Skip to main content

Cyllid y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan fawr yn stori Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyllid y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan fawr yn stori Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni

Mae cyllid y Loteri Genedlaethol wedi chwarae rhan fawr yn hanes Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni dros y blynyddoedd ac nid yw eleni’n eithriad. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyllid y Loteri Genedlaethol wedi helpu’r clwb i adeiladu cyfleusterau, goroesi pandemig Covid-19 ac ehangu ei waith i ddenu’r bobl mwyaf agored i niwed yn ei gymuned at y gamp.

Yn 2017, adnewyddodd y clwb ganolfan gymunedol i fod yn gampfa focsio. Eleni, derbyniodd y clwb £440 o gronfa Cymru Actif oedd o help iddo ailddechrau’n ddiogel ar ôl y cyfnod clo, a £295,543 o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru i ehangu gwaith y clwb i gynnwys pobl agored i niwed yn ei gymuned yn y gamp.

Dyfarnwyd grant y Loteri Genedlaethol o £17,000 i Glwb Bocsio Phoenix Llanrhymni gan Chwaraeon Cymru yn 2017 i helpu i droi canolfan gymunedol oedd yn prysur ddadfeilio yn gampfa bocsio. Nawr mae 150 o bobl ifanc yn ymweld â champfa’r clwb bocsio bob dydd. 

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r clwb wedi bod yn pryderu am effaith Covid ar iechyd meddwl ei focswyr. Mae wedi annog ei aelodau i gysylltu os ydynt yn teimlo'n bryderus neu ar eu pen eu hunain a bellach mae’n cynnig cwrs iechyd a lles y meddwl am ddim. 

Meddai'r Prif Hyfforddwr Tony Richards:

"Mae'n bwysig i ni ein bod ni’n rhoi'n ôl i'r gymuned lle rydyn ni wedi tyfu i fyny. Mae llawer o amddifadedd yma ac nid yw llawer o blant yn mynd i'r ysgol, sy'n dorcalonnus i'w weld.

"Fe hoffem ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol oherwydd ni fyddem yn gallu cefnogi'r gymuned heb y buddsoddiad yma. Mae'n gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn ein hardal ni."

"Rydyn ni’n gweithio gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i geisio helpu i gefnogi plant sy'n cael anawsterau."

Llun sesiwn focsio gan @LlanrumneyPBC
Llun sesiwn focsio gan @LlanrumneyPBC

    

Gan weithio gyda sefydliadau fel Gwasanaeth Ymyriadau Cynnar Troseddu Trefnus Difrifol Gweithredu Dros Blant, prosiect arall sy’n cael ei gyllido gan y Loteri Genedlaethol, mae Phoenix Llanrhymni yn gweithio'n galed i gyfeirio pobl ifanc oddi wrth droseddu.

Cyrhaeddodd Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni rownd derfynol Gwobrau Pen Blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 oed – yr ymgyrch flynyddol i ddod o hyd i hoff brosiectau a phobl y DU sy’n cael eu cyllido gan y loteri – am ei waith cynhwysol.

Yn ddiweddar, enillodd y clwb grant pellach o £440 gan y Loteri Genedlaethol o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, i'w helpu i ailddechrau ei weithgareddau bocsio ar ôl y cyfnod clo. Cafodd yr arian ei wario ar thermomedr, arwyddion diogelwch Covid, masgiau wyneb, menig a rhaffau sgipio er mwyn creu amgylchedd hyfforddi diogel gan gadw pellter cymdeithasol.

Mewn buddugoliaeth arall, ym mis Gorffennaf 2020 sicrhaodd y clwb £295,543 o Gronfa Gymunedol Cymru y Loteri Genedlaethol er mwyn iddo allu ehangu ei waith ymhellach fyth, gan weithio gyda phlant sydd mewn perygl o ymddieithrio, pobl ddigartref yn ogystal â'r rhai sy'n byw gyda dementia, iselder, gorbryder ac unigedd.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws.