O fentro fel plentyn dim ond er mwyn cadw'n ddiogel yn y dŵr, 20 mlynedd yn ddiweddarach mae hi'n anelu at greu argraff yn ei Gemau Olympaidd cyntaf.
Mae’r chwech gwych - Harriet, Alys Thomas, Dan Jervis, Kieran Bird, Matt Richards a Calum Jarvis - yn cynrychioli oes euraid yn y byd nofio yng Nghymru i raddau, gan eu bod yn ffurfio bron i 25 y cant o garfan nofio Team GB.
Mae Jones, a ymunodd â charfan Caerdydd yn 11 oed, yn cyfaddef bod yr hyn a oedd unwaith yn sgil bywyd wedi dod yn ffordd o fyw ac mae’n dweud ei bod yn well ganddi yn aml fod yn y dŵr nag ar dir.
“Rydw i’n hoffi’r teimlad o fod yn y dŵr ac yn meddwl amdanaf i fy hun fel babi dŵr,” meddai.
“Pan rydw i ar wyliau rydw i bob amser eisiau bod yn y môr neu mewn pwll. Mae'n well gen i fod yn y dŵr nag ar dir, mae mor braf.
“Mae fel bod mewn byd eich hun. Does dim rhaid i chi wrando ar unrhyw un arall, mae'n rhywbeth y gallwch chi ei fwynhau i gyd ar eich pen eich hun. ”
Roedd y darpar Olympiad yn cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon pan oedd hi'n iau ond nofio oedd yr un y setlodd arno.
“Fe wnes i gynnydd drwy'r holl sgwadiau ac mae gwaith caled a phenderfyniad wedi mynd â fi i lle rydw i nawr.
“Fe wnes i’r penderfyniad yn tua 15 oed i ganolbwyntio’n llwyr ar nofio gan mai dyna oeddwn i’n ei fwynhau fwyaf ac orau ynddo hefyd mae’n debyg.”
Talodd hynny ar ei ganfed y gwanwyn yma pan roddodd y nofwraig gyda chlwb Dinas Caerdydd berfformiad rhagorol yn nhreialon Olympaidd Prydain Fawr ac ennill y gystadleuaeth pili pala 100m mewn 57.79 eiliad i gymhwyso ar gyfer y Gemau.
Mae'r rhagrasys ar gyfer y digwyddiad yn dechrau yn Tokyo fore Sadwrn.
“Sioc oedd fy ymateb cyntaf i,” meddai am nofio i gymhwyso yn Llundain.
“Doeddwn i ddim yn gallu gweld y sgorfwrdd yn iawn, ond roedd pawb yn rhoi bawd i fyny arna’ i. Roeddwn i’n meddwl, ‘beth sy’n digwydd yma?’ Wedyn, pan gefais i gadarnhad, roedd jyst yn hapusrwydd pur.”
Mae Harriet yn dweud ei bod hefyd wedi cael ei hysbrydoli gan lawer o fodelau rôl - o Gymru a ledled y byd, a'i bod bellach eisiau bod yn Olympiad fel yr holl bobl mae’n eu haddoli.
“Rydw i eisiau’r enw ‘Harriet Jones, yr Olympiad’. Mae’n rhywbeth unwaith mewn oes i'w gyflawni. Dyna'r freuddwyd.
“Mae Michael Phelps wedi bod yn un o fy arwyr i erioed, mae e mor rhagorol bob amser, cadarn.
“Wedyn, fy modelau rôl i o Gymru oedd Jemma Lowe, gan ei bod hi’n nofiwr pili pala fel fi, ac yn amlwg pobl fel Jazz Carlin, David Davies ac Ieuan Lloyd. Fe gefais i fy ysbrydoli gan bob un ohonyn nhw. ”
Roedd Jones yn awyddus i bwysleisio'r effaith gadarnhaol y mae Nofio Cymru wedi'i chael ar ei gyrfa ac mae ganddi gyngor gwerth chweil i unrhyw berson ifanc sy'n gobeithio efelychu ei llwyddiant yn y pwll.
“Rydw i’n credu bod Nofio Cymru yn un o’r cyrff rheoli gorau yn y byd nofio,” meddai.
“Maen nhw bob amser yn ein rhoi ni'n gyntaf ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n hapus.
“Fy nghyngor mwyaf i i unrhyw nofiwr yw y dylech chi bob amser gael hwyl ar y daith. Cyn belled â'ch bod chi'n ei fwynhau, fe fyddwch chi bob amser yn gallu rhoi'ch gorau. "