Bellach mae Jones yn brif hyfforddwr tîm bocsio cenedlaethol Cymru ac mae wedi gweithio gyda Price yn rheolaidd drwy gydol ei gyrfa.
Mae wrth ei fodd, ond nid yw’n synnu, ei bod hi wedi gallu gwireddu ei breuddwyd Olympaidd.
“Mae hi wedi bod yn llwyddiannus iawn, mae pawb yn Chwaraeon Cymru yn wirioneddol falch ohoni ac rydw i’n credu bod y wlad gyfan wrth ei bodd ei bod hi wedi ennill y fedal aur,” meddai Jones.
“Mae hi wedi mynd yr ail filltir, mae hi’n rhywun sydd bob amser wedi gwneud hynny ac fe fydd hi bob amser yn gwneud hynny.
“Dyna sut mae hi wedi cyrraedd lle mae hi heddiw.”
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn y cyfnod cyn y Gemau Olympaidd, bu’n rhaid i Price dreulio llawer o amser yn Sheffield, lle mae bocsio Team GB wedi’i leoli.
O ystyried y pellter o gartref Price yn Ystrad Mynach a’r anawsterau mae’r pandemig wedi’u cyflwyno, mae ei hymroddiad i’r gamp wedi creu argraff fawr ar Jones ac mae’n dweud nad oes angen i unrhyw berson ifanc sy’n ystyried cymryd rhan yn y gamp edrych ymhellach na Price am ysbrydoliaeth.
“Fe wnaeth hi aros i fyny yn Sheffield yn ystod y cyfnod clo, rydw i’n credu bod hynny’n dweud y cyfan am ei hymrwymiad,” meddai Jones.
“Mae Lauren yn ddelfrydol i fod yn fodel rôl i unrhyw focsiwr ifanc sy’n ystyried cymryd rhan yn y gamp, neu, mewn gwirionedd, unrhyw gamp arall.
“Mae hi wedi gwneud cymaint mewn chwaraeon eraill hefyd, ond mae hi wir wedi rhagori mewn bocsio ac mae hynny i gyd yn ganlyniad i'w gwaith caled.
“Mae hi bob amser â meddwl agored ac yn barod i wrando. Does dim angen i unrhyw un sydd eisiau dechrau bocsio, yn enwedig ar yr ochr fenywaidd, edrych ymhellach.”
Efallai ei bod yn athletwraig amldalentog – gan ffynnu mewn amryw o chwaraeon cyn dewis bocsio - ond roedd Price bob amser yn barod i dderbyn cyngor a gwrando ar eraill, meddai ei hyfforddwr cenedlaethol.
“Mae hi’n ymladdwr deallus. Fe allwch chi edrych ar ei holl berfformiadau yn y Gemau Olympaidd a gweld pa mor fedrus oedd hi o ran cadw ei siâp.
“Un o’r pethau gorau mae hi’n ei wneud yw bocsio i gyfarwyddiadau’r hyfforddwr. Mae hynny mor bwysig.
“A bod yn onest, roeddwn i’n meddwl ei bod hi wedi ennill y rhan fwyaf o’i gornestau’n gyfforddus.”
Dyfarnwyd MBE i Jones yn 2020 am ei wasanaethau i focsio yng Nghymru ac yn ogystal â’i yrfa amatur fe focsiodd yn broffesiynol hefyd gan ennill teitlau Prydeinig, Cymanwlad ac Ewropeaidd.
Fe wnaeth llawer o gefnogwyr a sylwebyddion y gamp ddweud y byddai Price yn troi’n broffesiynol ar ôl ei llwyddiant yn y Gemau ond ar hyn o bryd mae’n bwriadu aros fel amatur ac mae ei golygon ar Gemau’r Gymanwlad Birmingham y flwyddyn nesaf yn ogystal â Gemau Olympaidd Paris ymhen tair blynedd.
“Rydw i’n credu ei bod hi’n haeddu seibiant braf nawr ac wedyn mae Gemau’r Gymanwlad gennym ni ymhen ychydig llai na blwyddyn, meddai Jones.
“Fe fyddai’n dda iddi gael ychydig o gyfnodau o baratoi cyn hynny hefyd.
“Ar ôl Gemau’r Gymanwlad, dim ond dwy flynedd fydd tan y Gemau Olympaidd nesaf ac felly bydd llygaid pawb ar hynny.”
Mae Jones wedi cael gyrfa faith yn hyfforddi yn y gamp ac yn ogystal â Price mae wedi gweithio gyda sêr eraill o Gymru, fel Andrew Selby, Fred Evans a Joe Cordina.
“Mae'n wych gweithio gyda chymaint o enwogion, mae'n bleser pur.
“Rydw i wedi ymrwymo i focsio ar hyd fy oes ac rydw i’n dal i deimlo felly.
“Wrth edrych ar yr holl focswyr rydw i wedi gweithio â nhw, mae wir yn fy mhlesio i.
“Ond mae Lauren i fyny ar y brig gyda phob un ohonyn nhw.”