Skip to main content

Golwg ar rai o athletwyr Cymru sydd â’u llygaid ar Tokyo 2020

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Golwg ar rai o athletwyr Cymru sydd â’u llygaid ar Tokyo 2020

Dim ond blwyddyn sydd i fynd tan Gemau Olympaidd Tokyo ac i lawer o obeithion Cymru bydd y 12 mis nesaf yn allweddol yn eu hymgais i sicrhau eu lle yn sgwad Prydain Fawr.

Mae rhai - fel y seren Taekwondo, Jade Jones - yn gwybod beth sydd ei angen nid yn unig i gael mynd ar y trip, ond hefyd i goncro'r byd. Ddwywaith.

Mae eraill, er hynny, yn sylweddoli y bydd rhaid iddyn nhw gael blwyddyn orau eu bywydau, ac y bydd rhaid wrth waed, chwys a dagrau, a mymryn o lwc, os ydyn nhw am sicrhau eu sedd ar yr awyren.

Bedair blynedd yn ôl yn Rio de Janeiro, roedd Jones yn un o dair Cymraes a gipiodd yr aur a gallai'r tair fod yn ôl i ennill mwy yn Tokyo.

 

Daeth y feicwraig Elinor Barker, fel Jones, yn bencampwraig byd eleni ar y trac a bydd yn gobeithio efelychu ei medal yn y Gweithgaredd Tîm gyda sgwad beicio Prydain Fawr, ac mae Hannah Mills yn anelu am ei thrydedd medal yn y Dosbarth 470 yn hwylio a theitlau cefn wrth gefn.

"Does neb yn fy nghamp i wedi ennill tair medal aur Olympaidd erioed ac rydw i eisiau bod yn enwog am hynny," meddai Jones.

Nawr mae'n amser am yr ymdrech fawr gan athletwyr Cymru ym mhob camp Olympaidd. Roedd 23 (15 o ferched / 8 o ddynion) o Gymru yn aelodau o Team GB yn Rio ac mae'r holl arwyddion yn dweud y gallwn ni weld niferoedd tebyg yn teithio i Tokyo.

Roedd pedair medal aur a saith medal arian i'w dathlu gan athletwyr Cymru bedair blynedd yn ôl, ond mae Jones ar y brig yng nghanol criw eang o Gymry sydd â lefelau amrywiol o optimistiaeth am sicrhau eu lle y tro hwn.

Bydd rhai'n disgwyl bod yn Japan. Bydd eraill yn dweud gweddi dawel.

Saethyddiaeth

Nid oes unrhyw saethyddwyr o Gymru yn sgwad presennol Prydain sy'n paratoi ar gyfer Tokyo.

Athletau

Enillodd Bethan Davies fedal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn y daith rasio yn 2018 a gallai cerddwraig arall o Gymru, Heather Lewis, ymuno â hi yn Tokyo.

Gallai Sam Gordon, y Cymro byw cyflymaf, fod â siawns i fod yn aelod o dîm cyfnewid sbrint Prydain. Mae Jake Heyward yn mynd i orfod gwneud cryn dipyn i gymhwyso yn y 1500 metr ond mae gan Dewi Griffiths siawns dda yn y marathon.

Badminton

Jordan Hart yw rhif 1 Cymru ymhlith y merched ond mae'n safle 95 yn y byd. Kirsty Gilmour o'r Alban yw'r uchaf yn safleoedd Prydain (25) gyda Chloe Birch o Loegr nesaf (45). Roedd Gilmour a Birch yn nhîm Prydain yn y Gemau Ewropeaidd yn gynharach eleni.

Pêl Fas a Phêl Feddal

Nid ydym yn gwybod a fydd cynrychiolaeth Brydeinig yn y campau hyn.

Pêl Fasged

Mae tîm merched Prydain, sy'n cynnwys y darlithydd ym Met Caerdydd, Stef Collins, drwodd i Dwrnamaint Cymhwyso Olympaidd y Byd ar gyfer Tokyo 2020 fis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Pêl Foli Traeth

Mae Lloegr wedi cymhwyso i gynrychioli Prydain Fawr yn Tokyo yng nghystadleuaeth y dynion. Nid oes unrhyw dîm merched o'r gwledydd cartref wedi cymhwyso i gynrychioli Prydain Fawr.

Bocsio

Lauren Price yw gobaith mwyaf Cymru ar ôl ychwanegu mwy o fedalau at aur Gemau'r Gymanwlad a enillodd yn 2018.

Hefyd mae Rosie Eccles, enillydd medal arian ar yr Arfordir Aur, yn aelod o sgwad Prydain, ac mae Sammy Lee a Mickey McDonagh yn sgwad y dynion. Enillodd Lee fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad a chipiodd McDonagh yr efydd.

Canŵio / Caiacio

Mae Tom Abbott wedi bod ym mhencampwriaethau C1 y byd eisoes ac mae'r seren ryngwladol o Gymru sy'n byw yn Nannerch, Sir y Fflint, yn aelod o sgwad Prydain.

Mae Etienne Chappell o Gwmbrân yn cystadlu yn y senglau Caiacio ac mae wedi bod ym mhencampwriaethau iau y byd ac Ewrop. Mae hefyd yn aelod o sgwad Prydain.

Mae Megan Hamer-Evans, o Bontypridd, yn ei thrydedd flwyddyn ar y cynllun Potensial Podiwm gyda Chanŵio Prydain ac enillodd fedal arian yng nghystadleuaeth timau K1 ym Mhencampwriaethau D23 Ewrop.

Dringo

Mae Emily Phillips, o Gaerdydd, yn nhîm dringo Prydain ac yn gobeithio nodi ei chychwyn yn y gamp yn y Gemau Olympaidd drwy fynd i Tokyo.

Beicio (trac, ffordd, mynydd, BMX)

Cipiodd Elinor Barker ac Owain Doull yr aur yn Rio ac mae disgwyl i Barker ymgiprys am fwy o fedalau yn Tokyo. Mae'n bencampwr byd ar hyn o bryd yn y Ras Safonol ac enillodd aur y Gymanwlad yn y Ras Bwyntiau.

Roedd hi hefyd yn bencampwraig byd yn y Ras Bwyntiau yn 2017. Gallai ei chwaer, Megan, fod yn brwydro yn ei herbyn am le yn sgwad Gweithgaredd Tîm Prydain. Yn y gystadleuaeth honno yr enillodd ei theitl Olympaidd bedair blynedd yn ôl.

Gallai enillydd y Tour de France yn 2018, Geraint Thomas, a Luke Rowe, fod yn gystadleuwyr am sgwad ras ffordd Team GB, ynghyd â Doull, sydd nawr gyda thîm Ineos, a gallai Thomas roi cynnig ar y Treial Amser.

Deifio

Nid oes unrhyw ddeifwyr o Gymru yn sgwad hŷn Prydain ar hyn o bryd.

Marchogaeth (dressage, neidio a gornestau)

Mae Harry Meade yn gobeithio dilyn yn ôl troed llwyddiannus ei dad enwog, enillydd tair medal aur Olympaidd, Richard, drwy gyrraedd y Gemau Olympaidd yn y gystadleuaeth tridiau y flwyddyn nesaf.

Gyda'i geffyl, Away Cruising, mae ar y rhestr hir ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop eleni.

Ffensio

Nid oedd unrhyw ffenswyr o Gymru'n rhan o dîm Prydain ym Mhencampwriaethau diweddar y Byd yn Budapest.

Pêl Droed

Mater dadleuol, ond os oes sgwad o ferched yn cynrychioli Team GB, gallai rhai aelodau o'r sgwad fod o Gymru, gan gynnwys unigolion fel Jess Fishlock a Sophie Ingle. Nid oes unrhyw gytundeb ar hyn o bryd i dîm dynion gystadlu.

Golff

Mae golffiwr rhif 1 Cymru, Jamie Donaldson, a ddaeth i enwogrwydd yng Nghwpan Ryder, yn heini unwaith eto ond mae ganddo her o'i flaen i ddod yn agos at sgwad Prydain ar gyfer Tokyo.

Pêl Llaw

Ddim yn gryfder i Team GB. Annhebygol o gymhwyso ar gyfer Tokyo.

Hoci

Mae Sarah Jones yn rhan o hoci Merched Prydain erbyn hyn ac mae Rose Thomas (gôl-geidwad) ar y cyrion. Torrodd Dan Kyriakides i mewn i sgwad dynion Prydain ond nid yw'n rhan ohono ar hyn o bryd.

Jiwdo

Bydd Natalie Powell yn gobeithio mynd i'w hail Gemau Olympaidd yn olynol. Mae wedi cyrraedd uchelfannau Rhif 1 yn ei grŵp pwysau ers Rio ac, wrth gwrs, enillodd fedal aur Gemau'r Gymanwlad yn 2014.

Carate

Dim cystadleuwyr carate o Gymru'n ymgiprys am Tokyo ar hyn o bryd.

Pentathlon Modern

Dim perfformwyr o Gymru yn sgwad Prydain.

Rhwyfo

Mae rhwyfwyr Cymru wedi ennill medalau mawr yn y Gemau Olympaidd erioed ac mae'r rhwyfwyr yma o Gymru yng nghychod Prydain ar hyn o bryd - Alice Baatz, Tom Barras, Harry Brightmore, Rebecca Chin, Beccy Girling, Gemma Hall, Zak Lee-Green, Ellie Lewis, Rachel Morris, Graeme Thomas, Vicky Thornley, Oliver Wynne-Griffith, Ben Pritchard a Josh Bugajski.

Enillodd Thornley fedal arian yn Rio, ond nawr mae mewn cwch sengl. Dewiswyd Thomas yn 2016, ond wedyn cafodd ei anfon adref cyn i'r rasio ddechrau ar ôl dal feirws.

Rygbi'r Undeb Saith Bob Ochr

Aeth asgellwraig Cymru, Jaz Joyce, yn 2016 a bydd yn cael bod yn rhan o dîm Prydain eto os bydd yn datgan ei bod ar gael.

Cymhwysodd timau dynion a merched Lloegr ar gyfer Team GB yn ddiweddar drwy ennill cystadleuaeth gymhwyso Ewrop yn Ffrainc.

Hwylio

Bydd Hannah Mills eisiau ychwanegu at y medalau arian ac aur mae wedi'u hennill eisoes yn y Gemau Olympaidd yn y dosbarth 470. Mae'n bartner i Eiliadh McIntyre.

Roedd Chris Grube yn Olympiad yn Rio ac mae wedi mwynhau llwyddiant nodedig mewn partneriaeth â Luke Patience yn y dosbarth 470 drwy ennill Wythnos Olympaidd Enoshima, Pencampwriaethau 470 Gogledd America a rownd Miami yng Nghyfres Cwpan y Byd 2018.

Saethu

Elena Allen oedd yr unig saethwr o Gymru yn Rio a bydd yn gobeithio dychwelyd.

Ond rhowch eich pres ar Ben Llewellin yn y Saethu Colomennod Clai Olympaidd. Mae wedi ennill y fedal arian ddwywaith yn Rowndiau Terfynol Cwpan Saethu'r Byd. Hefyd enillodd Bencampwriaethau'r Gymanwlad yn 2017 a chipio'r arian yng Ngemau'r Gymanwlad flwyddyn yn ddiweddarach.

Nofio

Roedd Alys Thomas yn bumed yn y byd yn y 200m pili pala flwyddyn ar ôl cyrraedd brig safleoedd y byd gyda'i medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad. Dylai gyrraedd ei Gemau Olympaidd cyntaf.

Mae Georgia Davies yn gobeithio mynd i'r Gemau am y trydydd tro ac roedd yn rownd derfynol y dull cefn ym mhencampwriaethau'r byd yn ddiweddar, lle enillodd fedal efydd gyda thîm cyfnewid cymysg Prydain.

Hefyd aeth Callum Jarvis a Dan Jervis i Bencampwriaethau'r Byd ac roedd Chloe Tutton yn y Gemau Olympaidd diwethaf.

Syrffio

Camp newydd arall yn y Gemau Olympaidd. Enillodd Jay Quinn deitl D18 y Byd i Seland Newydd ond, y mis yma, yn Santa Cruz, Portiwgal, ef oedd y person cyntaf i ennill Pencampwriaethau Ewrop ddwywaith i Gymru.

Mae'n un o'r tri dyn yn sgwad Prydain sy'n gobeithio am gyfle i reidio'r tonnau ar draeth Shidashita y flwyddyn nesaf. Mae Gwen Spurlock, o Gymru, yn ddewisydd a hyfforddwr ar gyfer tîm Prydain.

Nofio Cydamserol

Dim ymgeiswyr o Gymru yma.

Tennis Bwrdd

Sicrhaodd Charlotte Carey ei lle yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Ewrop eleni ym Minsk ac, ar hyn o bryd, mae yn rhif 146 yn safleoedd y byd yn senglau'r merched.

Taekwondo

Yn anhygoel, mae gan Gymru ddau bencampwr byd sy'n gobeithio mynd am yr aur yn Tokyo.

Bydd Jade Jones yn ceisio creu hanes drwy ennill trydydd teitl yn olynol a bydd Lauren Williams yn gobeithio cystadlu am y tro cyntaf.

Tennis

Cryn dipyn o her i Rif 1 Cymru Evan Hoyt ddringo'r safleoedd i fod yn ddigon uchel i gymhwyso ar gyfer Tokyo - er ei fod wedi serennu yn Wimbledon yn ddiweddar.

Triathlon

Mae Non Stanford yn gobeithio gwneud iawn am y siom o orffen yn bedwerydd yn Rio drwy fod ymhlith y medalau yn Tokyo.

Enillodd y gyn bencampwraig byd gystadleuaeth fel rhan o gyfres y byd yr haf yma i brofi ei bod yn ôl ar ei gorau ar yr amser priodol.

Pêl Foli

Chwalodd timau Prydain ar ôl Gemau 2012 yn Llundain ac, i gyrraedd Tokyo, byddai'n rhaid iddynt drechu sêr Ewropeaidd ym mis Ionawr.

Polo Dŵr

Dim nofwyr o Gymru yn y sgwadiau polo dŵr ar hyn o bryd.

Codi Pwysau

Cymhwysodd Gareth Evans ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 ac enillodd yr aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2018. Mae dal yn codi pwysau cystal ag erioed.

Reslo

Kane Charig yw'r unig athletwr o Gymru yn sgwad reslo Prydain. Enillodd fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad 2018.

Penderfynir ar gymhwyso ar gyfer Tokyo yn y pencampwriaethau Ewropeaidd y flwyddyn nesaf, ond dim ond dau i bob categori pwysau fydd yno.

Stori gan @Dai_Sport_