Skip to main content

Cyfrif i lawr at y Gemau Paralympaidd – llygaid pwy sydd ar Tokyo?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyfrif i lawr at y Gemau Paralympaidd – llygaid pwy sydd ar Tokyo?

Pur anaml mae Jim Roberts yn araf yn gadael y marc fel un o chwaraewyr rygbi cadair olwyn mwyaf blaenllaw y DU ac mae wedi cyrraedd yno o flaen y gweddill o ran y Gemau Paralympaidd y flwyddyn nesaf.

Roberts, sydd wedi'i eni yn y Trallwng, yw'r athletwr cyntaf o Gymru i sicrhau ei le yn Tokyo y flwyddyn nesaf wrth i'r cyfrif i lawr at y Gemau ddechrau - dim ond blwyddyn sydd i fynd erbyn hyn.

Ond mae'n bur debyg y bydd digon o athletwyr eraill yn camu ar yr un awyren. Dair blynedd yn ôl roedd Roberts yn un o'r 26 o Baralympiaid o Gymru a aeth i Rio de Janeiro - canran nodedig o 10 y cant o dîm cyffredinol Prydain Fawr - ac mae'n edrych yn debyg y bydd yr un nifer o Ddreigiau'n teithio i Japan hefyd.

Sicrhaodd Roberts ei le yn aelod o garfan rygbi cadair olwyn Prydain Fawr a enillodd y Pencampwriaethau Ewropeaidd diweddar yn Nenmarc.

Llwyddodd y tîm i guro'r wlad gartref yn y rownd derfynol, 55-45, mewn twrnamaint sy'n gweithredu fel cystadleuaeth gymhwyso Baralympaidd.

"Mae'n braf cael sortio cymhwyso ar gyfer Tokyo," meddai Roberts, ar ôl i'w buddugoliaeth yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Sweden sicrhau tocyn i Tokyo iddyn nhw.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r cyn redwr traws gwlad dros Gymru fod yn y Gemau Paralympaidd. Roedd yn 26 oed pan aeth i Rio, lle daeth Team GB yn bumed yn 2016, ac mae'n awyddus i gyrraedd y podiwm y flwyddyn nesaf.

Ar hyn o bryd mae Team GB yn bumed yn y byd a bydd rhaid iddo frwydro yn erbyn timau fel Japan, y pencampwyr byd presennol, ac Awstralia, y pencampwyr Paralympaidd presennol, am fedalau yn Tokyo.

Yn ymuno â Roberts yn Japan bydd yr ysbrydoledig Phil Pratt, sydd wedi'i eni yng Nghasnewydd ac sy'n gapten carfan pêl fasged cadair olwyn Prydain Fawr.

Fis Medi, arweiniodd Pratt ei dîm i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaethau Ewrop yng Ngwlad Pwyl, gan drechu Sbaen yn y rownd derfynol i sicrhau ymweliad â Tokyo yr haf nesaf.

“Rydyn ni mor falch o ennill Pencampwriaethau Ewrop – mae wedi bod yn haf hir a chaled gyda’r sgwad ac rydw i mor falch o’r tîm yma,” meddai Pratt.

Athletwr arall o Gymru gafodd stamp ar ei docyn ym mis Medi oedd y feteran tennis bwrdd, Rob Davies.

Enillodd y cyn chwaraewr rygbi ei bedwerydd teitl Ewropeaidd yn olynol yn rownd derfynol Dosbarth 1 yn Sweden i sicrhau lle awtomatig yn Tokyo lle bydd yn ceisio amddiffyn ei fedal aur.

Enillodd Jodie Grinham o Aberteifi fedal arian yn Rio bedair blynedd yn ôl yn y gystadleuaeth saethyddiaeth i dimau, gyda’i phartner John Stubbs, ac mae’n brysur yn paratoi er mwyn gwneud ei marc eto yn Tokyo.

Ar ôl gwella o salwch difrifol eleni, mae Grinham yn canolbwyntio ar bencampwriaethau’r DU sydd ar y gorwel ac meddai: “Er bod blwyddyn i fynd, ychydig o amser yw hynny pan rydych chi’n cystadlu ac yn hyfforddi – mae gennych chi gymaint i’w wneud.”

Efallai nad yw yno eto, ond un Cymro a fydd yn dechrau chwilio am lyfr o ymadroddion Japaneaidd yn fuan iawn yn sicr yw’r Para-rwyfwr, Ben Pritchard.

Mae ei gynnydd wedi bod yn ffenomenal oherwydd pan gynhaliwyd y Gemau Paralympaidd ddiwethaf, yn 2016, roedd Pritchard yn yr ysbyty yn ceisio ymdopi â’i fywyd newydd ar ôl damwain feicio.

Mae’r ddamwain wnaeth ei barlysu o’i asennau i lawr wedi agor byd newydd iddo ar y dŵr erbyn hyn ac, yn gynharach yr haf yma, roedd â’i lygaid ar le gyda Phrydain Fawr yn Tokyo ar gyfer sgwlio senglau’r dynion.

Does dim dewis terfynol wedi’i wneud eto, ond pan orffennodd Pritchard yn bedwerydd yn y pencampwriaethau byd diweddar, sefydlodd ei hun yn ffefryn i hawlio’r lle.

Pe bai’n llwyddo, bydd y rhwyfwr o Abertawe’n gallu treulio’r misoedd nesaf yn holi rhai o’r dynion a’r merched eraill o Gymru sy’n debygol o fod yn dychwelyd i dir cyfarwydd yn y Gemau Paralympaidd.

Ar frig y rhestr brofiadol mae Aled Davies, y taflwr disgen a siot 28 oed sy’n debygol o fod yn mynd i’r Gemau am y trydydd tro ar ôl Llundain 2012 a Rio 2016.

Wedi cipio medal aur yn y ddwy ddisgyblaeth yn y categori F42, mae Davies yn paratoi ar hyn o bryd ar gyfer Pencampwriaethau Para Athletau’r Byd yn Dubai ym mis Tachwedd.

Bydd yn amddiffyn ei deitl byd, ochr yn ochr â dwy bencampwraig byd arall o Gymru – Hollie Arnold yn y taflu gwaywffon F46 ac Olivia Breen yn y naid hir T38.

Heb anafiadau neu unrhyw anffawd arall, dylai’r tri fod yn teithio i Tokyo ar gyfer y Gemau Paralympaidd, sy’n dechrau ar Awst 25 ac yn para tan Fedi 6.

Ymhlith y cystadleuwyr tebygol eraill mae Sabrina Fortune, newydd-ddyfodiad i’r taflu siot F20 yn Rio dair blynedd yn ôl, a Harri Jenkins, yr athletwr o Gastell-nedd a chyn chwaraewr pêl fasged cadair olwyn gyda Roberts dros Brydain Fawr, sy’n cystadlu yn y 100m T33 yn Dubai.

Wedyn, mae gan ddau o sêr eraill Cymru fydd allan yn Dubai fwy o siawns nag erioed o gyrraedd y Gemau Paralympaidd. Un yw’r sbrintiwr Jordan Howe, a fydd yn camu i’r blociau yn y 100m T35.

Y llall yw Kyron Duke, taflwr siot F41 a dorrodd y record byd yn gynharach eleni yng Nghystadleuaeth Gwahoddiad Bayer yn Leverkusen, yr Almaen.

Mae para-athletwyr eraill o Gymru hefyd, mewn amrywiaeth o chwaraeon, y bydd y misoedd nesaf yn allweddol i bob un ohonyn nhw wrth iddyn nhw gystadlu am le yn Tokyo.