Skip to main content

Hoci Cymru’n barod am ddigwyddiad hanesyddol

Mae hwn yn gyfnod cyffrous a phrysur iawn i hoci yng Nghymru wrth i'r gêm fynd ati i ddatblygu ar ac oddi ar y cae.

Yr wythnos ddiwethaf cwblhaodd merched Cymru eu hymgyrch EwroHoci yn Glasgow, gan warchod eu statws Pencampwriaeth II.

Yn y cyfamser, mae tîm cenedlaethol y dynion yn paratoi ar gyfer eu hymgyrch gyntaf ar y lefel uchaf mewn hoci Ewropeaidd ers 20 mlynedd.

Maent yn dechrau ar eu her yn erbyn Lloegr ar Awst 17 mewn grŵp lle byddant hefyd yn wynebu Sbaen a Phencampwyr presennol y Byd, Gwlad Belg, gartref ym Mhencampwriaethau EwroHoci Belfius yn Antwerp.

Dywedodd prif swyddog gweithredol Hoci Cymru, Ria Male: "Mae'n gyfnod cyffrous iawn. Mae cael y dynion yn gallu chwarae eto ym Mhencampwriaeth Un yn ddigwyddiad enfawr.

"Mae'r dynion yn edrych yn gryf iawn. Mae gwaith y prif hyfforddwr, yr hyfforddwr cynorthwyol a'r staff cefnogi'n ffenomenal. Maen nhw wir yn haeddu bod yn chwarae ym Mhencampwriaeth Un.

"Maen nhw'n gwneud yn dda iawn ac mae'n gyffrous iawn iddyn nhw. Rydw i'n meddwl mai 20 mlynedd yn ôl, yn 1999, oedd y tro diwethaf iddyn nhw chwarae ar y lefel yma.

"Roedd Zak Jones, ein prif hyfforddwr ni, yn chwarae yn y gystadleuaeth honno. Mae chwaraewyr yn y sgwad presennol yma oedd heb eu geni y tro diwethaf oedden ni ar y lefel yma."

Mae tîm Cymru - sydd yn y safle isaf ymhlith y detholion yn y gystadleuaeth - yn wynebu her enfawr yn erbyn timau fel Sbaen, Gwlad Belg a Lloegr, lle mae llawer o'r chwaraewyr yn broffesiynol ac yn chwarae'n llawn amser.

Dywedodd Male, a arferai fod yn gôl-geidwad rhyngwladol dros Gymru: "Fe fydd ganddyn nhw dactegau a dulliau ar gyfer taclo'r timau yma. Rydw i'n hyderus y byddan nhw'n gwneud cystal â phosib ac yn mynd i bob gêm yn ddeallus a chelfydd.

“Mae Lloegr yn eu grŵp nhw, tîm proffesiynol, canolog. Maen nhw i gyd yn ymarfer ac yn chwarae gyda’i gilydd, heb orfod poeni am weithio o angenrheidrwydd. Mae rhai’n gweithio ac yn astudio, ond mae’r amser cyswllt maen nhw’n ei gael yn fwy na’r amser cyswllt rydyn ni’n ei gael.”

Wynebodd tîm merched Cymru her debyg yn Glasgow y mis yma, gan wynebu timau sy’n gallu treulio llawer mwy o amser paratoi gyda’i gilydd.

Wrth gystadlu ym Mhencampwriaethau EwroHoci II, cafwyd perfformiadau da iawn gan Gymru, gan gynnwys buddugoliaeth o 7-3 yn erbyn yr Wcrain a threchu Twrci o 5-1, ond methwyd â chyrraedd y rowndiau cynderfynol o drwch y blewyn, gan orffen yn bumed.

Er ei bod yn siomedig nad oeddent wedi cyrraedd y pedwar olaf, dywedodd Male: "Mae’n amlwg ein bod ni’n gallu cystadlu yn erbyn rhai o’r timau gorau erbyn hyn. Rydyn ni wedi cael canlyniadau da yn erbyn timau fel Sbaen.

"Rydyn ni wedi gwneud hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydyn ni eisiau parhau â hynny. Fe ddown ni o hyd i ffyrdd a chyfrwng o wneud hynny. Fe fyddwn ni’n asesu’r rhaglenni, ac yn gwirio ac yn herio ein prosesau a sut rydyn ni’n edrych ar bethau’n gyfannol.

"Ac rydyn ni’n edrych ar feddwl yn fwy masnachol, ymwneud â phartneriaid lle gallwn ni a’u helpu, ac fe fydd cyfle iddyn nhw weithio gyda ni."

Yn y cyfamser, yn ogystal â’r timau ar lefel uwch, mae digon o dalent chwarae’n dod drwy’r rhaglenni datblygu gyda’r dynion a’r merched dan 21 wedi cael dyrchafiad o’u hadrannau perthnasol yr haf yma.

Dywedodd Male: “Mae’r rhaglen 21 i 23 yn rhywbeth rydyn ni wedi’i ailgyflwyno yn ddiweddar ac mae wedi gwneud byd o wahaniaeth a rhoi cyfle i rai o’r chwaraewyr hynny chwarae yn y grŵp oedran hwnnw, datblygu rhinweddau arwain, a dod yn fodelau rôl i’r chwaraewyr iau.

"Mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae’r merched wedi cael eu dyrchafu i Bencampwriaeth Un - adran A yr Ewros ieuenctid – ac mae ein dynion ni’n ôl yn adran B, felly mae hynny’n addawol iawn.

“Mae talent arbennig yn dod drwodd sy’n rhoi hyder i ni ar gyfer y dyfodol."

Gyda Gemau Olympaidd Tokyo yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf, mae Male yn gobeithio y bydd cynrychiolaeth o Gymru yn nhimau Prydain Fawr.

"Mae perthynas gadarn iawn gyda Phrydain Fawr. Mae Sarah Jones wedi cael sylw mawr yn ddiweddar wrth gwrs ac mae rhai o’r chwaraewyr iau yn y rhaglen ddatblygu gyda Phrydain Fawr, sy’n llwybr gwych o’r gwledydd cartref. Rydyn ni wedi gweld elfennau positif iawn yn dod allan o hynny."

Ac o edrych ymhellach ymlaen, mae Male yn hyderus am obeithion Cymru yng Ngemau Cymanwlad 2022 yn Birmingham.

"Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni gystadlu yn erbyn rhai o’r timau hynny sy’n uwch na ni yn y safleoedd ac rydyn ni eisiau mynd allan a’u trechu nhw. Nid dim ond gwneud yn dda yn eu herbyn nhw yw’r nod.

"Rydw i’n meddwl y bydd uchelgais i wneud yn llawer gwell yn Birmingham nag ydyn ni wedi’i wneud yn y gorffennol."

Ar wahân i’r timau cenedlaethol, mae llawer o amser ac ymdrech yn cael eu buddsoddi yn y gêm ar lawr gwlad.

"Mae’r timau perfformio’n gwneud yn dda iawn," meddai Male. "Y cyfan sydd ei angen nawr yw gweld twf yn y clybiau.

"Rydyn ni eisiau buddsoddi amser mewn sut gallwn ni annog mwy o bobl i ddal ati i chwarae hoci, cymryd rhan ac ymuno â chlwb, oherwydd dyna ble mae pawb yn dechrau chwarae hoci, ar lefel clwb.

"Mae’n rhaid i ni feddwl am sut mae cael mwy o bobl i chwarae – merched a dynion, genethod a bechgyn. Mae’n rhaid eu cael nhw i wirioni ar chwaraeon.

"Mae gennym ni nifer o fentrau i gael pobl i gymryd rhan. Chwarae hoci haf, timau saith dros yr haf ac rydyn ni’n cynnal rhaglen o’r enw Hooked on Hockey, lle rydyn ni’n cefnogi ysgolion cynradd i wneud hoci’n gynaliadwy mewn ysgolion.

"Yn lle mynd i mewn a chynnal menter am chwe wythnos ac wedyn gadael, rydyn ni’n cefnogi ysgolion i’w chyflwyno eu hunain er mwyn cael plant i wirioni ar hoci ar lefel yr ysgol gynradd, ac wedyn o 10, 11, 12, 13 oed fe fyddan nhw’n chwarae hoci clwb.

"Felly dyna’r cynllun ar gyfer y tymor canolig ar hyn o bryd. Rhoi cyfle i blant brofi hoci yn yr oedran hwnnw."