Skip to main content

Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd - Stori Aled

Mae Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd (15 Gorffennaf 2019) yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd galluogi i'n pobl ifanc ni ddysgu a mabwysiadu sgiliau a fydd nid yn unig yn eu paratoi ar gyfer y byd gwaith, ond hefyd yn meithrin sgiliau bywyd hanfodol sy'n amhrisiadwy ac nad oes posib eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn aml.  

Aled Davies yw Cydlynydd Datblygu'r Gwirfoddolwyr Ifanc yng Nghymru ar gyfer yr Youth Sport Trust a Chwaraeon Cymru. Yma mae'n disgrifio sut mae Rhaglen arloesol ac uchel ei pharch y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru mor bwysig i bobl ifanc ar hyd a lled y wlad, a sut mae wedi effeithio ar ei fywyd.

I ddechrau, gadewch i mi esbonio beth yw rhaglen y Llysgenhadon Ifanc...

Oeddech chi'n gwybod bod rhaglen y Llysgenhadon Ifanc wedi'i chreu yn Lloegr yn 2006 gan yr Youth Sport Trust ar ôl i Lundain ennill y cais am gynnal y Gemau Olympaidd yn 2012? Dywedodd yr Arglwydd Seb Coe ei fod eisiau creu Gwaddol Olympaidd i'r gemau. Roedd y gwaddol yma'n troi o amgylch cymell pobl ifanc a rhoi cyfleoedd iddyn nhw fod yn egnïol yn gorfforol a siarad am faterion o bwys iddyn nhw. Daeth y rhaglen i Gymru yn 2009. Wrth iddi ddathlu ei phen blwydd yn 10 oed eleni, mae tua 19,000 o bobl ifanc wedi datblygu sgiliau arweinyddiaeth a chreu newid yn eu hysgolion a'u cymunedau yng Nghymru fel rhan o'r rhaglen.

Gall y bobl ifanc sy'n ymuno â'r rhaglen ddisgwyl datblygu eu sgiliau arweinyddiaeth; cynrychioli llais eu cyfoedion; dod yn eiriolwyr dros fanteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol; defnyddio chwaraeon a gwirfoddoli fel adnodd i greu newid yn eu hysgol a'u cymuned; a mentora'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ifanc.

Mae'r uchod i gyd yn ganlyniadau gwych wrth gwrs ond, yr hyn sy'n ddiddorol, yw bod ein harolwg diwethaf ni ar y Llysgenhadon Ifanc wedi dangos eu bod nhw wedi cael profiadau a dysgu sgiliau annisgwyl! Roedden nhw wedi meddwl y byddai posib iddyn nhw ddysgu sgiliau i'w rhoi ar eu CV, ond doedden nhw heb feddwl y bydden nhw'n cyfarfod ffrindiau am oes ac y byddai'r rhaglen yn gwella eu hiechyd meddwl a'u lles hefyd! Mae sawl rheswm pam rydw i'n falch o gynrychioli a hybu'r rhaglen, ond, i mi, mae'r wybodaeth yma'n dangos i mi ein bod ni'n helpu i greu pobl ifanc hapus, hyderus a chyflawn.

Rydw i'n teimlo mor ffodus o fod yn rhan o'r fenter yma sy'n newid bywydau.

Fel Llysgennad Ifanc fy hun, roedd cyfle i mi ddatblygu llawer o sgiliau a rhinweddau. Mae cyfleoedd fel siarad yng Nghynhadledd Chwaraeon Cymru 2014 a chyflwyno sesiynau rygbi mini wythnosol i blant 3 i 5 oed wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder i - a gallaf gadarnhau bod rheoli ystafell yn llawn plant bach gryn dipyn yn anoddach na hoelio sylw ystafell yn llawn oedolion! Ar ôl blynyddoedd o fagu hyder yn raddol, a thaflu fy hun i mewn i bethau ac ennill llawer o brofiad, fe welais i fod ennill y sgiliau yma i gyd o help i mi gael gwaith.

Er enghraifft, wrth weithio ym Mlaenau Gwent, datblygais sgiliau rhwydweithio drwy feithrin perthnasoedd da gyda Swyddogion Datblygu Chwaraeon. Fe wnes i ymdrech fawr a gofyn cwestiynau syml fel, "'wnaethoch chi rywbeth y penwythnos yma?", neu "welsoch chi'r pêl droed neithiwr?". Fe wnaeth rhoi amser i rwydweithio a dod i adnabod pobl dalu ar ei ganfed i mi oherwydd pan wnes i gais am swydd ran amser gyda thîm Blaenau Gwent, roedden nhw'n gwybod cymaint amdanaf i eisoes. Roedden nhw'n gwybod yn iawn pwy oeddwn i, 'mod i'n gallu dod ymlaen gyda phobl a bod gen i allu i wneud y gwaith. Roeddwn i'n falch iawn o gael cynnig y swydd, a'i derbyn yn falch wrth gwrs.

Mae cymaint o esiamplau o'r cyfleoedd rydw i wedi manteisio arnyn nhw sydd wedi fy helpu i wella fy sgiliau, ond un peth rydw i wedi'i weld ym mhob un cyfle yw faint mae fy hyder i wedi cynyddu. Rydw i bob amser yn synnu fy hun o ran 'mod i'n gallu siarad yn gyfforddus (bron) nawr o flaen ystafell o 10 o bobl neu ystafell o 400 o bobl. Fe wnes i hyn yn ystod cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015. Roedd yn hurt! Roeddwn i'n nerfus iawn wrth gwrs ond rydw i'n ddiolchgar i raglen y Llysgenhadon Ifanc am roi cyfle i mi wneud hynny a bod yn barod am hynny!

Fe wnaeth yr hyder yma fy nghymell i i wneud cais am fy swydd bresennol, Cydlynydd Datblygu - Gwirfoddolwyr Ifanc (Cymru) gyda'r Youth Sport Trust. Roedd symud o fod yn Llysgennad Ifanc i oruchwylio'r rhaglen yn gam enfawr. Fe wnes i benderfynu defnyddio'r holl sgiliau roeddwn i wedi'u dysgu dros y blynyddoedd i ddangos beth rydw i'n gallu'i wneud. Canlyniad gwych arall ac rydw i'n mwynhau bob munud.

Mae hyder yn thema gyffredin yn rhaglen y Llysgenhadon Ifanc: mae'r Llysgenhadon Ifanc yn bobl ifanc arbennig iawn sydd â hyder i fynegi eu barn a dweud eu dweud heb orfod cael eu hannog i wneud hynny. Maen nhw'n gydwybodol ac yn gwneud pethau fel sefydlu clwb chwaraeon gan fod hynny'n bwysig iddyn nhw, ac nid am fod oedolyn wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny.

Mae hyn yn wahanol iawn i'r ddelwedd mae pobl ifanc yn ei chael, yn enwedig yn y DU. Mae rhai'n meddwl ein bod ni'n cwyno'n gyson am broblemau ein bywyd braf ac yn syllu ar ein ffôn drwy'r amser. Mae iechyd meddwl gwael yn broblem, ond rydw i wedi gweld sut mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yn gallu newid bywydau pobl. Mae cymdeithas yn gallu ein siomi ni'n aml - mae'n gyffredin gweld pobl ifanc yn colli cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a rhoi hwb i'w hyder am nad yw oedolion yn gwrando, ddim yn gwerthfawrogi ein cyfraniad ni ac ddim yn cynnig cyfle i ni roi cynnig ar rywbeth newydd. Mae Llysgenhadon Ifanc ledled Cymru'n datblygu sgiliau sydd, ar y pryd, yn teimlo'n llai gwerthfawr, ond gallant fod ymhlith rhai o'u profiadau pwysicaf gan eu cyfeirio i lawr llwybr gwych o annibyniaeth ac aeddfedrwydd.

Rydw i'n teimlo'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc wedi'u cynnig i mi. Rydw i'n cyfaddef 'mod i'n barod iawn i ddweud iawn a gwneud pethau ac felly rydw i'n meddwl bod fy uchelgais i a fy chwilfrydedd wedi bod yn sylfaen dda iawn i mi ar gyfer bywyd. Er hynny, dydw i ddim yn gallu pwysleisio digon sut mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc wedi cynnig i mi, a chymaint o bobl ifanc eraill, lwyfan i gyflawni pethau gwych a dod yn aelodau gwerthfawr o'n gweithleoedd, ein cymunedau, ein rhwydweithiau a'n cymdeithas.

Fe fyddech chi'n fy ngwneud i'n hapus iawn o roi amser i edrych ar eincyfryngau cymdeithasol Fe fyddech chi'n fy ngwneud i'n hapus iawn o roi amser i edrych ar ein.