Skip to main content

Ffordd o Fyw yn Perfformio: Cyngor Doeth i Rieni

Sut i helpu athletwyr ifanc i ddatblygu a bod yn llwyddiannus mewn chwaraeon a'r tu allan i'r byd chwaraeon

1. Bod yn gefnogol, brwdfrydig a llawn anogaeth

2. Bod yn fodel rôl da - i'ch plentyn, athletwyr ifanc eraill a rhieni eraill

3. Gadael i'r hyfforddwyr hyfforddi - peidiwch â cheisio bod yn ormod o bobl

4. Osgoi canolbwyntio ar ennill a rhoi gwybod iddyn nhw pa mor falch ydych chi, dim ots beth yw'r canlyniadau

5. Annog annibyniaeth a chyfrifoldeb personol drwy adael iddynt ddatrys problemau a gwneud eu penderfyniadau eu hunain

6. Gwrando a bod yn amyneddgar ac yn ddiduedd wrth roi cyngor

7. Cefnogi a pharchu uchelgais eich plentyn mewn chwaraeon (cofio mai ei brofiad ef yw hwn - nid eich un chi)

8. Canolbwyntio ar ddatblygu'r person cyfan drwy brofiadau amrywiol, mewn chwaraeon a'r tu allan i'r byd chwaraeon

9. Cydweithio â'r hyfforddwyr a'r staff cefnogi i ddarparu amgylchedd positif i'ch plentyn ffynnu ynddo

10. Gadael i'ch plentyn fod yn fo'i hun a chael hwyl!

Ffynhonnell: Uned Amddiffyn Plant Mewn Chwaraeon (2017). Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn www.thecpsu.org.uk