Skip to main content

Mae Clwb Tennis Bwrdd Cymunedol Dinas Caerdydd, a gafodd ei daro'n galed gan y cyfyngiadau symud, yn ôl yn ymladd i oroesi erbyn hyn

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mae Clwb Tennis Bwrdd Cymunedol Dinas Caerdydd, a gafodd ei daro'n galed gan y cyfyngiadau symud, yn ôl yn ymladd i oroesi erbyn hyn

Mae'r clwb a helpodd i lansio gyrfa Anna Hursey i fod yn seren yn herio storm pandemig y coronafeirws erbyn hyn – diolch i hwb ariannol o Gronfa Cymru Actif.

Cafodd Clwb Tennis Bwrdd Cymunedol Dinas Caerdydd ei daro'n galed gan y cyfyngiadau symud ond, fel fflach o ergyd feistrolgar gan Hursey, mae wedi dod yn ôl i ymladd.

Yn 14 oed erbyn hyn, hawliodd Hursey, merch ysgol o Gaerdydd, y penawdau ledled y byd fel y cystadleuydd ieuengaf yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn Awstralia yn ddim ond 11 oed.

Roedd ei sgiliau nodedig wedi cael eu mireinio gan yr hyfforddwr Nathan Thomas yn y clwb yn y brifddinas, ond mae'r cyfleuster ar Heol Casnewydd yn llawer mwy na dim ond llinell gynhyrchu ar gyfer talent elitaidd.

Mae Thomas – a fu hefyd yn hyfforddi pencampwr Paralympaidd 2016 Cymru Rob Davies a’r chwaraewr Paralympaidd hollbresennol dros Brydain Fawr, Paul Karabardak - yn chwarae rhan yn agwedd gymunedol y clwb sy'n darparu ar gyfer aelodau o bedair oed i'r hynaf sy’n 87 oed, ac mae wedi sefydlu cysylltiadau â grwpiau anabledd. 

Ond nid oedd y 160 o aelodau rheolaidd yn gallu ymweld â'u cyfleuster ar Heol Casnewydd yn ystod y cyfyngiadau symud, oedd yn golygu bod yr incwm yn dod i ben yn gyflym iawn.

"Mae llawer o bobl yn dod i’n clwb ni ac yn meddwl ei fod yn gyfleuster sy’n perthyn i Chwaraeon Cymru neu’n cael ei ariannu gan yr awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru, ond dim ond clwb i aelodau ydyn ni sy'n cael ei redeg fel elusen sy'n ariannu ei hun," meddai ymddiriedolwr yn y clwb a'r ysgrifennydd, Emma Hetherton.

"Mae pob ceiniog sy'n dod i mewn i'r adeilad yma’n cael ei hailfuddsoddi yn y clwb ei hun ac rydyn ni’n cael ein hariannu gan danysgrifiadau'r aelodau eu hunain. 

"Roedd rhaid i ni gau ar 24 Mawrth a doedden ni ddim yn gallu agor eto tan 17 Awst. Fe ofynnwyd i'n haelodau ni a fydden nhw’n hapus i ddal ati i dalu eu ffioedd aelodaeth ac fe wnaethon nhw gytuno, ond wrth gwrs doedd gennym ni ddim arian yn dod i mewn o ffioedd pobl sy’n talu wrth chwarae yma, a hefyd y grwpiau cymunedol sy’n defnyddio ein caffi ni."

Trodd y clwb at Gronfa Cymru Actif ac mae’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol am y grant sydd wedi ei helpu i oroesi.

Mae'r gronfa – sy’n cael ei gweinyddu gan Chwaraeon Cymru – yn helpu clybiau chwaraeon i fforddio'r pethau sylfaenol i sicrhau eu bod yn goroesi.

Mae'r arian yma wedi galluogi’r clwb i brynu thermomedrau talcen, diheintyddion dwylo, arwyddion ar gyfer y system un ffordd sydd wedi cael ei chreu o’r newydd, rhwystrau plastig rhwng byrddau a batiau a pheli tennis bwrdd newydd ar adeg pan mae gwasgu ar ei incwm.

Syniad arall oedd addasu ardal awyr agored yn y clwb i alluogi symud rhai byrddau y tu allan, ond mae hynny wedi cael ei ohirio nawr wrth geisio am fwy o arian.

Mae newidiadau mewnol yn golygu bod nifer y byrddau sydd ar gael yn llai, o 16 i uchafswm o naw. 

Mae'r clwb – sydd â thimau yng nghynghreiriau Cymru a ledled y DU – yn gartref i nifer o chwaraewyr mewn gwahanol sgwadiau yng Nghymru, a ddechreuodd gymryd rhan yn y gamp fel gweithgaredd ffitrwydd ac i fwynhau.

Yn ogystal â Hursey a Davies, mae Thomas yn hyfforddi nifer o bencampwyr presennol Cymru a’r rhai sydd â photensial i fod yn bencampwyr yn y dyfodol.

"Mae gennym ni tua dwsin o chwaraewyr sy'n cynrychioli Cymru ar hyn o bryd ar wahanol lefelau ac mae rhai ohonyn nhw’n mynd i chwarae ym mhob cwr o’r byd," meddai Emma.

"Ond mae pob aelod, pa lefel bynnag maen nhw'n chwarae – ac mae llawer yn dod yma i gael hwyl, ymarfer corff a rhyngweithio’n gymdeithasol – wedi bod yn gefnogol iawn i’r newidiadau ac yn awyddus iawn i ddal ati i chwarae.

"Ar un ystyr, mae tennis bwrdd yn gamp sy'n addas yn eithaf naturiol i gadw pellter cymdeithasol oherwydd bod gennych chi rwystr naturiol y bwrdd rhwng y chwaraewyr.

"Ond yr hyn mae pawb wedi'i golli, yn fy marn i, yw'r agwedd gymdeithasol – roedd cymaint o bobl yn dyheu am ddychwelyd yma er mwyn cael rhyngweithio ag eraill, oherwydd mae tennis bwrdd, yn ogystal â bod yn fanteisiol mewn sawl ffordd arall, yn gallu bod yn gamp gymdeithasol iawn."