Skip to main content

Nicola Wheten – yn brwydro dros ei chymuned

Mae chwaraeon yn cael effeithiau sy’n newid bywydau ar gymunedau ledled Cymru diolch i ymdrechion anhygoel gwirfoddolwyr fel Nicola Wheten.

Fel arfer, fe welwch chi Nicola yn ymladd tanau fel ei bywoliaeth. Ond fe wnaeth tân gynnau ynddi hi yn 2022 pan gerddodd i mewn i glwb bocsio am y tro cyntaf. Aeth i hyfforddi yng Nghlwb Bocsio Apollos yng Nghaerdydd gan ei bod wedi cofrestru ar gyfer gêm focsio elusennol i godi arian ar gyfer cymorth meddygol i achub bywyd ei nai.

Enillodd yr ornest, ond yn bwysicach fyth, mwynhaodd yr hyfforddi yn fawr ac roedd eisiau rhannu ei hangerdd newydd gyda merched eraill. Lai na dwy flynedd yn ddiweddarach, mae Nicola yn hyfforddwraig yn Apollos a hi ydi’r grym y tu ôl i’r clwb yn symud o fod yn amgylchedd llawn dynion yn bennaf i fod yn rhywle diogel sy’n croesawu merched o bob oed.

Cafodd ei heffaith ar y gymuned leol yn Llanedern a Phentwyn ei chydnabod hyd yn oed wrth iddi ennill y categori ‘Merched mewn Chwaraeon’ a oedd wedi’i noddi gan Chwaraeon Cymru yng Ngwobrau Womenspire 2023 Chwarae Teg.

Meddai Nicola: “’Fyddwn i byth wedi dychmygu fy hun yn bocsio. Dydych chi ddim yn gweld pobl fel fi yn cymryd rhan yn y gamp yn aml, ond roeddwn i eisiau her a gwthio fy hun i wneud rhywbeth cwbl wahanol. Dyna’r peth gorau rydw i wedi’i wneud, i mi fy hun ac i’r bobl o fy nghwmpas i.”

Felly sut wnaeth Nicola ddenu mwy o ferched i mewn i'r clwb? Cymysgedd o berswâd a'u llusgo nhw yno'n llythrennol!

“I ddechrau, fe wnes i estyn allan at ffrindiau a theulu, gan guro ar eu drysau nhw i’w llusgo i lawr i’r clwb,” esboniodd Nicola.

“Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ansicr ond unwaith wnaethon nhw gamu i’r cylch, fe wnaethon nhw ddarganfod hyder newydd ynddyn nhw eu hunain ac roedden nhw’n gallu teimlo’r gefnogaeth a’r positifrwydd o fewn y clwb. Rydw i'n falch iawn o helpu i rymuso pobl i gredu ynddyn nhw eu hunain. Mae’n ymwneud ag adeiladu’r ymdeimlad hwnnw o ddiogelwch a meithrin ymddiriedaeth gyda ni fel hyfforddwyr ac ynddyn nhw eu hunain fel eu bod nhw’n hapus ac yn iach.” 

“Rydw i’n rhoi llawer o amser, egni a dagrau i’r clwb yma diolch i gefnogaeth fy ngŵr anhygoel i. I mi, gallu cefnogi ein haelodau ni sy’n dod o bob math o gefndiroedd gwahanol a dangos iddyn nhw eu bod nhw’n fedrus, yn gryf ac yn wych, dyna sy’n fy ysgogi i i ddal ati gyda’r gwaith rydw i’n ei wneud.

“Rydyn ni’n newid bywydau pobl, yn meithrin eu gwytnwch nhw, cynyddu eu hyder, rhoi sgiliau iddyn nhw sy'n eu helpu i ddod yn unigolion cryfach. Heb y clwb yma, fe fyddai rhai o'r aelodau yma mewn sefyllfa wahanol iawn nawr. I rai, mae'r clwb yma’n achubiaeth.

“Mae wedi bod yn siwrnai bersonol ac roeddwn i eisiau rhannu hynny gyda merched. Roedd yna lawer o ferched roeddwn i'n eu hadnabod a allai elwa o fod yn yr amgylchedd yma. Yr ymdeimlad o berthyn a theulu a chael lle diogel i fod yn chi’ch hun.”

Ddeunaw mis yn ôl, roedd Clwb Bocsio Apollos ar fin cau - clwb oedd yn ei chael yn anodd heb unrhyw strwythur clir, aelodaeth gyfyngedig, a fawr ddim arian. Erbyn heddiw, mae’r trawsnewid sydd wedi cael ei arwain gan Nicola a gwirfoddolwyr eraill yn ddim llai na rhyfeddol. 

Erbyn hyn mae ganddyn nhw fwy na 200 o aelodau ac maen nhw wedi esblygu i fod yn glwb cymunedol ffyniannus. Fel clwb sydd wedi’i leoli yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig De Cymru, mae’n bwysig iawn i Nicola bod Apollos yn defnyddio pŵer chwaraeon i gefnogi ac arwain ei aelodau oddi wrth ddylanwadau negyddol, troseddu a ‘chyffurlinellau’.

Mae'r tîm yn darparu sesiynau hyfforddi arbenigol i ferched a genethod, gan wneud yn siŵr bod yr hyfforddiant yn cael ei addasu i weddu i wahanol lefelau a bod merched a genethod yn teimlo bod croeso iddyn nhw yn y clwb. Y tu hwnt i hynny, maen nhw hefyd wedi cael hyfforddiant cynnwys anabledd, gan sicrhau bod Bocsio Apollos yn hygyrch i'r gymuned gyfan.

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus: “Diolch i ymdrechion Nicola a’r gwirfoddolwyr eraill, mae Apollos yn enghraifft berffaith o sut gall chwaraeon gael effaith mor gadarnhaol ar fywydau pobl.

“Mae gwirfoddolwyr fel Nicola yn cael effaith enfawr. Rydyn ni’n amcangyfrif bod gwirfoddolwyr chwaraeon yng Nghymru yn darparu gwerth £430m o lafur bob blwyddyn. ’Fyddai chwaraeon fel rydyn ni’n eu hadnabod ddim yn bosibl hebddyn nhw, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar am eu cyfraniad.

“I unrhyw un sy’n ystyried dod yn wirfoddolwr, mae’n werth nodi cymaint mae Nicola ac eraill yn elwa o’r hyn maen nhw’n ei wneud. Mae helpu eraill yn gwneud i chi deimlo’n well hefyd – mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.”