Skip to main content

Gallai trip i Disney arwain at stori dylwyth teg yn y byd golff i ferch ifanc o Bontyclun

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gallai trip i Disney arwain at stori dylwyth teg yn y byd golff i ferch ifanc o Bontyclun

ROEDD i fod yn wyliau i'r teulu yn Florida yn ymweld â'r Magic Kingdom, Epcot ac yn cadw llygad am ei hoff gymeriadau Walt Disney.

Yn hytrach, gwelodd Ffion Tynan hysbyseb i roi cynnig ar golff ac roedd eisiau treulio ychydig ddyddiau'n taro peli.

Nawr mae'r ferch ysgol 16 oed sy'n mynd i Ysgol Gyfun Y Pant ym Mhontyclun yn edrych ymlaen at dderbyn cynnig o ysgoloriaeth golff ym Mhrifysgol Arkansas, un o golegau gorau'r Unol Daleithiau.

Oddi yno mae'n gobeithio graddio i Daith yr LPGA a brwydro am anrhydeddau mawr yn erbyn goreuon y byd.

"Roeddwn i newydd droi'n wyth oed ac roedden ni ar wyliau'n ymweld â holl barciau Disney," meddai Tynan. "Fe welais i hysbyseb ar y campws am hyfforddiant golff ac roeddwn i eisiau rhoi cynnig arno.

"Doeddwn i heb gydio mewn ffon golff o'r blaen ond fe gefais i roi cynnig arni. Ar ôl taro ychydig o beli, fe wnaethon nhw ofyn oeddwn i wedi chwarae'r gêm o'r blaen ac na meddwn i

"Fe gefais i ychydig o hyfforddiant am y dyddiau nesaf a phan ddaeth i ben fe wnaethon nhw ddweud wrth fy rhieni i mai’r peth cyntaf ddylen nhw ei wneud ar ôl mynd adref oedd dod o hyd i glwb i mi ymuno ag e ac fe wnes i hynny ym Mhontypridd. Dyna ble dechreuodd y cyfan."

Mae Tynan wedi datblygu i fod yn un o olffwyr gorau Cymru ochr yn ochr â rhoi sylw i’w hastudiaethau yn yr ysgol.

Yn 13 oed, cafodd ei choroni’n bencampwraig golff iau Ewrop yn ei grŵp oedran mewn cystadleuaeth yn yr Alban a ddenodd 600 o gystadleuwyr o 50 o wledydd.

Eleni, mae hi eisoes wedi cystadlu mewn twrnameintiau, a llawer ohonyn nhw yn erbyn chwaraewyr hŷn, yn UDA, Portiwgal, yr Eidal, Ffrainc, Iwerddon, Sweden a’r Almaen.

Yn ôl adref, daeth yn drydydd ym Mhencampwriaethau Amatur Merched Cymru fis Mai ac enillodd deitl y Bencampwriaeth Sirol eto ar ôl mynd 8 o dan y safon yn y rownd derfynol.

Ac yn y Nizels GC yng Nghaint fis diwethaf, enillodd deitl Meistri Iau Syr Henry Cooper o bum ergyd. Anhygoel!

Y gystadleuaeth hon, sydd wedi’i henwi ar ôl un o gewri’r byd bocsio ym Mhrydain, a chefnogwr mawr i golff, yw un o brif gystadlaethau’r DU ar gyfer ieuenctid dan 18 oed. Gorffennodd dwy o olffwyr eraill Cymru y tu ôl i Tynan yn y pedwar uchaf, sef Harriet Lockley a Darcey Harry, gan ddangos cryfder a dyfnder y gamp yng Nghymru.

Mae cynnydd a photensial Tynan wedi sicrhau ysgoloriaeth iddi ym Mhrifysgol Arkansas a bydd yn dechrau yno yn 2020/21.

Mae cael ysgoloriaeth yn y rhaglen prifysgolion hynod gystadleuol yn UDA yn ddigon anodd, gyda golffwyr o bob cwr o’r byd yn ymgeisio. Mae sicrhau lle yn un o’r colegau gorau yn system NCAA yn anos fyth. Ond mae Tynan wedi gwneud hynny.

"Roeddwn i wedi bod yn edrych ar fy opsiynau am 18 mis ac fe wnes i anfon fy manylion at rai colegau," meddai Tynan, sy’n chwarae bellach o gwrs Minchinhampton yn Sir Gaerloyw a Champws Gwesty’r Vale.

"Y llynedd roeddwn i’n chwarae ym Miami ac fe welodd rywun o Leoliadau Coleg TAG fi yn UDA ac maen nhw wedi bod yn helpu.

""Ar drip arall i UDA, fe fues i’n gweld y Brifysgol yn Arkansas, sy’n rhaglen goleg wych. Fe wnes i syrthio mewn cariad gyda’r coleg, y campws, y dref a’r rhaglen.

"Rydw i wir yn edrych ymlaen at fod yn Razorback. Mae wedi bod yn anhygoel, mae cael cyfle i ennill ysgoloriaeth yn anhygoel. Rydw i wedi gweithio mor galed ar fy ngêm yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn gwella gwahanol agweddau, a gobeithio cael yr ysgoloriaeth ac ymrwymo’n gynnar.

"Mae’n bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau i a doedd dim rhaid i mi edrych ar golegau yn ystod TGAU eleni.

"Rydw i’n mynd i’r ysgol fel pawb arall ac wedyn yn chwarae golff a chodi ychydig o bwysau yn y gampfa efallai, cyn mynd yn ôl a gorffen fy ngwaith cartref.

"Mae’r ysgol yn gefnogol iawn a gan ’mod i’n chwarae i dîm Cymru mae’n dda iddyn nhw. Maen nhw wedi cefnogi o’r dechrau; pan oedd raid i mi fynd i ffwrdd i dwrnameintiau, maen nhw wedi gwneud yn siŵr ’mod i’n gallu cael fy ngwaith cartref i’w wneud.

"Mae cael ysgoloriaeth yn hynod gystadleuol. Mae amrywiaeth eang o golegau Adran 1, tua 250, ond mae Arkansas yn y 10 uchaf ar hyn o bryd. Fy nod i oedd cael rhywle rhwng y 50 uchaf a’r 10 uchaf.

"Mae fy rhieni i wedi cyffroi’n lân. Mae’n gyfle gwych ac maen nhw’n hapus iawn gyda’r dewis rydw i wedi’i wneud."

Nod Tynan yn y tymor hir yw ymuno â’r rhengoedd proffesiynol gan fod Arkansas wedi gweld nifer o’i golffwyr yn gwneud cynnydd i’r rhengoedd hŷn.

Ond cyn hynny byddai Tynan wrth ei bodd yn cystadlu gartref pan fydd Cymru’n croesawu Cwpan Curtis 2020, y tlws amatur i dimau merched, i Gonwy fis Mehefin nesaf.

"Byddai Cwpan Curtis yn brofiad gwych ac rydw i’n gobeithio 'mod i’n chwarae’n ddigon da i gael lle yn y tîm, yn enwedig gan ei fod yn fy ngwlad enedigol i," ychwanegodd.

"Maria Fassi oedd Chwaraewr y Flwyddyn NCAA y llynedd pan oedd hi yn Arkansas ac mae wedi mynd ymlaen i gael cerdyn LPGA.

"Dyna fy nod i yn y tymor hir, bod yn chwarae’r gêm yn broffesiynol."

A’r cyfan ar ôl gwrthod y cyfle i gyfarfod Mickey Mouse!