Skip to main content

IEUENCTID Y LLEW COCH YN RHUO

Ymhlith y clybiau pêl droed niferus sy'n dyheu am fynd yn ôl allan ar y cae unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny mae Clwb Pêl Droed Cymunedol Llew Coch Heolygerrig ym Merthyr Tudful. 

A diolch i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, mae'r clwb yn barod i dalu'r costau ychwanegol sydd wedi codi o ganlyniad i Covid-19, a hyd yn oed ehangu’r cyfleoedd i fwy o blant syrthio mewn cariad â'r gêm. 

Cyn Covid, byddai sesiynau hyfforddi rheolaidd y clwb yn cynnwys pum grŵp oedran ar un cae. Ond mae'r angen am gadw pellter cymdeithasol wedi golygu cynnydd enfawr yn ffioedd y caeau, felly mae cymorth ariannol o Gronfa Cymru Actif wedi cael ei groesawu'n fawr. 

 

Costau llogi lleoliadau yw’r gyfran fwyaf o'r grant o £2,473 a ddyfarnwyd i'r clwb, ac mae’r arian hefyd yn helpu tuag at gyrsiau hyfforddi, bibiau hyfforddi, diheintydd dwylo, thermometrau a physt gôl.

Dywedodd yr hyfforddwr Adrian Jones: "Fel clwb, doedden ni ddim eisiau trosglwyddo’r costau ychwanegol ar gyfer pethau fel hyfforddiant a PPE sydd wedi' codi o ganlyniad i bandemig Covid i’r rhieni. Rydyn ni’n ymwybodol bod llawer o'n rhieni ni’n cael anhawster gan ein bod ni mewn ardal gyda diweithdra mawr neu gyflogau isel ac mae Covid wedi cael effaith ddifrifol ar eu sefyllfa ariannol."

 

Drwy sefydlu timau newydd ar gyfer plant Dan 6 oed a Dan 7 oed, mae'r clwb yn dod yn fwyfwy cynaliadwy gan hefyd gynnig cyfleoedd rhatach fyth i blant fod yn actif yn gorfforol:

Ychwanegodd Adrian: "Bydd pob plentyn yn cael pêl a gall fynd â hi adref a dod â hi'n ôl i’r sesiynau hyfforddi. Mae hyn yn sicrhau eu diogelwch a hefyd yn golygu y gallant ddal ati i fod yn actif gartref. Bydd gan bob grŵp oedran ei set ei hun o goliau i osgoi rhannu a heintio.

"Mae cyfleoedd i fod yn actif yn bwysig iawn – nid dim ond yr ymarfer corff sy’n allweddol, ond hefyd lles meddyliol a'r cyfle i gymysgu â'ch ffrindiau mewn lle diogel."

 

Mae’r wybodaeth a gafwyd o gyfyngiadau symud gwanwyn 2020 yn awgrymu bod ieuenctid sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ymhlith y grwpiau sy'n debygol o gael eu taro galetaf gan gyfyngiadau presennol y coronafeirws. O ganlyniad, mae Chwaraeon Cymru yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau i Gronfa Cymru Actif gan glybiau a sefydliadau sydd angen cyllid i sicrhau eu bod yn parhau i weithredu y tu hwnt i'r pandemig, yn ogystal â'r rhai sydd â syniadau ar gyfer cael mwy o blant i fod yn actif.