Skip to main content

Cronfa newydd i fusnesau chwaraeon a hamdden masnachol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cronfa newydd i fusnesau chwaraeon a hamdden masnachol

Mae campfeydd masnachol, stiwdios dawns a ffitrwydd, parciau trampolinio a chanolfannau dringo ymhlith y busnesau sy'n gallu gwneud cais am becyn cefnogi Covid-19 diweddaraf Chwaraeon Cymru. 

Mae grantiau o £5,000 a £15,000 ar gael drwy 'Gronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon' i helpu'r ystod eang o fusnesau preifat sy'n cadw'r cyhoedd yng Nghymru'n actif. 

Mae'r rhestr helaeth o fusnesau a allai fod yn gymwys i gael cyllid hefyd yn cynnwys canolfannau marchogaeth, gweithredwyr croesffit, canolfannau chwaraeon dŵr a chyfleusterau 5 bob ochr. 

Mae symiau'r grant yn dibynnu ar drosiant blynyddol, a bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi colli o leiaf £5,000 neu £15,000 ers mis Ebrill 2020 o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig. 

Wrth esbonio'r gronfa ymhellach, dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Fe allai nifer sylweddol o fusnesau fod yn gymwys ar gyfer y gronfa newydd yma. Mae pob un ohonyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan y cyhoedd yng Nghymru am y llu o gyfleoedd maen nhw’n eu darparu. Rydyn ni’n sylweddoli na fydd y grantiau sydd ar gael yn talu am yr holl golledion mae busnesau wedi'u dioddef, ond rydyn ni’n gobeithio y byddant yn gwneud rhywfaint i leddfu torcalon ariannol y pandemig.  



"Fe fyddwn ni hefyd yn disgwyl i’r busnesau hynny sy'n manteisio ar y gronfa edrych ar ddulliau arloesol a chynaliadwy o ymdrin â'u gweithrediadau yn y dyfodol, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r lefelau cynyddol o anghydraddoldeb erbyn hyn mewn gweithgarwch ymhlith gwahanol grwpiau o bobl yng Nghymru." 

Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon yw elfen ddiweddaraf cyfres o becynnau cyllido y mae Chwaraeon Cymru wedi gallu eu creu gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael pwrpas newydd gan y Loteri Genedlaethol i ddiogelu sefydliadau, clybiau, cyfleusterau a swyddi chwaraeon i sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gallu chwarae rhan bwysig yn adferiad Cymru wedi'r pandemig. 

Mae'n dilyn y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon ddiweddar sydd wedi cefnogi gweithwyr llawrydd a hunangyflogedig yn y diwydiant a bydd yn rhedeg ochr yn ochr â Chronfa Cymru Actif sy'n achubiaeth i glybiau chwaraeon cymunedol a mudiadau gwirfoddol. 

Mae Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon yn agor ddydd Mawrth 9fed Chwefror am hanner dydd a bydd angen i fusnesau gyflwyno eu ceisiadau cyn 4pm ddydd Gwener 19eg Chwefror. Nid yw'r gronfa wedi'i chynllunio ar gyfer busnesau masnachol yn y sector chwaraeon nad ydynt yn darparu gweithgareddau'n uniongyrchol, felly nid yw ar gael i fusnesau fel awduron chwaraeon, sylwebyddion, ffotograffwyr, therapyddion chwaraeon a maethegwyr.