Skip to main content
  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mae Jenkins yn benderfynol o ddychwelyd yn well nag erioed

Mae Jenkins yn benderfynol o ddychwelyd yn well nag erioed

Mae dod yn ôl wedi llawdriniaeth ddifrifol ar asgwrn y cefn a cheisio adennill eich lle yng nghanol athletwyr elitaidd y byd chwaraeon yn her enfawr.

Mae gwneud hynny yn syth ar ôl dod yn fam am yr eildro, a chyfuno ymarfer gyda gofynion edrych ar ôl dau o blant iau na dyflwydd oed, yn gwneud y dasg yn fwy heriol fyth.

Ond dyna'n union beth mae Helen Jenkins, triathletwraig fwyaf llwyddiannus Cymru, yn ceisio ei wneud wrth iddi geisio adennill ei lle yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf yn Tokyo.

Fis Mai, rhoddodd y Bencampwraig Byd ddwy waith, enedigaeth i fab, Max, brawd bach i'w merch 21 mis oed, Mali, gyda'i gŵr, ei hyfforddwr a chyd driathletwr rhyngwladol, Marc.

Dewisodd y cwpl o Ben-y-bont ar Ogwr ychwanegu at eu teulu ar ôl i Jenkins gael llawdriniaeth i uno asgwrn y cefn, llawdriniaeth debyg i'r un a gafodd y golffiwr Tiger Woods cyn iddo ddychwelyd i ennill ei 15fed major yn y Meistri yn Augusta ym mis Ebrill.

"Fe ddois i'n ôl ar ôl cael fy mhlentyn cyntaf, wedyn roeddwn i angen llawdriniaeth sydd wedi cymryd mwy o amser nag oedden ni'n ei feddwl i wella ohoni," meddai Jenkins, a enillodd deitl byd yr ITU yn 2008 ac eto dair blynedd yn ddiweddarach.

"Roedden ni'n meddwl ei fod yn amser delfrydol i gael babi arall os oedden ni am wneud hynny.

"Roedd fy nghefn i'n teimlo'n dda iawn drwy'r beichiogrwydd cyfan felly fe fydd yn gyffrous iawn os bydda' i'n llwyddo i ddod yn ôl i lefel lawn o hyfforddiant a 'fydd dim rhaid i mi ymdopi cymaint â phethau ag yr ydw i wedi gorfod ei wneud yn y gorffennol.

"Rydw i wir eisiau cyfuno hyfforddi a bod yn rhiant. Gyda fy merch, fe es i mas i ymarfer yn eithaf cyflym ar ôl rhoi genedigaeth iddi.

"Er nad ydw i'n teimlo 'mod i wedi colli unrhyw beth, oherwydd fe wnes i dreulio llawer o amser gyda Mali, mae'n anodd mynd mas drwy'r drwsl. Rydych chi'n teimlo'n euog ac rydych chi'n meddwl y byddai'n well gennych chi fod yn y tŷ.

"Dyna pam fy mod i wedi rhoi ffenestr o chwe mis i mi fy hun yn fy mhen eleni. Rydw i'n mynd i fod yn fam yn gyntaf, ac wedyn fe welwn ni sut mae fy ffitrwydd i a sut rydw i'n ymdopi gyda phopeth.

"Mae'r wythnosau cyntaf wedi bod yn ddiddorol gyda chael plentyn arall i ymdopi ag o. Mae'n mynd i fynd yn haws wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, ond rydyn ni'n eithriadol ffodus gan fod y ddau set o rieni'n byw yn agos ac yn gefnogol iawn.

"Os ydw i am fynd allan i hyfforddi, fe fyddwn ni angen y rhwydwaith hwnnw o gefnogaeth."

Mae Jenkins wedi bod yn un o driathletwyr gorau Prydain ers blynyddoedd lawer. Fel pencampwraig byd, roedd hi'n un o'r ffefrynnau ar gyfer Llundain 2012, ond cafodd anaf yn ystod y cyfnod paratoi effaith arni yn y cymal olaf, y rhedeg, a gorffennodd yn bumed.

Nawr mae'n gobeithio y bydd ei dau o blant yn cael cyfle i'w gweld yn brwydro am fedalau mawr eto.

"Mae'n gymhelliant mawr, rhoi cyfle i'r plant fy ngweld i'n cystadlu, oherwydd s'mo nhw wedi gweld hynny. Fe wnes i bopeth cyn eu cael nhw," ychwanegodd.

"Does dim llawer o stwff o fy ngyrfa i yn y tŷ. Ond roedden ni'n gwylio un o rasys cyfres y byd y dydd o'r blaen ac roedd Mali wrth ei bodd. Fe wnes i ddweud 'Roedd Mam yn arfer gwneud hyn', ond 'sa i'n credu ei bod hi'n deall. Mae hi dal yn ifanc iawn."

Nid yw dychwelyd yn llwyddiannus i gystadlu ar lefel elitaidd yn amhosib ar ôl rhoi genedigaeth. Mae'r bencampwraig beicio Olympaidd bedair gwaith, Laura Kenny, wedi ennill dau deitl Ewropeaidd ar ôl dod yn fam ac adenillodd yr heptathletwraig Jessica Ennis-Hill deitl y byd ar ôl rhoi genedigaeth hefyd.

A hyd yn oed yn ei champ ei hun mae esiampl berffaith a allai arwain at frwydr y Mamau Medrus yn Japan y flwyddyn nesaf, gyda Nicola Spirig o'r Swistir.

"Enillodd Nicola y Gemau Olympaidd yn Llundain ac wedyn cafodd fabi cyn ennill yr arian yn Rio," ychwanegodd Jenkins. "Felly rydych chi'n gwybod ei fod yn bosib.

"Mae Nicola yn ffrind felly rydyn ni'n cadw mewn cysylltiad ac rydw i wedi sgwrsio gyda hi am sut mae hi wedi ymdopi gyda'r cyfan. Mae hi'n mynd am Tokyo ar ôl cael ei thrydydd plentyn.

 

"Dyw bod yn fam ac yn athletwraig elitaidd ddim yn beth newydd. Mae cymaint o fodelau rôl da o ferched yn dod yn ôl ar ôl cael babi."

"Dyw bod yn fam ac yn athletwraig elitaidd ddim yn beth newydd. Mae cymaint o fodelau rôl da o ferched yn dod yn ôl ar ôl cael babi."

Mae'r fenyw 35 oed wedi cael problemau gyda'i chefn erioed, ond mae'n gobeithio y bydd y llawdriniaeth yn llwyddiannus.

Mae Jenkins yn targedu Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref ar gyfer dod yn ôl, nid i gystadlu o ddifrif, ond i weld sut mae ei chorff yn ymdopi ar ôl y llawdriniaeth. Ac mae'n gyfle prin iddi gymryd rhan mewn cystadleuaeth mewn dinas fawr.

Wedyn bydd yn targedu lle yn Tokyo lle bydd y gystadleuaeth yn heriol gyda thriathlon Prydain Fawr, gyda charfannau'r dynion a'r merched yn gryf iawn. Hefyd mae Gemau Cymanwlad 2022 yn Birmingham ar y gorwel.

"'Sa i wedi cystadlu ers 2016 ac mae wedi bod yn anodd. Rydw i wrth fy modd yn gwylio'r rasys pan maen nhw ymlaen, ond rydw i'n ei golli fe.

"Mae'r broblem gyda'r cefn yn un enetig ac rydw i wedi llwyddo i ymdopi â hi drwy gydol y rhan fwyaf o fy ngyrfa.

"Gyda'r nofio oedd y broblem oeddwn i'n ei chael. Fel arfer, pan rydych chi'n cael anaf, nofio yw'r peth hawsaf i fod yn ei wneud, ond rydych chi'n ymestyn llawer drwy'r cefn wrth nofio a 'sa i'n gallu gwneud hynny nawr gan fod gen i sgriwiau a phlatiau yn fy nghefn i gadw pethau lle maen nhw i fod.

"Maen nhw'n mynd i aros yno nawr oni bai fydd rhaid iddyn nhw ddod mas. Mae'r esgyrn yn uno o'u cwmpas nhw. Mae'n teimlo'n dda.

"Doeddwn i ddim yn sylweddoli o'r blaen faint o boen oedd gen i. Dim ond un ffordd oedd posib i mi ddod mas o'r gwely ac os oedd raid i mi eistedd yn y car am gyfnod penodol o amser, roedd popeth yn brifo. Ond nawr 'sa i'n cael dim o hynny.

"Mae'n braf gwneud rhai pethau a meddwl, 'O, s'mo fe'n brifo'. O ran y dyfodol, bydd llawer yn dibynnu ar allu cyrraedd lefel ddigon da o nofio unwaith eto, ac rydw i'n credu y galla' i."

Yn goruchwylio ei hyfforddiant bydd ei hyfforddwr, Marc, sydd wedi cystadlu dros Brydain hefyd yng Ngemau Olympaidd 2004, yn ogystal â gwneud ei ran fel rhiant.

Meddai Marc: "Wrth i Max dyfu, bydd mwy o ffocws arna' i'n edrych ar ei ôl e a Helen yn gallu hyfforddi a chanolbwyntio ar beth mae hi'n ei wneud, heb orfod poeni am ofalu am y plant yn y nos.

"Fe all fynd un o ddwy ffordd nawr. 'Fydd hi ddim yn gallu cystadlu i safon uchel eto neu fe fydd hi'n well nag erioed o'r blaen.

"Os mai ei chefn yw'r ffactor sydd wedi bod yn cyfyngu arni drwy gydol ei gyrfa, ac rydyn ni'n gwybod mai dyna sydd, rydyn ni'n gobeithio bod y llawdriniaeth yma wedi gwella hynny. Gewn ni weld. Fe rown ni gynnig arni.

"Mae'n debyg i hanes Tiger. Fe gafodd e lawer o lawdriniaethau ar ei gefn ac er nad ydw i'n gwybod beth yn union gafodd e, roedd yn debyg iawn.

"Efallai nad yw'n rhoi'r baich yn uniongyrchol drwy'r asgwrn cefn fel mae Helen yn ei wneud wrth redeg, ond yn sicr mae'n tynnu mwy o rym cylchdro na fydd Helen.

"Ac mae ei gefn e wedi dal yn dda iawn, on'd yw e?"