Skip to main content

Cyfraniad Hanfodol Chwaraeon at Helpu i Leihau Gordewdra yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyfraniad Hanfodol Chwaraeon at Helpu i Leihau Gordewdra yng Nghymru

Mae strategaeth newydd i helpu i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru wedi cael ei chroesawu gan Chwaraeon Cymru.

Nod y strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach, sydd wedi cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru, yw mynd i'r afael â'r ffigurau sy'n dangos bod 60% (1.5 miliwn) o'r boblogaeth o oedolion dros eu pwysau neu'n or-dew.

Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at rai meysydd allweddol ar gyfer chwaraeon, gan gynnwys y canlynol:

  • Hybu gofod gwyrdd lleol a hawliau tramwy ar gyfer hamdden yn well, a sicrhau mwy o gyfleoedd i gael mynediad atynt.
  • Cynnwys gweithgarwch corfforol yn rheolaidd mewn seilwaith a phenderfyniadau cyllido, fel Ysgolion yr 21ain Ganrif, safleoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Tai ac Adfywio.
  • Buddsoddiad cynyddol mewn cyfleusterau chwaraeon o safon uchel a chefnogaeth gynyddol i gymunedau fuddsoddi mewn asedau cymunedol.
  • Amrywiaeth o nodau'n gysylltiedig â Theithio Llesol.
  • Cydnabyddiaeth i bwysigrwydd llythrennedd a gweithgarwch corfforol ym mhob rhan o amgylchedd ysgol, yn ogystal â'r angen am sicrhau bod ysgolion yn amgylcheddau egnïol.
"Mae tystiolaeth yn dangos i ni bod y rhai sy'n fwy egnïol yn gorfforol yn fwy tebygol hefyd o ddangos ymddygiad iach arall, fel o ran eu dewisiadau ynghylch bwyd."

Dywedodd y Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru, Graham Williams:

"Rydyn ni'n croesawu lansio'r strategaeth newydd yma ac yn cydnabod y rôl eithriadol bwysig sydd gan weithgarwch corfforol i'w chwarae yn yr her hon.  Fel mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi dweud, rhaid i ni helpu pobl i roi'r gorau i hen arferion a chreu rhai newydd iach. Mae creu cenedl egnïol lle mae pawb yn mwynhau chwaraeon am oes yn agwedd allweddol ar gyflawni'r strategaeth hon. Mae tystiolaeth yn dangos i ni bod y rhai sy'n fwy egnïol yn gorfforol yn fwy tebygol hefyd o ddangos ymddygiad iach arall, fel o ran eu dewisiadau ynghylch bwyd. Mae chwaraeon yn adnodd hynod bwysig ar ei ben ei hun wrth fynd i'r afael â gordewdra, ond mae hefyd yn rhywbeth a all helpu i gyflawni agweddau eraill ar y weledigaeth.

"Bydd yr agenda atal yn allweddol yn y dull hwn o weithredu ac mae cynnwys pobl yn gynnar ac yn aml i ddeall manteision gweithgarwch corfforol, mewn amgylchedd sy'n addas iddyn nhw, yn rhan greiddiol o hynny.

"Yr hyn sy'n hynod bositif yw bod ymrwymiad clir yn y strategaeth i greu amodau priodol i gefnogi amgylcheddau a phobl iachach, gan gynnwys buddsoddiad cynyddol mewn cyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel ac ysgolion yn cynnwys gweithgarwch corfforol dyddiol yn y diwrnod ysgol. Bydd datblygu dull cydweithredol o weithio ar draws y sectorau iechyd, addysg, cymunedol a chwaraeon i fanteisio ar y cyfle hwn yn gwneud byd o wahaniaeth i iechyd a lles ein cenedl ni."

I ddarllen y strategaeth:

https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-10/healthy-weight-healthy-wales_0.pdf