Grantiau
Mae tri math o grant ar gael, a phob un yn rhoi sylw i’r gwahanol heriau mae clybiau a sefydliadau yn eu hwynebu.
Os ydych chi’n gwneud cais i’r gronfa, mae’n bwysig eich bod yn dewis y grant cywir ac yn gwneud eich cais yn berthnasol i’r grant hwnnw.
1. DIOGELU
I helpu i ddiogelu clybiau a sefydliadau cymunedol neu grwpiau sy’n wynebu risg ariannol ar unwaith o ganlyniad i bandemig Covid-19.
Nod y grant yw helpu sefydliadau sy’n methu cyflawni eu rhwymedigaethau ariannol oherwydd Covid-19. Er enghraifft, i dalu costau sefydlog (e.e. rhent a chyfleustodau) nad ydynt yn cael eu talu gan refeniw mwyach.
Bydd grantiau o £300 i £5,000 ar gael ar gyfer cefnogaeth argyfwng.
2. CYNNYDD
I helpu gyda chynnydd chwaraeon a gweithgarwch i'r cam nesaf a chefnogi cynaliadwyedd tymor hir.
Nod y grant yma yw helpu clybiau a sefydliadau cymunedol gyda’r canlynol:
- Trechu anghydraddoldeb
- Creu atebion tymor hir i fod yn fwy cynaliadwy
- Gweithredu’n arloesol
Mae grantiau o £300 i £50,000* ar gael.
*Bydd rhaid i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau mwy na 10k neu 20% os ydynt yn fwy na £25k.