Mae'r pum Cyngor Chwaraeon wedi gwneud dau benodiad pwysig fel rhan o gamau nesaf y fenter Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon.
Mae Prif Weithredwyr UK Sport, Sport England, sportscotland, Chwaraeon Cymru a Sport Northern Ireland wedi dod at ei gilydd i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol ar draws eu gwledydd drwy ddatblygu cynllun ar y cyd i helpu i greu cymunedau chwaraeon sy'n adlewyrchu'n briodol y cymdeithasau maent yn eu cynrychioli.
Mae AKD Solutions wedi cael eu penodi i greu cyfle profiadau byw a heddiw lansiwyd yr ymgyrch #RhannwchEichStori ganddynt, gan ofyn i bobl o gymunedau o Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig rannu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o fynediad i chwaraeon ac o gymryd rhan ynddynt neu gael eu heithrio ohonynt.
Penodwyd Canolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Sheffield Hallam i gasglu’r data sy'n bodoli eisoes am hil ac ethnigrwydd mewn chwaraeon at ei gilydd, i ganfod y bylchau yn y cofnodion hyn a sicrhau gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau sy’n atal cymryd rhan a gwneud cynnydd. Bydd y ddau ddarn o waith yn gwneud argymhellion clir ar gyfer newid y gall y Cynghorau Chwaraeon ei ddatblygu.
Dywedodd Sally Munday, Prif Swyddog Gweithredol UK Sport: "Mae creu'r cyfle i glywed profiadau byw yn gam sylfaenol y mae ei angen yn fawr wrth i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu hiliaeth a chreu cymuned chwaraeon sydd wir yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymdeithas. Rydyn ni’n cynnig llwyfan ar gyfer gwneud newidiadau angenrheidiol i sicrhau bod y chwaraeon rydyn ni i gyd mor hoff ohonyn nhw wir yn gynhwysol. Mae'r ymgyrch yn cynnig lle diogel i'r rhai y mae angen i ni glywed eu lleisiau fod yn agored ac yn onest a thrwy hyn byddwn yn dysgu gwersi clir ac yn cael argymhellion ar gyfer newid.
"Bydd canlyniadau ymgyrch #RhannwchEichStori a'r gwaith sy’n cael ei wneud gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Sheffield Hallam yn ein galluogi i fod mewn sefyllfa i ddeall ac ymgysylltu'n well o ran y materion hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol sy'n bodoli yn ein sector, a gweithredu o ganlyniad. Er bod pob Cyngor Chwaraeon wedi ceisio mynd i'r afael â'r mater yn unigol, rydym yn cydnabod nad yw’r gwaith hwn wedi mynd yn ddigon pell nac wedi cael ei wneud ar y cyd. Gan weithio mewn partneriaeth fel Cynghorau Chwaraeon, rydyn ni’n benderfynol o arwain a sbarduno'r newid rydyn ni eisiau ei weld."
Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Nid yw chwaraeon yng Nghymru mor gynhwysol ag y dylai fod ac mae hynny'n golygu bod gormod o bobl yn colli’r manteision y gall bod yn actif eu cynnig. Yr unig ffordd y gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth symud ymlaen yw drwy ddeall y darlun yn llawn drwy glywed am y profiadau a’r anawsterau mae unigolion wedi gorfod eu dioddef.
“Mae ymrwymiad gwirioneddol i wneud newid hirdymor nodedig mewn ffordd sydd heb ei chyflawni o'r blaen. Rydyn ni’n annog pobl yng Nghymru i gamu ymlaen a chymryd rhan, gan ein helpu ni i newid pethau.
Drwy ymgyrch #RhannwchEichStori, cynhelir 20 o gyfweliadau unigol a bydd cyfanswm o 25 o fforymau rhithwir sy'n cynnwys 375 o bobl yn cael eu cynnal gyda chyfanswm o 600 o straeon personol yn cael eu casglu i gyd. Bydd y cyfleoedd hyn yn caniatáu i bobl o gymunedau o Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig siarad yn onest am eu profiadau, gan gynnwys problemau hanesyddol a phresennol, mewn amgylchedd diogel a heb feirniadaeth na rhagfarn. Bydd yr ymgyrch yn weithredol tan ddydd Llun 15 Chwefror 2021, i gymryd rhan ewch i [INSERT WEBSITE LINK].
Bydd yr astudiaeth ddata a gynhelir gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Sheffield Hallam yn canolbwyntio ar y gweithlu mewn chwaraeon – o wirfoddolwyr i'r gweithlu cyflogedig ac uwch arweinwyr – yn ogystal â chyfranogwyr mewn chwaraeon – o lawr gwlad i dalent a pherfformiad uchel.
Disgwylir i'r ddau ddarn o waith gael eu cwblhau erbyn mis Mawrth ac ar ôl hynny bydd y ddau ddarn o waith yn cael eu huno â'i gilydd i greu adroddiad terfynol a map ffordd ar gyfer gweithredu fel rhan o'r fenter Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon.