Pan wnaethant ailddechrau eto ym mis Tachwedd, fel pob hyfforddwr arall yn y byd pêl droed, hoci, rygbi a chwaraeon eraill oedd yn cael hyfforddi eto, ac wedi cael awdurdod i gynnal gemau cyfeillgar, roedd y byd wedi newid i Zoe.
Roedd rheolau newydd llym ynghylch hylendid a chadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â swyddogaethau newydd i hyfforddwyr o ran gwarchod iechyd emosiynol, yn ogystal ag iechyd corfforol, eu chwaraewyr.
"Roedd arnom ni angen arweinydd tîm Covid ar gyfer y garfan yn ein sesiynau hyfforddi ac rydw i wedi ymgymryd â'r rôl honno," meddai Zoe.
"Rydw i'n cymryd eu tymheredd nhw ac yn hoffi siarad â'r chwaraewyr wrth iddyn nhw gyrraedd, gweld sut maen nhw, oherwydd dydych chi byth yn gwybod beth sy'n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig.
"Dydw i ddim eisiau bod yn dweud drefn wrth chwaraewr am fod yn ddiog os yw hi wedi blino'n lân.
"Mae'r rhan fwyaf, os nad pob un ohonyn nhw, jyst eisiau mynd allan ar y cae ac maen nhw'n cael anhawster, yn enwedig y rhai sydd ddim yn yr ysgol neu ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Roedd pêl droed yn rhywbeth roedden nhw'n dibynnu arno."
Yn ogystal â sesiynau theori ar-lein a chwisiau Zoom gyda'r garfan, roedd Zoe hefyd yn awyddus i siarad gyda'i chwaraewyr am eu gobeithion a'u huchelgeisiau pêl droed.
"Rydw i'n cael cyfarfodydd un i un gyda'r holl ferched i siarad am eu nodau a'u dyheadau.
"Mae gen i ddwy ferch sydd eisiau troi’n broffesiynol – rydw i eisoes wedi dechrau trefnu treialon iddyn nhw achos dydyn ni ddim ar lefel eto lle mae posib iddyn nhw gael eu gweld, ond mae gennym ni hefyd eraill sydd jyst eisiau sbort."