Skip to main content

"MAE'N ACHUBIAETH" MEDDAI CLWB CYMUNEDOL

Mae clwb pêl droed sydd wedi bod yn gwneud ei ran dros ei gymuned leol drwy gydol argyfwng Covid-19 wedi cael "achubiaeth" gan Chwaraeon Cymru.

Mae CPD Aberffraw ar Ynys Môn yn glwb gwirioneddol gymunedol. Yn gynharach eleni, dosbarthodd focsys bwyd i weithwyr allweddol a chododd arian i elusennau lleol. Ac mae bellach wedi derbyn grant o bron i £2500 fel ei fod yn gallu parhau i fod yn galon ac enaid y pentref.

Dewi Hughes yw Cadeirydd y clwb. Meddai: "Fe gawsom ni gefnogaeth gan Chwaraeon Cymru i gadw’n pen uwch ben y dŵr yng nghamau cychwynnol y pandemig ac mae'r cyllid diweddaraf bellach yn ein galluogi ni i baratoi ar gyfer dyfodol disglair. Rydyn ni eisiau dweud diolch yn fawr iawn wrth Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma – mae'r cyllid yn achubiaeth i glybiau lleol fel ein un ni."

Yn ddiweddar, mae'r clwb wedi arwyddo prydles tymor hir ar ei gae gyda'r cyngor cymuned. Mae'r cyngor wedi cytuno i ostwng y rhent os bydd y clwb yn torri'r glaswellt.

Yn hytrach na thalu am dorri’r glaswellt, a fyddai'n costio hyd at £600 y flwyddyn, mae gwirfoddolwyr y clwb yn barod i dorchi eu llewys. A bydd y grant gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yn cael ei fuddsoddi mewn tractor bach i dorri’r glaswellt.

Fel hwb pellach i bêl droed yn lleol, bydd y safle’n cael ei rannu gyda Chlwb Pêl Droed Ieuenctid Bodorgan, clwb a fyddai wedi gorfod cau fel arall gan nad yw ei gartref presennol yn addas i'r pwrpas mwyach. 

"Yn ystod y cyfyngiadau symud, rydyn ni wedi ceisio cefnogi ein cymuned gan ein bod ni wedi cael cefnogaeth dda bob amser gan bawb yma. Rydyn ni wedi gwneud ein gorau i gynnal ysbryd pawb.

"Ond ’allwn ni ddim aros i fynd yn ôl i chwarae," ychwanegodd Dewi. "Does dim amheuaeth bod methu hyfforddi a chwarae wedi cael effaith ar iechyd meddyliol a chorfforol ein chwaraewyr ni. Mae llawer o'n gwirfoddolwyr ni’n hŷn ac mae cryn dipyn wedi gorfod gwarchod eu hunain, sydd wedi bod yn brofiad eithaf negyddol. Mae'n wych eu gweld nhw rŵan yn dechrau cael y brechlyn, sy'n golygu eu bod nhw gam yn nes at allu ein gwylio ni'n chwarae eto. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weld y gymuned yn gallu dod at ei gilydd eto."

Mae bron i 900 o glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru wedi rhannu mwy na £2.5m drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru ers dechrau'r pandemig. Mae'r Gronfa’n darparu grantiau sydd rhwng £300 a £50,000 i gefnogi clybiau a sefydliadau chwaraeon fel eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd gwell fyth i'r genedl fod yn actif y tu hwnt i argyfwng Covid-19. Mae cyllid ar gael o hyd gan Chwaraeon Cymru diolch i Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol.