Mae goresgyn eich ofn o uchder a sgwrsio â ffrindiau newydd yn ddim ond dau o fanteision sesiynau dringo i bobl dros 60 oed yn Abertawe.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, mae'r Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed yn helpu i roi mwy o fynediad i bobl dros 60 oed i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol fel y gallant fyw bywydau iachach a hapusach.
Bob blwyddyn, mae £800,000 yn cael ei ddosbarthu i'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru i gyflawni'r cynllun, a dros y pedair blynedd diwethaf mae mwy na 7,000 o bobl hŷn wedi elwa o weithgareddau am ddim a rhai â chymhorthdal. Mae amrywiaeth enfawr o chwaraeon wedi dod ar gael drwy'r cynllun, ac mae dringo yn un o nifer o weithgareddau â gostyngiad sy'n cael eu cynnig gan dîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe.
Dywedodd Sarah McCoubrey, Rheolwr Iechyd a Lles Cyngor Abertawe: "Mae stereoteip penodol am weithgareddau antur fel dringo dim ond yn addas ar gyfer pobl iau, ond nid yw 60 yn hen ac mae dringo'n weithgaredd hwyliog iawn sydd o fudd i'ch lles corfforol a meddyliol.
"Yr adborth rydyn ni wedi'i gael ers rhedeg y sesiynau hyn yng Nghanolfan Ddringo Dan Do Dynamic Rock yw y gall dringo roi hwb i'ch hyder a gwneud i chi deimlo'n wych. Mae pawb sydd wedi cymryd rhan wir wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu'r rhaglen ymhellach ar draws Abertawe gydag amrywiaeth o weithgareddau sy'n apelio at bobl leol.”