Does dim rhaid i UNRHYW redwr am hwyl sydd eisiau ysbrydoliaeth chwilio ymhellach nag Anna Bracegirdle.
Bydd y rhedwraig o Ynys Môn yn amddiffyn ei theitl y mis yma ym Marathon Eryri (Hydref 26) ond mae'n mynnu na fydd yn gwneud dim byd mwy na chael amser da.
Mae Bracegirdle yn dweud nad ydi hi'n gystadleuol. Does ganddi ddim hyfforddwr a dydi hi ddim yn aelod o glwb athletau. Pan mae'r radiograffydd llawn amser 26 oed yn Lerpwl yn "mynd allan i redeg", nid yw'n galw hynny'n ymarfer. Mae'n gwneud beth bynnag mae hi'n deimlo fel ei wneud, yn hytrach na chadw at unrhyw drefn ymarfer gaeth.
Ond, yn anhygoel, dydi hynny ddim yn ei stopio hi rhag bod yn rhedwraig marathon elitaidd - gyda gorau personol ymhell o dan dair awr. Sicrhaodd fuddugoliaeth nodedig y llynedd yn un o farathonau mwyaf heriol y DU.
Ar ôl sgwrsio gyda'r rhedwyr eraill bob cam rownd bron, gwibiodd Bracegirdle ar hyd y ddwy filltir olaf i ennill ras y merched, gan ddilyn Russell Bentley a oedd wedi cipio teitl y dynion.
Roedd fel ffantasi i redwr hwyl - cymryd rhan mewn ras elitaidd a chroesi'r llinell yn gyntaf - ac mae'n cyfaddef: "Rydw i'n hamddenol braf fel rhedwraig.
"Dydw i ddim yn dilyn unrhyw gynllun na dim byd. Rydw i'n ymarfer ar ben fy hun ac yn rhedeg pan dwi'n teimlo fel gwneud."