod yn gwenu
Y rheswm pam mae'r merched yn mwynhau'r sesiwn ac yn dal i ddod yn ôl yw am ei bod hi'n llawn o bobl o'u cymuned nhw. Maen nhw'n gweld wynebau cyfarwydd a dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw'n cael eu barnu am fod eisiau gorchuddio eu corff yn y pwll. I ferched o gefndir ethnig, gall gymryd llawer o amser i feithrin ymddiriedaeth ac integreiddio.
Jotsna, Swyddog Ymgysylltu a Phartneriaethau KidCare4U

Sut gallwch chi chwarae eich rhan mewn chwaraeon merched a genethod yng Nghymru yr haf yma?

Os ydych chi'n glwb neu'n sefydliad, fe all pawb chwarae eu rhan.

  • Rhannwch eich straeon ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #HiActifCymru 
  • Dathlwch fodelau rôl benywaidd ysbrydoledig.
  • Anogwch eich clwb i wneud cais am gyllid i wella profiadau merched a genethod.