Skip to main content

Deng mlynedd o raglen y Llysgenhadon Ifanc yn creu modelau rôl ysbrydoledig

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Deng mlynedd o raglen y Llysgenhadon Ifanc yn creu modelau rôl ysbrydoledig

Bydd pen blwydd rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru yn ddeg oed yn cael ei nodi mewn digwyddiad arbennig yr wythnos nesaf sydd wedi'i drefnu gan Chwaraeon Cymru a'r elusen blant, yr Youth Sport Trust.

Nod rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yw grymuso pobl ifanc fel modelau rôl ysbrydoledig fel eu bod yn gallu annog eu cyfoedion segur i fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae'n faes gwaith allweddol i'r Youth Sport Trust yng Nghymru gyda'r elusen yn cefnogi datblygiad sgiliau a hyder pobl ifanc.

Yn ystod y degawd diwethaf, mae sgwad gwych o tua 20,000 o Lysgenhadon Ifanc wedi cymryd rhan yn y rhaglen ac mae miloedd yn rhagor wedi cael eu hysbrydoli ganddynt i gymryd rhan mewn chwaraeon neu ddechrau gwirfoddoli.

Mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a chymunedau ledled Cymru, gellir gweld y Llysgenhadon Ifanc bob wythnos yn arwain sesiynau chwaraeon, yn hyfforddi disgyblion iau, yn gwirfoddoli mewn digwyddiadau, yn dyfarnu mewn gemau ac, yn gyffredinol, yn annog eraill i hoffi chwaraeon gymaint â hwy.

Ar hyn o bryd mae tua 4,000 o Lysgenhadon Ifanc gweithredol ledled Cymru, yn amrywio o Lysgenhadon Ifanc Efydd mewn ysgolion cynradd i Lysgenhadon Ifanc Arian, Aur a Phlatinwm mewn ysgolion uwchradd, colegau, prifysgolion ac yn y gymuned.

Mewn arolwg ar Lysgenhadon Ifanc Cymru y llynedd, dywedodd 96% ohonynt bod y rhaglen wedi rhoi mwy o hyder iddynt, ac roedd 98% yn teimlo ei bod wedi gwella eu sgiliau arwain.

Bydd cyflawniadau'r rhaglen yn ystod y degawd diwethaf yn cael eu dathlu yn 10fed Cynhadledd Genedlaethol y Llysgenhadon Ifanc Aur sy'n cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Gwener 8 Tachwedd.

Wrth ganmol effaith y rhaglen, dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yn chwarae rhan allweddol yn ein strategaeth ni i greu cenedl actif lle mae cymaint o bobl â phosib yn gallu mwynhau a dal ati i fod yn actif drwy chwaraeon.

"Mae'r rhaglen yn ffynnu ym mhob rhan o Gymru diolch i awdurdodau lleol, cyrff rheoli cenedlaethol ac ysgolion sydd wedi croesawu'r ffordd mae'r cynllun yn grymuso pobl ifanc, gan addysgu sgiliau bywyd amhrisiadwy iddyn nhw, fel arweinyddiaeth a chyfathrebu, a magu eu hyder.

"Mae'n nodedig sut mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc wedi nid yn unig cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon, ond hefyd wedi helpu i ddylanwadu ar filoedd o bobl ifanc fel unigolion hyderus a chyflawn sy'n gallu ffynnu mewn bywyd yn gyffredinol.

"Mae'r rhaglen yn rhoi cymaint o brofiadau positif anhygoel iddyn nhw, yn ehangu eu gorwelion ac yn meithrin cyfeillgarwch sy'n para am oes gobeithio.

"Rydw i'n falch iawn bod Chwaraeon Cymru wedi cyllido'r rhaglen ers iddi gael ei chyflwyno i ddechrau yng Nghymru yn 2010. Mae'n anhygoel meddwl nad oedd rhai o'n Llysgenhadon Ifanc presennol ni wedi'u geni hyd yn oed pan sbardunwyd y rhaglen gan yr Arglwydd Seb Coe yn 2006, fel gwaddol i'r cais llwyddiannus am gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012."

Bydd llawer o'r cyn Lysgenhadon Ifanc yn rhannu eu profiadau yn y gynhadledd genedlaethol, ac yn ymuno â hwy hefyd bydd aelodau o raglenni'r Llysgenhadon Ifanc yn yr Alban ac yn Lloegr.